Skip to main content

Understanding Suicide Prevention briefing paper (Welsh) 13.8.25

Page 1

Papur Briffio

Strategaeth Deall Atal Hunanladdiad a Lleihau Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd y Strategaeth Deall Atal Hunanladdiad a Lleihau Hunan-niweidio ym mis Ebrill 2025, ac mae’n cyflwyno uchelgais Llywodraeth Cymru, sef creu dull mwy person-ganolog, cyfannol a thosturiol o gefnogi pobl sy’n hunan-niweidio, a’r rhai sydd wedi teimlo effaith hunan-niweidio a hunanladdiad. Nod y strategaeth yw gostwng nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n lladd eu hunain ac yn hunan-niweidio trwy roi sylw i’r achosion gwaelodol a’r ffactorau risg, gwella systemau cefnogi, a hybu ymyrraeth gynnar. Gweledigaeth drosfwaol y strategaeth yw creu cymunedau yng Nghymru lle nad oes stigma ynghlwm wrth hunanladdiad a hunan-niweidio, fel bod unigolion yn gallu teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cefnogi i geisio cymorth pan fydd angen, ac i sicrhau bod pobl sy’n hunan-niweidio, sydd wedi bod yn meddwl am ladd eu hunain, neu sydd wedi ceisio gwneud hynny, yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu deall. Bod gan y rhai sydd angen hynny fwyaf fynediad at gefnogaeth a gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion, ar yr adeg ac yn y man lle mae angen hynny arnynt. Dealltwriaeth yw carreg sylfaen y strategaeth, a dyna sut mae’n llwyddo i gyflawni’r weledigaeth i Gymru a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth honno, mae’r strategaeth yn nodi bod atal hunanladdiad a lleihau hunan-niweidio yn fater i bawb. Mae ffocws ar grwpiau sydd mewn perygl ac ataliaeth, a dull gweithredu dim drws anghywir i’r rhai sy’n ceisio cymorth. Bydd cyflwyno gwasanaeth a pholisi yn adlewyrchu lleisiau’r rheiny sydd â phrofiad bywyd ac yn hybu dull gweithredu person-ganolog. Mae’r strategaeth yn cwmpasu chwe amcan allweddol sy’n ceisio sicrhau bod sylfaen gadarn o dystiolaeth, camau gweithredu cydlynus ar draws y llywodraeth a’r sectorau, ataliaeth gyflym, effeithiol, a chefnogaeth, gan wella sgiliau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ymatebion priodol a thosturiol, a chyfathrebu cyfrifol. Nod yr amcanion hyn yw:-


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Understanding Suicide Prevention briefing paper (Welsh) 13.8.25 by childreninwales - Issuu