Skip to main content

Pecyn Offer Strwythyr y Flwyddyn Ysgol

Page 1

Strwythur y Flwyddyn Ysgol Pecyn Offer ar gyfer Ymgynghori â Phlant a Phobl Ifanc


Ar ran Llywodraeth Cymru a Miller Research, mae Cymru Ifanc eisiau clywed gan blant a phobl ifanc yn yr ysgol am gynigion i newid dyddiadau tymhorau ysgol fel bod y tymhorau’n fwy cyfartal o ran hyd, gydag egwyliau wedi’u dosbarthu’n fwy cyson, mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Rydyn ni am rymuso ysgolion i gyfranogi’n weithredol yn yr ymgynghoriad ar Strwythur y Flwyddyn Ysgol. Mae’r pecyn offer hwn yn darparu adnoddau ac arweiniad i ysgolion drefnu a chynnal eu hymgyngoriadau eu hunain gyda phlant a phobl ifanc. Sut mae ymateb Dylai ymatebion i’r ymgynghoriad hunan-gwblhau hwn gael eu hanfon trwy e-bost at rachel.clement@childreninwales.org.uk erbyn dydd Gwener 9 Chwefror 2024 I gael rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig e-bostiwch rachel.clement@childreninwales.org.uk

2


Cynnwys y Pecyn Offer Canllaw cyflwyno Croeso a phwrpas y sesiwn hunan-gwblhau...........................................................................................5 Pwy yw Plant yng Nghymru...............................................................................................................................7 Rhestr wirio ar gyfer yr ymgynghori..............................................................................................................8 Cynllun y sesiwn Canllaw cynhwysfawr yn amlinellu holl gynllun y sesiwn.................................................................10 Awgrymiadau ar gyfer hwyluso trafodaethau grŵp a rheoli amser...........................................13 Rhestr gêmau i dorri’r garw................................................................................................................................15 Adnoddau Cwestiynau Ymgynghori......................................................................................................................................18 Dolen fideo..................................................................................................................................................................19 Dogfen Llywodraeth Cymru yn darlunio calendr y flwyddyn ysgol gyfredol a’r cynigion......................................................................................20 Ffurflenni Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y plant a'r bobl ifanc.......................................................................22 Adborth..........................................................................................................................................................................25 Sut dylwn i anfon fy adborth?............................................................................................................................27

3


Canllaw cyflwyno 4


Croeso a phwrpas y sesiwn hunan-gwblhau Croeso a diolch am chwarae rhan weithredol ym mhecyn offer yr ymgynghoriad hunan-gwblhau ar Strwythur y Flwyddyn Ysgol. Rydyn ni wrth ein bodd yn cael mewnbwn gwerthfawr eich ysgol wrth i ni fynd ati ar y cyd i archwilio newidiadau posibl i galendr y flwyddyn ysgol.

Prif nodau’r pecyn offer yma • Cyrraedd cynifer o ysgolion a phobl ifanc â phosib sy’n byw yng Nghymru • Rhoi arweiniad a’r offer angenrheidiol i ymgymryd â’r ymgynghoriad a’r ymgysylltu ynghylch Strwythur y Flwyddyn Ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon

• Sicrhau bod yr ymgynghori a’r ymgysylltu yn gyson ac yn cyrraedd y safon uchaf.

Ar gyfer pwy mae’r pecyn offer wedi’i fwriadu? Pob ysgol sydd wedi cytuno i fod yn rhan o’r pecyn offer hunan-gwblhau. Lluniwyd y sesiwn ar gyfer pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol, ond rydyn ni’n deall bod gwahaniaethau oed, felly lluniwyd y pecyn i fod yn hyblyg er mwyn darparu ar gyfer anghenion y plant a’r bobl ifanc.

5


Pwrpas cymryd rhan Mae’r ymgynghoriad hwn yn llwyfan hanfodol i’ch disgyblion gyfrannu eu dealltwriaeth a’u barn ar y cynnig ynghylch Strwythur y Flwyddyn Ysgol. Mae eu hymwneud gweithredol yn rhan allweddol o lunio dyfodol y flwyddyn ysgol, gan sicrhau bod hynny’n cyfateb i anghenion a dewisiadau disgyblion, addysgwyr, a’r gymuned ysgol ehangach.

Plant a Phobl Ifanc yn lleisio barn Rydyn ni’n credu ym mhŵer lleisiau ifanc ac yn cydnabod pwysigrwydd darparu llwyfan i ddisgyblion fynegi eu barn ynghylch calendr y flwyddyn ysgol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc gyfranogi’n weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu haddysg a’u lles.

Clywed Lleisiau Trwy gymryd rhan, mae eich ysgol yn sicrhau bod lleisiau disgyblion yn cael eu clywed yn glir ac yn uchel. Rydyn ni’n gosod gwerth ar bersbectif a phrofiadau unigryw pawb sy’n cyfranogi, ac mae’r ymgynghoriad hwn yn tystio i’n hawydd i greu amgylchedd cynhwysol, cyfranogol. Bydd eich cyfraniad nid yn unig yn dylanwadu ar y drafodaeth sy’n parhau, ond hefyd yn cael effaith barhaol ar strwythur y flwyddyn ysgol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich ymroddiad i feithrin newid cadarnhaol ac yn edrych ymlaen at glywed cyfraniad gwerthfawr eich ysgol chi i’r broses.

6


Pwy yw Plant yng Nghymru Plant yng Nghymru yw’r corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Menter gan Plant yng Nghymru sy’n chwyddo ac yn cynnal lleisiau plant a phobl ifanc ledled Cymru i gael eu clywed, i gael gwrandawiad, ac i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau yw Cymru Ifanc; seiliwyd hyn ar CCUHP a’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Ein nod yw gwneud hyn trwy sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gyfranogi a chodi materion sy’n bwysig iddyn nhw; sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau, swyddogion polisi, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion. Mae gan Cymru Ifanc hanes cyson o sbarduno agendâu hawliau plant a phobl ifanc, ymgysylltiad a chyfranogiad ar draws Cymru. Mae gennym ni ddull partneriaeth cydlynus o ymdrin â’n gwaith, gan gwmpasu plant, pobl ifanc a phartneriaid o ystod o sectorau a sefydliadau, er mwyn cefnogi hawliau plant a chyfranogiad; sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i’n holl benderfyniadau. Ein ffocws yw galluogi lleisiau plant a phobl ifanc i gael eu clywed a chael gwrandawiad ledled Cymru. ‘Cael Llais – Cael Dewis.’

7


Rhestr wirio ar gyfer yr Ymgynghori 1. Nodi grŵp ffocws o bobl ifanc 2. Cadarnhau pryd bydd y sesiwn yn cael ei chynnal 3. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd gyda’r grwp 4. Paratoi’r sesiwn – adnoddau / edrych ar gynllun y sesiwn etc. 5. Cymryd nodiadau ar hyd y sesiwn ac annog cyfranogwyr i roi adborth 6. Gwiriwch fod y rhieni/gofalwyr wedi rhoi caniatâd i’r plant/bobl ifanc gymryd rhan 7. Anfon yr holl wybodaeth a chanfyddiadau’r ymgynghoriad erbyn dydd Gwener 9 Chwefror 2024 at Rachel.clement@childreninwales.org.uk Sylwch: nid oes angen i’r plant/bobl ifanc ysgrifennu eu henwau nac unrhyw wybodaeth bersonol arall ar y taflenni a fydd yn cael eu casglu. Anogir ysgolion i addasu’r pecyn offer i gyd-fynd â’u hanghenion penodol. Y nod yw darparu adnodd cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio, sy’n grymuso ysgolion i gynnal y sesiwn hunan-gwblhau yn effeithiol gyda’u disgyblion.

8


Cynllun y sesiwn 9


Strwythur y Flwyddyn Ysgol – cynllun y sesiwn ymgynghori Ymgysylltu ac ymgynghori â phobl ifanc ar Strwythur y Flwyddyn Ysgol. Cynhelir trafodaeth ar eu meddyliau a’u profiadau gyda phobl ifanc. Trwy weithgareddau ac adnoddau rhyngweithiol, bwriad y sesiwn yw annog deialog agored a darparu cyfle i bobl ifanc fynegi eu barn. Hyd – 60 munud Hwylusydd/Adnoddau Adnoddau: Cyfrifiadur neu sgrîn i rannu’r fideo / papur fflipsiart / peniau / lliwiau / nodiadau gludiog / fersiynau wedi’u hargraffu o’r gwyliau ar hyn o bryd / y cynigion – dogfen Llywodraeth Cymru / copïau wedi’u hargraffu o’r Cwestiynau. Gweler tudalennau 18-20. Ar hyd y sesiwn, bydd digon o gyfleoedd i ofyn rhagor o gwestiynau e.e. yn y gwaith grŵp / un i un. Dylid cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr ar hyd y sesiwn. Gellir addasu neu newid rhai tasgau yn ôl anghenion y bobl ifanc. Mae’n hanfodol creu amgylchedd diogel, cynhwysol lle mae’r cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi eu barn. Amser

Gweithgaredd Cyflwyniadau 1. Croeso a phwrpas y fideo ar Strwythur y Flwyddyn Ysgol Fersiwn Saesneg: https://www.youtube.com/watch?v=RBvZFfkYgjQ&feature=youtu.be

5 munud

Fersiwn Gymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=OdJ50s0h1Mw Beth yw ymgynghoriad? Trosolwg byr o galendr y flwyddyn ysgol gyfredol a’r angen am y newid. Esbonio pwysigrwydd casglu eu barn ar galendr y flwyddyn ysgol. Rhannu enwau ac oedrannau? Gallwch greu awyrgylch hamddenol trwy ofyn i’r cyfranogwyr rannu eu henwau a’u hoedrannau (nodwch oed bob cyfranogwr)

5 munud

Icebreakers

• Gêm o’ch dewis – gweler tudalen 15 am syniadau Y calendr presennol Darlunio’r calendrau – cyfredol/cynigion (dogfen Llywodraeth Cymru)

5 munud

• Trafod y calendr blwyddyn ysgol presennol • Amlygu’r prif wyliau, cyfnodau arholiadau a’r angen posibl am y newidiadau sy’n cael eu cynnig.

10


Gweithgaredd grŵp – y newidiadau sy’n cael eu cynnig

• Rhannu’r cyfranogwyr yn grwpiau bach • Darparu calendr ar gyfer y newidiadau a gynigir (gallwch chi argraffu copïau papur neu rannu dogfen Llywodraeth Cymru ar y sgrîn)

• Rhoi cyfarwyddyd i’r grwpiau drafod ac ystyried beth fydd ystyr y newidiadau yma iddyn nhw? Gallan nhw ateb y cwestiynau ar fersiynau printiedig rydych chi’n eu darparu neu ar bapur fflipsiart / A3.

1. Ydych chi’n hoffi’r calendr ysgol presennol? 25 munud

2. Dychmygwch fod 1 wythnos o wyliau’r haf yn cael ei symud i fis Hydref i wneud gwyliau mis Hydref yn 2 wythnos, yn hytrach nag 1 wythnos. Byddai hynny’n gwneud gwyliau’r haf yn 5 wythnos o hyd. Ydych chi’n hoffi’r syniad yna? 3. Dychmygwch fod gwyliau’r gwanwyn yn digwydd ar adeg debyg bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae gwyliau’r gwanwyn yn symud er mwyn digwydd yr un pryd â’r Pasg. Gall hynny olygu bod rhai tymhorau ysgol yn hir iawn neu’n fyr iawn. Ydych chi’n hoffi’r syniad o gael gwyliau’r gwanwyn ar adeg debyg bob blwyddyn? 4. Dychmygwch ein bod ni’n cael egwyl o 2 wythnos ym mis Mai neu fis Mehefin. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cael 1 wythnos. Byddai hynny’n golygu bod gwyliau’r haf 1 wythnos yn fyrrach. Ydych chi’n hoffi’r syniad yna? 5. Ydych chi’n hoffi’r syniad o gael diwrnodau canlyniadau arholiadau TGAU, AS a lefel A yn yr un wythnos?

Grwpiau’n rhannu 5 munud

• Pob grŵp yn cyflwyno’u canfyddiadau a’u barn yn gryno. • Hwyluso sesiwn Holi ac Ateb gryno ar ôl pob cyflwyniad.

Effaith ar y Gymraeg Gofyn i’r cyfranogwyr weithio yn eu grwpiau i ateb y cwestiynau canlynol am y Gymraeg. 1. Ydych chi’n meddwl byddai newid y calendr ysgol yn effeithio ar y Gymraeg? 5 munud

2. Pa effeithiau rydych chi’n meddwl fyddai ar y Gymraeg? Sut gallen ni leihau unrhyw effeithiau gwael a chynyddu’r rhai da? Agor trafodaeth i gasglu meddyliau eraill ynghylch y calendr ysgol. 3. Oes yna unrhyw beth arall hoffech chi ddweud wrthyn ni o ran eich meddyliau am y calendr ysgol?

11


Rhannu 5 munud

• Grwpiau’n rhannu eu myfyrdodau a’u meddyliau ychwanegol • Annog trafodaeth agored Myfyrio ac adborth

• Canmol y cyfranogwyr ar eu hymgysylltu a’u cyfraniadau. • Crynhoi’r prif bwyntiau a drafodwyd yn ystod y sesiwn. • Diolch i’r cyfranogwyr am eu mewnbwn gwerthfawr. 5 munud NODYN – Dylech addasu’r amseru yn ôl anghenion penodol y grŵp, ac annog awyrgylch agored, sy’n dangos parch, ar hyd y sesiwn Ar ddiwedd y sesiwn, casglwch yr holl nodiadau gan y cyfranogwyr a nodiadau’r staff a’u rhannu â rachel.clement@childreninwales.org.uk fydd yn eu coladu yn dystiolaeth. Gweler tudalen 27.

12


Awgrymiadau ar gyfer Hwyluso Trafodaethau Grŵp a Rheoli Amser 1. Pennu Amcanion Clir

• Cyfleu’n glir amcanion y drafodaeth mewn grwpiau ar y cychwyn. • Sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall pwrpas y sesiwn a’r canlyniadau a ddisgwylir. 2. Creu Awyrgylch Croesawgar

• Meithrin amgylchedd lle mae’r cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi eu barn. • Defnyddio iaith gadarnhaol ac annog gwrando gweithredol. 3. Torri’r Garw i Feithrin Tîm

• Dechrau gyda gweithgaredd byr i dorri’r garw, fydd yn hwyluso’r broses o greu tîm ac yn cyflwyno’r cyfranogwyr i’r drafodaeth yn raddol.

4. Diffinio Tasgau’r Grwpiau’n Glir

• Mynegi’n glir beth yw’r tasgau a roddwyd i bob grŵp yn ystod y gweithgaredd. • Darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig i osgoi dryswch. 5. Monitro Deinameg y Grwpiau

• Rhoi sylw i ddeinameg y grwpiau ac ymyrryd os bydd unrhyw gyfranogwr yn rhy amlwg yn y drafodaeth.

• Annog cyfranogwyr mwy tawel i rannu eu meddyliau. 6. Rheoli Amser

• Dyrannu terfynau amser penodol ar gyfer pob eitem ar yr agenda er mwyn cadw at yr amserlen.

• Defnyddio ciwiau gweledol neu amseryddion i atgoffa’r grwpiau am y cyfyngiadau amser. 7. Annog Cyfranogiad Cynhwysol

• Sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu. • Cwestiynau uniongyrchol i wahanol aelodau o’r grwpiau er mwyn cynnwys pawb. 8. Rheoli’r Rhannu gan y Grwpiau

• Nodi terfyn amser penodol ar gyfer cyflwyniad pob grŵp. • Hwyluso sesiwn Holi ac Ateb fer ar ôl pob cyflwyniad i gynnal yr ymgysylltu. 13


9. Aros yn Hyblyg

• Bod yn hyblyg ac addasu cyflymdra’r drafodaeth ar sail anghenion y grŵp. • Caniatáu ar gyfer amser ychwanegol os bydd pwnc yn cynhyrchu trafodaeth helaeth. 10. Defnyddio Cymhorthion Gweledol yn Effeithiol

• Defnyddio darluniadau’r calendrau presennol a’r rhai a gynigir i wella dealltwriaeth. • Gall cymhorthion gweledol helpu i gyfleu gwybodaeth yn effeithlon a chynnal ymgysylltiad y cyfranogwyr.

11. Cynnal Ffocws y Drafodaeth

• Tywys y drafodaeth yn dringar yn ôl at y prif bynciau os bydd yn mynd oddi ar y trywydd. 12. Annog Adborth Adeiladol

• Meithrin amgylchedd lle mae cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus yn darparu adborth adeiladol.

• Annog adborth nid yn unig ar y newidiadau a gynigir, ond hefyd ar y broses ei hun. 13. Blaenoriaethu Pwyntiau Allweddol

• Crynhoi’r prif bwyntiau a drafodwyd yn ystod cyflwyniadau’r grwpiau i sicrhau eglurder. • Ffocws ar y pwyntiau mwyaf perthnasol, sy’n cael yr effaith fwyaf. 14. Rheoli Trafodaeth ar yr Effaith ar y Gymraeg

• Annog cyfranogwyr i fynegi eu meddyliau am yr effaith bosibl ar y Gymraeg. • Cymedroli’r drafodaeth i sicrhau bod syniadau’n cael eu cyfnewid â pharch. 15. Neilltuo Amser i Fyfyrio

• Caniatáu amser ar y diwedd i fyfyrio a rhoi adborth. • Cydnabod y cyfranogwyr a dangos gwerthfawrogiad o’u cyfraniadau. Nodyn: Gallwch addasu’r awgrymiadau hyn ar sail deinameg benodol y grŵp a bod yn barod i addasu yn ôl y galw yn ystod y sesiwn.

14


Awgrymiadau Torri’r Garw Mae gêmau torri’r garw yn ffordd wych o ennyn diddordeb disgyblion a chreu awyrgylch cadarnhaol a chyfforddus yn ystod gwaith ymgynghori. Maen nhw’n helpu i chwalu rhwystrau cychwynnol, meithrin tîm ac annog cyfranogiad. Yn y pen draw mae hynny’n hybu cyfathrebu agored a chydweithio yn y grŵp. Syniadau ar gyfer torri’r garw ar ddechrau’r sesiwn ymgynghori: Rhoi mewn trefn / grwpiau… 1. “Ffurfiwch linell yn ôl eich taldra. O’r talaf i’r byrraf, ewch amdani!” 2. “Ffurfiwch linell yn ôl dyddiad eich pen-blwydd. Mis Ionawr i fis Rhagfyr, gan gynnwys trefn y diwrnodau, ewch amdani!” 3. Ffurfiwch grwpiau gyda phobl sydd â llygaid yr un lliw â chi 4. Ffurfiwch grwpiau gyda phobl sydd â gwallt yr un lliw â chi. Dau Wirionedd a Chelwydd Mae pawb yn cymryd tro i rannu dau osodiad gwir amdanyn nhw eu hunain ac un sydd ddim yn wir. Mae eraill yn ceisio dyfalu p’un yw’r celwydd. Bingo Pobl Creu taflen bingo gyda ffeithiau neu nodweddion diddorol. Mae rhaid i bawb gymysgu, a cheisio dod o hyd i rywun sy’n ffitio pob disgrifiad i lanw’r tŷ. Enwch y Gân Chwarae clipiau byr o ganeuon poblogaidd. Mae pawb yn cystadlu i ddyfalu teitl y gân neu’r artist gyntaf, gan annog cystadleuaeth gyfeillgar. Dod i nabod pobl Mae rhaid i bawb symud o amgylch y gofod yn cyflwyno’u hunain cyn symud ymlaen at berson newydd. Creu cysylltiad Mae rhaid i un person ddweud rhywbeth sy’n wir amdanyn nhw e.e. Rydw i’n hoffi mynd i’r sinema / Rydw i’n hoffi mynd i’r clwb ar ôl ysgol etc. Os yw hynny’n creu cysylltiad â’r disgyblion eraill yn y stafell, mae rhaid iddyn nhw godi eu dwylo. Yna bydd y person cyntaf gododd law yn dweud rhywbeth sy’n wir amdanyn nhw, ac yn y blaen.

15


Adrodd Stori mewn Grŵp Dechreuwch stori â brawddeg, gyda phob person yn ychwanegu brawddeg arall i barhau â’r stori. Mae hon yn ffordd greadigol o annog cydweithio. Cyfnewid Pictionary Mae’r disgyblion yn rhannu’n dimau, ac mae pob aelod o’r tîm yn ffurfio rhan o lun sy’n gysylltiedig â gair neu ymadrodd. Mae rhaid i’r tîm ddyfalu beth yw’r ddelwedd gyfan. Ôl traed Mamgu/Tadcu Bydd un person yn famgu/dadcu – mae rhaid iddyn nhw wynebu’r wal. Bydd gweddill y rhai sy’n cymryd rhan yn sefyll mewn llinell ar ochr arall y stafell, ac yna’n ceisio cyrraedd Mamgu/ Tadcu yn dawel a chyffwrdd â’i hysgwydd. Fodd bynnag, gall Mamgu/Tadcu droi i edrych tu ôl iddi ar unrhyw adeg. Os bydd hi’n gweld unrhyw un yn symud, bydd yn pwyntio atyn nhw, a bydd rhaid iddyn nhw fynd nôl i ddechrau’r llinell. Does dim hawl gan neb i symud pan fydd mamgu yn edrych arnyn nhw. Y person sy’n llwyddo i gyffwrdd ag ysgwydd Mamgu/Tadcu fydd y Famgu/Tadcu newydd wrth i’r gêm ailgychwyn. Gallwch chi ychwanegu strategaethau at y gêm i’w gwneud yn fwy heriol, ac i annog pawb i weithio fel tîm. I wneud hyn yn fwy heriol, gallwch chi ychwanegu propiau fel hetiau, peli, allweddi, esgidiau e.e. mae rhaid i bawb wisgo’r het cyn iddi gyrraedd Mamgu/Tadcu, neu weithio fel tîm i guddio’r allweddi rhag mamgu/tadcu, gwneud yr allweddi’n anoddach eu ffeindio. Os bydd rhywun yn symud wrth wneud y dasg yma, mae rhaid i bawb fynd nôl i’r dechrau. Y Gêm Gyfweld Gan weithio mewn parau, rhowch gyfarwyddyd i’r disgyblion gyfweld ei gilydd yn eu tro. Mae cwestiynau enghreifftiol isod (peidiwch â rhoi mwy na thri i blant ifanc): 1. Beth yw dy enw? 2. Beth yw dy hoff hobi? 3. Os gallet ti deithio unrhyw le yn y byd, ble byddet ti’n mynd? 4. Beth yw dy hoff ffilm? 5. Beth yw dy hoff dymor a pham? 6. Taset ti ar goll ar ynys bell, pa un peth byddet ti’n mynd ag e gyda thi? 7. Taset ti ond yn gallu cael un math o fwyd am weddill dy fywyd, beth fydde fe? Anogwch y disgyblion i geisio cofio cynifer o fanylion â phosib. Ar ôl iddyn nhw gyfweld ei gilydd, byddan nhw’n rhannu’r wybodaeth gawson nhw am eu partner.

16


Adnoddau 17


Cwestiynau ymgynghori 1. Wyt ti’n hoffi’r calendr ysgol ar hyn o bryd? 2. Dychmyga fod 1 wythnos o wyliau’r haf yn symud i fis Hydref i wneud yr egwyl yna’n 2 wythnos yn lle 1 wythnos. Byddai hynny’n golygu bod gwyliau’r haf yn 5 wythnos o hyd. Wyt ti’n hoffi’r syniad yna? 3. Dychmyga fod gwyliau’r gwanwyn yn digwydd tua’r un pryd bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae gwyliau’r gwanwyn yn symud i fod yr un adeg â’r Pasg. Mae hynny’n gallu golygu bod rhai tymhorau ysgol yn hir iawn neu’n fyr iawn. Wyt ti’n hoffi’r syniad o gael gwyliau’r gwanwyn tua’r un pryd bob blwyddyn? 4. Dychmyga fod egwyl 2 wythnos ym mis Mai neu Fehefin. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cael 1 wythnos. Byddai hynny’n golygu bod gwyliau’r haf 1 wythnos yn fyrrach. Wyt ti’n hoffi’r syniad yna? 5. Wyt ti’n hoffi’r syniad o gael diwrnodau canlyniadau arholiadau TGAU, AS a lefel A yn yr un wythnos? 6. Wyt ti’n meddwl byddai newid y calendr ysgol yn cael effaith ar y Gymraeg? 7. Pa effeithiau rwyt ti’n meddwl fyddai ar y Gymraeg? Sut gallen ni leihau unrhyw effeithiau gwael a chynyddu’r rhai da? 8. Oes yna unrhyw beth arall hoffet ti ddweud wrthyn ni am y calendr ysgol?

18


Dolen Fideo Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i’r fideo sy’n egluro pam mae’r cynigion hyn ar waith. Dyma’r fideo gallwch chi ei chwarae ar ddechrau’r sesiwn. Fersiwn Saesneg: https://www.youtube.com/watch?v=RBvZFfkYgjQ&feature=youtu.be Fersiwn Gymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=OdJ50s0h1Mw Sylwch y bydd angen i chi osod hyn yn barod cyn i’r sesiwn gychwyn i sicrhau y bydd ar gael yn brydlon.

19


Dogfen Llywodraeth Cymru – Fersiwn Gymraeg a Saesneg darllen hwylus Defnyddiwch y ddogfen hon yn adnodd i ddangos enghreifftiau o’r calendr ysgol. Gall y plant a’r bobl ifanc ddefnyddio’r ddogfen hon wrth weithio yn eu grwpiau. Sylwch fod y ddogfen hon yn atodiad ar wahân.

20


Ffurflenni 21


Grwpiau ffocws gyda dysgwyr i lywio’r ymgynghoriad ynghylch y flwyddyn ysgol Beth sydd dan sylw yn y gwaith ymchwil? Gwaith ymchwil yw hwn ynghylch eich barn ar strwythur y flwyddyn ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni (elusen o’r enw Plant yng Nghymru) ddarganfod beth yw barn plant a phobl ifanc ar gynigion i newid y flwyddyn ysgol. Mae hyn yn rhan o ymgynghoriad mwy. Mae Plant yng Nghymru hefyd yn gweithio gyda Miller Research. Os hoffech gysylltu â ni ynghylch y gwaith ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â Plant yng Nghymru drwy ffonio 029 2034 2434 neu e-bostio rachel.clement@childreninwales.org.uk Beth mae’n ei olygu? Rydyn ni’n casglu barn plant a phobl ifanc 8-18 oed. Os cytunwch i gymryd rhan, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich barn ar strwythur y flwyddyn ysgol a’ch profiad ohono. Yn ôl y gyfraith, mae data personol yn wybodaeth y mae modd ei defnyddio i gael gwybod pwy ydych chi. Fyddwn ni ddim yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol (eich enw, eich oed, enw eich ysgol) a fyddwn ni ddim yn cofnodi unrhyw wybodaeth bersonol sy’n codi yn ystod y drafodaeth grŵp. Mae’r staff yn eich ysgol wedi gweithio gyda chi i drefnu trafodaeth grŵp ffocws gyda phlant a phobl ifanc yn eich ysgol. Mae’r ysgol eisoes wedi rhannu gwahoddiad i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn gyda chi, a rhoi taflen gwybodaeth i chi a’ch rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr sy’n esbonio beth mae’r gwaith ymchwil yn ei olygu. Mae’r ysgol hefyd wedi gofyn i’ch rhiant/rhieni neu eich gofalwr/gofalwyr roi caniatâd i chi gymryd rhan yn y gwaith ymchwil yma ac maen nhw wedi gwneud hynny. Mae’r ysgol wedi trefnu’r drafodaeth gyda chi. Bydd hyn yn digwydd wyneb yn wyneb yn yr ysgol. Bydd y drafodaeth grŵp yn para tua 60 munud ond gall gymryd ychydig yn fwy neu lai o amser. Bydd aelod o staff yr ysgol gyda chi. Efallai y bydd un o ymchwilwyr Plant yng Nghymru yn bresennol. Ni fyddwn yn gwneud recordiad sain na fideo o’r drafodaeth, ond byddwn yn ysgrifennu nodiadau. Fyddwn ni ddim yn gofyn am unrhyw ddata personol. Os byddwch yn darparu manylion cyswllt neu wybodaeth bersonol, ni fyddwn yn eu cadw. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn cwestiwn, byddwn yn dileu eich manylion cyn gynted ag y byddwn wedi ateb eich cwestiwn. Os byddwch yn cymryd rhan, cewch chi benderfynu pa gwestiynau yr hoffech eu hateb neu beidio. Hefyd, gallwch roi’r gorau i ateb ar unrhyw adeg.

22


Oes unrhyw risgiau’n gysylltiedig â chymryd rhan? Mae’r cwestiynau a ofynnwn mor hawdd â phosib i blant a phobl ifanc eu hateb a ddylen nhw ddim bod yn anodd na chorddi teimladau. Fodd bynnag, os bydd unrhyw beth yn eich ypsetio neu os byddwch am sgwrsio â rhywun, bydd cymorth ar gael oddi wrth athrawon neu oedolion eraill yn eich ysgol. Gallwch hefyd gysylltu â Childline i sgwrsio ar-lein (childline.org.uk) neu 0800 1111. Llywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd i’r wybodaeth a ddefnyddir trwy’r gwaith ymchwil hwn (y Rheolydd Data yw’r enw ar hyn). Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’i chyfrifoldebau dros ddarparu addysg yng Nghymru i gynnal y gwaith ymchwil hwn gyda chi. Yr unig adeg y byddai’n rhaid i ni sôn wrth rywun am yr hyn ddwedsoch yw os bydden ni’n pryderu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o ddioddef niwed. Rhaid i ni riportio hynny. Oes rhaid i mi gymryd rhan? Gallwch chi ddewis gymryd rhan neu beidio ac ni fydd eich dewis yn gwneud gwahaniaeth i unrhyw beth arall. Efallai byddwch chi am holi eich rhiant/gofalwr neu athro/athrawes yn yr ysgol, os bydd angen cymorth arnoch i benderfynu. Bydd casglu eich barn a’ch profiadau yn helpu Llywodraeth Cymru i ddysgu mwy am farn dysgwyr ar y cynigion i newid y flwyddyn ysgol. Beth fydd yn digwydd i’m data ar ôl y gwaith ymchwil? Ni fydd Plant yng Nghymru na Miller Research yn cadw unrhyw ddata personol fel rhan o’r prosiect hwn ac ni fyddan nhw’n ysgrifennu nac yn cadw unrhyw ddata personol a fydd yn codi y n ystod y trafodaethau. Byddwn yn rhoi crynodeb o’ch prif bwyntiau i Miller Research heb ddarparu unrhyw wybodaeth allai gael ei defnyddio i’ch adnabod chi. Caiff y crynodebau hyn eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru. Ar ôl iddyn nhw gasglu’r holl wybodaeth, bydd Miller Research yn ysgrifennu adroddiad i’w gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys unrhyw fanylion personol na gwybodaeth allai ddatgelu pwy ydych chi. Beth alla i wneud am sut mae fy ngwybodaeth yn cael ei defnyddio? Mae’r gyfraith ynghylch gwybodaeth bersonol yn dweud y cewch chi:

• weld y data sy’n cael ei gadw amdanoch • cywiro’r data • mewn rhai achosion, atal defnyddio’r data neu wneud llai o ddefnydd ohono • mewn rhai achosion, dileu’r data • cwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (y sefydliad sy’n sicrhau bod gwybodaeth pobl yn cael ei defnyddio’n deg)

23


Os byddwch am gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gallwch gysylltu â nhw yn: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif ffôn: 0303 123 1113 Gwefan: www.ico.gov.uk Os byddwch am gysylltu â Llywodraeth Cymru Os byddwch am ofyn unrhyw beth i Lywodraeth Cymru am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio neu os bydd unrhyw bryderon gennych, gallwch gysylltu â’r canlynol: Enw: Jody Mellor Cyfeiriad e-bost: jody.mellor@gov.wales Rhif ffôn: 0300 025 3105 Neu gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru ar y cyfeiriad: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales

24


Ffurflen Casglu Adborth Cymru Ifanc ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Ymgynghori ar Ddiwygio’r Flwyddyn Ysgol

Cyfarwyddiadau: Diolch am fod yn rhan o’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Flwyddyn Ysgol Gofynnir i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i roi adborth ar yr ymatebion ymgynghori. I sicrhau cysondeb, mae’n bwysig casglu adborth gan y plant ar gyfer pob adran o gynllun y sesiwn. Defnyddiwch y ffurflen hon i gasglu a chyflwyno eich canfyddiadau, os gwelwch yn dda. I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno’r sesiwn hon neu i gael cefnogaeth, e-bostiwch: rachel.clement@childreninwales.org.uk Anfonwch eich taflenni adborth gorffenedig ac unrhyw ddelweddau erbyn dydd Gwener 9 Chwefror 2024, os gwelwch yn dda, at: rachel.clement@childreninwales.org.uk

Sut mae defnyddio’r ffurflen: Adborth Gofynnir i chi roi crynodeb o’r hyn mae’r plant wedi’i ddweud. Mae croeso i chi gynnwys copi/ ciplun o ymatebion un gair/lluniadau, nodiadau ac ati mae’r plant wedi’u defnyddio i fynegi eu barn. Mae’n bwysig casglu ymatebion gan y plant mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw, ond sydd hefyd yn cyd-fynd â’r prif feysydd yr holir yn eu cylch. Mae modd defnyddio dyfyniadau uniongyrchol dienw hefyd yn yr adran adborth.

25


Ffurflen Casglu Adborth Cymru Ifanc ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Data Adborth

Cwestiynau ymgynghori 1. Wyt ti’n hoffi’r calendr ysgol ar hyn o bryd? 2. Dychmyga fod 1 wythnos o wyliau’r haf yn symud i fis Hydref i wneud yr egwyl yna’n 2 wythnos yn lle 1 wythnos. Byddai hynny’n golygu bod gwyliau’r haf yn 5 wythnos o hyd. Wyt ti’n hoffi’r syniad yna? 3. Dychmyga fod gwyliau’r gwanwyn yn digwydd tua’r un pryd bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae gwyliau’r gwanwyn yn symud i fod yr un adeg â’r Pasg. Mae hynny’n gallu golygu bod rhai tymhorau ysgol yn hir iawn neu’n fyr iawn. Wyt ti’n hoffi’r syniad o gael gwyliau’r gwanwyn tua’r un pryd bob blwyddyn? 4. Dychmyga fod egwyl 2 wythnos ym mis Mai neu Fehefin. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cael 1 wythnos. Byddai hynny’n golygu bod gwyliau’r haf 1 wythnos yn fyrrach. Wyt ti’n hoffi’r syniad yna? 5. Wyt ti’n hoffi’r syniad o gael diwrnodau canlyniadau arholiadau TGAU, AS a lefel A yn yr un wythnos? 6. Wyt ti’n meddwl byddai newid y calendr ysgol yn cael effaith ar y Gymraeg? 7. Pa effeithiau rwyt ti’n meddwl fyddai ar y Gymraeg? Sut gallen ni leihau unrhyw effeithiau gwael a chynyddu’r rhai da? 8. Oes yna unrhyw beth arall hoffet ti ddweud wrthyn ni am y calendr ysgol?

Diolch am gwblhau’r ymgynghoriad yma. Gofynnwn i chi anfon eich taflenni adborth gorffenedig ac unrhyw ddelweddau erbyn dydd Gwener 9 Chwefror at: rachel.clement@childreninwales.org.uk 26


Sut dylwn i anfon fy adborth? Gofynnir i chi anfon yr wybodaeth ganlynol:

• Nodiadau a luniwyd gan y plant a’r bobl ifanc/aelodau staff • Unrhyw wybodaeth ategol arall Erbyn dydd Gwener 9 Chwefror at rachel.clement@childreninwales.org.uk

Diolch am gyfranogi’n weithredol yn yr ymgynghoriad ar ddiwygio’r flwyddyn ysgol. Bydd eich cyfraniad gwerthfawr yn fodd i lunio dyfodol ein system addysgl.

27


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Pecyn Offer Strwythyr y Flwyddyn Ysgol by childreninwales - Issuu