Papur Briffio
Briffiad ar y 100 diwrnod cyntaf a beth mae hynny’n ei olygu i Fabanod, Plant, a Phobl Ifanc Cyn yr etholiad, cyhoeddodd Plaid Cymru fap o’u blaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth. Gan fod y garreg filltir hon bellach wedi mynd heibio, mae Llywodraeth newydd Cymru wedi dechrau rhoi arwyddion clir o’i phrif flaenoriaethau a’r meysydd y mae’n bwriadu canolbwyntio arnynt yn y tymor byr a chanolig. Mae’r briffiad hwn yn rhoi trosolwg o’r prif ddatblygiadau a chynnydd a wnaed yn erbyn y nodau a’r ymrwymiadau a gafwyd gan Lywodraeth newydd Cymru yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, ac yn ystyried beth gallai’r datblygiadau hyn olygu i fabanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru. Y Seithfed Senedd
Yn y Seithfed Senedd newydd, mae bellach 96 o Aelodau (ASau), o gymharu â’r 60 aelod oedd yn y Senedd flaenorol. Mae 67 o’r aelodau etholedig yn newydd i’r Senedd, ac mae hynny’n creu her a chyfle i Blant yng Nghymru a’n haelodau ddatblygu perthnasoedd yn gynnar yn y trafodion er mwyn sicrhau bod y materion blaenoriaeth sy’n cael effaith ar fabanod, plant a phobl ifanc yn ddigon gweladwy yn y Senedd, a hefyd bod pob AS newydd yn gwybod pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n dadlau o’i blaid fel sefydliadau. Cyn yr etholiad, bu Plant yng Nghymru yn ymgysylltu â’r ASau ar y pryd, yn ogystal ag ymgeiswyr ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol trwy ein hymgyrch, trwy fynychu digwyddiadau, cynadleddau’r pleidiau, cynnal cyfarfodydd a chyhoeddi ein Maniffesto Pencampwyr Dros Blant a 5 cyhoeddiad thematig ategol ynghylch meysydd blaenoriaeth. Mae’r adduned Pencampwyr dros Blant yn galw ar bob gwleidydd ar draws yr holl bleidiau i ymrwymo i fod yn ‘Bencampwr dros Blant’, gan sefyll i fyny dros hawliau plant a chreu cyfleoedd iddyn nhw a’u blaenoriaethau gael eu clywed ar hyd tymor y Senedd hon. Gweinidogion y Llywodraeth
Mae gan Lywodraeth newydd Cymru 10 aelod yn y Cabinet a 5 Dirprwy Weinidog sydd â theitlau a phortffolios gwahanol i’r Llywodraeth flaenorol. Ochr yn ochr â nifer o aelodau sydd newydd eu hethol, mae llawer wedi bod yn gefnogwyr ac yn ymgyrchwyr brwd dros y materion blaenoriaeth sy’n cael effaith ar fabanod, plant a phobl ifanc yn flaenorol pan oedden nhw’n wrthblaid.