Aelodaeth Plant yng Nghymru
Cewch ddysgu, cysylltu a llunio dyfodol y sector plant yng Nghymru gyda’n haelodaeth ar ei newydd wedd. Mae aelodau’n elwa o ostyngiadau ar hyfforddiant, fforymau polisi, digwyddiadau a chyfathrebiadau wedi’u teilwra i’ch helpu i wneud gwahaniaeth i fabanod, plant a phobl ifanc.
PAM YMUNO?
• Arbedion unigryw ar hyfforddiant, digwyddiadau a chyhoeddiadau
• Mynediad blaenoriaeth i’n Cynhadledd Genedlaethol a’n digwyddiadau blaenllaw
• Cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi ac arfer ledled Cymru
• Adnoddau a gwelededd am ddim drwy ein rhwydweithiau cyfathrebu
• Cymorth i gryfhau diogelu a chyfranogiad pobl ifanc
Byddwch yn rhan o rwydwaith sy’n cael ei uno gan werthoedd cyffredin ac ymrwymiad i wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
YMUNWCH HEDDIW I GAEL DYSGU
DAN ARWEINIAD ARBENIGWYR, CYSYLLTIADAU GWERTHFAWR A LLAIS
CRYFACH I BLANT A PHOBL IFANC.
Dysgu. Cysylltu . Dylanwadu.

DYSGU A RHWYDWEITHIO
• Disgowntiau ar bob cwrs a hyfforddiant datblygiad proffesiynol
• Gweminarau ‘Dysgu dros Ginio’ am ddim
• Blaenoriaeth archebu a disgowntiau ar ein digwyddiadau, gan gynnwys ein Cynhadledd Genedlaethol ac Uwchgynhadledd Cymru Ifanc
CADW’N GYSYLLTIEDIG A GWELADWY
• E-bost aelodau bob pythefnos gyda diweddariadau’r sector
• Rhannu swyddi a newyddion am ddim yn ein cylchlythyrau
• Ymddangos yn ein cylchgrawn chwarterol a’n cyfryngau cymdeithasol i arddangos gwaith eich sefydliad
• Ymuno â’n Rhwydwaith Cyfathrebu, sy’n cyfarfod bob chwarter i rannu’r diweddaraf a chydweithio ar ymgyrchoedd yn y sector
DYLANWADU AR BOLISI AC ARFER
• Ymuno ag ymgynghoriadau a gweithgorau sy’n llunio polisi cenedlaethol
• Cyfranogi mewn rhwydweithiau arbenigol, fel Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar a’r Rhwydwaith Ymchwil Plant
• Cyfrannu at gynlluniau peilot ac ymgyrchoedd sy’n sbarduno newid
CYMORTH ARBENIGOL
Manteisio ar adolygiadau diogelu, cyfleoedd ymgysylltu ieuenctid ac arweiniad arbenigol i gryfhau cyfranogiad a chynhwysiant.
Dysgwch fwy a dewch yn aelod yma childreninwales.org.uk/cy