Skip to main content

Cylchgrawn yr Haf 2026 - Hyrwyddo Hawliau Plant sydd a Phrofiad o Ofal

Page 1


HYRWYDDO HAWLIAU PLANT SYDD

Hefyd NYAS Cymru
Heol Chwarae Rol Rhwydwaith Maethu yng Nghymru
RHIFYN 97

Golygydd: Louise O’Neill louise.oneill@childreninwales.org.uk

Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARC), Caerdydd, CF24 4HQ 029 2034 2434

info@childreninwales.org.uk

Bluesky: @childreninwales.org.uk

Facebook: @childreninwales

Instagram: @Children_in_wales

LinkedIn: Children in Wales

Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd y farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r haw i olygu cyn cyhoeddi Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996

Pam fod gwerthuso ‘Pan fydda i’n Barod’ yn bwysig (CASCADE, Prifysgol Caerdydd)

Enfys a Chymylau Glaw: Dull arloesol wedi’i gyd-gynhyrchu o ddysgu Gwaith Cymdeithasol (Uned Hawliau Plant Castell-Nedd Port Talbot a Cyngor Castell-nedd Port Talbot)

Pam cynnwys pobl sydd â phrofiad o ofal, rhieni a gweithwyr cymdeithasol mewn gwaith ymchwil i waith cymdeithasol? Gwersi ar ganolbwyntio ar safbwyntiau personol a phroffesiynol wrth werthuso ymarfer gwaith cymdeithasol (CASCADE, Prifysgol Caerdydd)

Cefnogi uchelgais addysg uwch i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru)

Creu mannau lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu (Heol Chwarae Rol)

Rhoi llais i bobl ifanc yn eu taith ofal eu hunain (Clearcare Solutions)

Diogelu data i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed (Techsol)

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn cynnig dealltwriaeth newydd ar Warcheidiaeth Arbennig yng Nghymru (CASCADE, Prifysgol Caerdydd)

Perthnasoedd parhaol y tu hwnt i’r system ofal – sut y gall perthnasoedd cymunedol gefnogi plant mewn gofal (CASCADE, Prifysgol Caerdydd)

Rhwydwaith Cyfranogi o Brofiad Gofal Cymru: gweithio gyda’n gilydd i gryfhau lleisiau pobl ifanc (Rhwydwaith Maethu yng Nghymru)

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wynebu rhwystrau sylfaenol i gael eu swydd gyntaf (Gweithredu dros Blant Cymru)

Cyflwyniad gan y Prif

Croeso cynnes i rifyn yr Haf o gylchgrawn Plant yng Nghymru. Ffocws cylchgrawn y chwarter hwn yw’r gwaith ysbrydoledig sy’n cael ei wneud ledled Cymru i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant hynny yn ein gofal.

Mae Erthygl 20 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn nodi ‘bydd hawlogaeth gan blentyn sydd wedi ei amddifadu dros dro neu’n barhaol o’i amgylchfyd teuluol, neu nad oes modd caniatáu iddo, er lles pennaf ei hun, aros yn yr amgylchfyd hwnnw, gael amddiffyniad a chymorth arbennig a ddarperir gan y Wladwriaeth.’ Mae hon yn hawl sy’n cael ei chymryd o ddifrif yng Nghymru fel y tystia’r erthyglau a nodir isod, yn enwedig yr un gan ein Dirprwy Weinidog newydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell AS, sydd wedi nodi yn ei herthygl ei hymrwymiadau, ar ran Llywodraeth newydd Cymru, i blant mewn gofal. Hoffwn ddefnyddio’r cyfle hwn i groesawu’r Dirprwy Weinidog i’w rôl a’i llongyfarch hi a’i chydweithwyr ar ffurfio’r llywodraeth. Rydw i a gweddill y tîm yn Plant yng Nghymru yn llawn cyffro ynghylch cyfeiriad arfaethedig y llywodraeth hon (ymgorffori CCUHP i mewn i ddeddfwriaeth Cymru, er enghraifft) ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu hawliau plant dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae Plant yng Nghymru wedi ymrwymo i gefnogi hawliau plant mewn gofal ac wedi gweithio mewn ffyrdd amrywiol dros y blynyddoedd i’w hyrwyddo, yn aml mewn partneriaeth â’n haelodau. Mae ein rhaglen Paratoi, a gyflwynir gyda hyrwyddwyr hirhoedlog plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, Lleisiau o Ofal Cymru, yn enghraifft ardderchog o hyn, a gallwch ddarllen mwy am hynny yn y cylchgrawn. Rwy’n falch y bydd y rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn cael ei lansio ar y cyd â gweminar lle bydd fy nghydweithwyr yn manylu ar y cynnydd y mae’r rhaglen waith hon wedi’i wneud i helpu pobl ifanc wrth iddyn nhw baratoi i adael gofal.

Mewn mannau eraill, mae’r rhifyn hwn yn nodi rhai enghreifftiau rhagorol o arfer gan ein haelodau yn y trydydd sector, megis gwaith Llamau i ddarparu llety gwych i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac ymgyrchu Action for Children i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i sicrhau gwaith (ac roeddwn wrth fy modd yn darllen yr wythnos hon y newyddion, sy’n sicr yn gysylltiedig, y bydd eu partner, Partneriaeth John Lewis, yn dyblu ei chefnogaeth i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal mewn ymgyrch i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc).

Yng nghyd-destun y byd academaidd, mae CASCADE yn parhau i ddarparu mewnwelediadau o ansawdd uchel a all lywio sut y gallwn ni sicrhau’r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc. Yn y rhifyn hwn mae wedi darparu nifer o erthyglau: astudiaethau i’r perthnasoedd rhwng pobl ifanc a’u Hymwelwyr

Annibynnol; effaith y cynllun Pan Fydda i’n Barod; a phwysigrwydd cynnwys lleisiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, eu teuluoedd, a gweithwyr cymdeithasol mewn ymchwil i’r system ofal.

Mae awdurdodau lleol, fel bob tro, wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr at y rhifyn hwn, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys darn gan Gyngor Caerdydd ar ei fenter Pasbort i’r Ddinas, a gwaith Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu clywed yn yr hyfforddiant a ddarperir i weithwyr cymdeithasol.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw darllenwyr at gyfraniad ein cefnogwyr yn Techsol. Bydd y rhai a fynychodd ein cynhadledd wedi clywed am ei waith yn y digwyddiad hwnnw (a diolch i’r rhai ohonoch a ymunodd â ni! Roedd yn llwyddiant ysgubol – y nesaf i ddod yn gynnar yn 2027!) ac mae ei erthygl yn rhoi trosolwg gwych o bwysigrwydd ei wasanaethau i gefnogi diogelwch data’r rhai sy’n darparu gofal i blant a phobl ifanc.

Diolch yn fawr i’n holl gyfranwyr ac i bawb sy’n cymryd yr amser i ddarllen am eu gwaith gwych.

Diolch o galon, Hugh

Diweddariad gan Dîm Polisi Plant yng Nghymru

Wrth i Gymru ddechrau pennod wleidyddol newydd yn dilyn etholiad diweddar y Senedd, mae hwn yn gyfle amserol i fyfyrio ar gynnydd a gosod blaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf. Mae Tîm Polisi Plant yng Nghymru yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, aelodau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod lleisiau, hawliau ac anghenion babanod, plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i bolisi ac ymarfer. Mae’r diweddariad hwn yn tynnu sylw at feysydd allweddol o weithgarwch, heriau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, a sut rydym yn ymdrechu i greu newid ystyrlon i blant a theuluoedd ledled Cymru.

Pencampwyr dros Blant

Gan adeiladu ar y cyd-destun gwleidyddol adnewyddedig hwn, mae ein hymgyrch Pencampwyr dros Blant wedi parhau i ennill momentwm – gan osod babanod, plant a phobl ifanc yn gadarn wrth wraidd blaenoriaethau newydd y Senedd.

Roedd maniffesto Hyrwyddwyr dros Blant Plant yng Nghymru, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â phum maniffesto polisi atodol ar Dlodi Plant, y Blynyddoedd Cynnar, Anghenion Dysgu Ychwanegol, CCUHP ac Eiriolaeth, yn cynnwys Addewid y dylai pob ymgeisydd sy’n sefyll etholiad ymrwymo i fod yn Bencampwyr dros Blant cadarn ac ymroddedig yn ystod yr ymgyrch, a thrwy gydol eu hamser yn y Senedd pe baen nhw’n cael eu hethol. Roeddem wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cefnogaeth gan dros 60 o ymgeiswyr ar draws pob un o’r pum prif blaid, y mae llawer ohonynt bellach yng nghabinet newydd Llywodraeth Cymru

neu wedi sicrhau rolau amlwg yn y Senedd, rhai fel llefarwyr yr wrthblaid dros blant. Ers hynny, rydym wedi ysgrifennu at holl aelodau’r Senedd yn eu gwahodd i ymgysylltu â ni, a’n haelodau, gyda’r nod o sicrhau bod hawliau ac anghenion babanod, plant a phobl ifanc yn cael lle amlwg dros y pedair blynedd nesaf. Hoffem ddiolch i’n holl aelodau sydd wedi llywio a chefnogi ein gwaith polisi ac ymgyrchu hyd yn hyn, ac rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud defnydd o’n blaenoriaethau ar y cyd, a lywiwyd gan bobl ifanc ac a amlinellwyd ym maniffesto Pencampwyr dros Blant wrth i chi ailsefydlu ac adeiladu perthnasoedd newydd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth ac yn eich etholaethau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi ar sean. oneill@childreninwales.org.uk

Cyflwr Rhianta yng Nghymru

Ar draws ein gwaith polisi, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Mae ein hadroddiad ar Gyflwr Rhianta a Chymorth i Deuluoedd yn tynnu sylw at y pwysau cynyddol sy’n wynebu teuluoedd a gwasanaethau ledled Cymru. Mae’r galw’n parhau i dyfu, tra bod anghenion yn dod yn fwy cymhleth a chydgysylltiedig.

Mae canfyddiadau allweddol yn dangos bod teuluoedd yn aml yn llywio heriau sy’n gorgyffwrdd, gan gynnwys:

• Niwroamrywiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

• Pryderon iechyd meddwl

• Gwrthod ysgol

• Trais gan blant tuag at rieni

• Tlodi ac ansicrwydd tai

• Effaith barhaus yr argyfwng costau byw Niwroamrywiaeth ac ADY yw prif sbardunau atgyfeiriadau o hyd, gydag amseroedd aros hir a mynediad cyfyngedig at wasanaethau arbenigol yn rhoi straen ychwanegol ar deuluoedd a chymorth rheng flaen.

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r sector yn parhau i ddangos arfer cryf, sy’n cael ei arwain gan werthoedd, sy’n blaenoriaethu dulliau hyblyg sy’n canolbwyntio ar y teulu, yn cryfhau partneriaethau, ac yn cynnig cefnogaeth dros dro tra bod teuluoedd yn aros am fewnbwn arbenigol.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r angen brys am gyllid cynaliadwy, buddsoddiad yn y gweithlu, amseroedd aros byrrach a chyfeiriad cenedlaethol cliriach i alluogi cefnogaeth gynharach a chanlyniadau hirdymor gwell.

Darllenwch yr adroddiad llawn ar ein gwefan.

Pencampwyr Atgyfeirio: Adeiladu ar Gryfderau Cymunedol

Mae’r prosiect Pencampwyr Atgyfeirio yn seiliedig ar syniad syml: bod rhieni’n ymddiried mewn rhieni eraill. Wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae’n cefnogi ac yn cryfhau’r wybodaeth a’r perthnasoedd sydd eisoes o fewn cymunedau.

Dangosodd ymgynghoriad fod teuluoedd yn aml yn ceisio cyngor gan ei gilydd yn gyntaf. Mae’r prosiect yn adeiladu ar hyn drwy rymuso rhieni i rannu gwybodaeth ddibynadwy, yn hytrach na chreu systemau newydd.

Un peth allweddol a ddysgwyd yw bod cydgynhyrchu effeithiol yn gofyn am rolau clir, perthnasoedd cryf, a pharch at ei gilydd, gan gydnabod gwerth profiadau bywyd.

Gan weithio ar y cyd, mae Plant yng Nghymru wedi creu cyfres o adnoddau i wireddu’r model, gan sicrhau bod lleisiau rhieni yn ganolog ym mhob cam. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Hunaniaeth wedi’i chyd-gynhyrchu a logo nodedig, gan sicrhau presenoldeb gweladwy

• Modiwl e-ddysgu hygyrch ar gyfer ymgysylltu hyblyg

• Pecyn hyfforddi wyneb yn wyneb cynhwysfawr sy’n cwmpasu cyfathrebu, diogelu a llesiant

• Canllaw cam wrth gam i awdurdodau lleol sefydlu a chynnal rhwydweithiau

• Taflen recriwtio glir yn egluro’r rôl a sut i gymryd rhan

Yn fwy na gwirfoddoli, mae’r fenter yn meithrin diwylliant lle mae gwybodaeth gymunedol yn cael ei gwerthfawrogi. Mae’n cyd-fynd â Cyswllt Rhieni Cymru, sy’n canolbwyntio ar rymuso lleisiau rhieni.

Rydym yn awyddus i archwilio cyfleoedd i ehangu’r dull hwn ledled Cymru. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch ag Anna Westall, Rheolwr Polisi – Hawliau Plant, Plant yng Nghymru ar anna.westall@childreninwales.org.uk

Llunio’r Sgwrs Fawr

Drwy Cyswllt Rhieni Cymru, rydym yn paratoi ar gyfer Sgwrs Fawr genedlaethol gyda rhieni a gofalwyr. Bydd hyn yn darparu llwyfan i rannu barn ar faterion sydd bwysicaf i deuluoedd ac i lywio blaenoriaethau polisi yn y dyfodol. Cyn lansio’r sgwrs, rydym yn gofyn i rieni helpu i lunio’r agenda drwy gwblhau pôl byr i nodi themâu allweddol.

Dweud eich dweud.

Ymatebodd y tîm polisi i ymgynghoriad Llywodraeth y DU, Tyfu i fyny yn y byd ar-lein: ymgynghoriad cenedlaethol, gyda golwg glir a chytbwys ar brofiadau plant ar-lein. Er y gall mannau digidol gefnogi cysylltiad, creadigrwydd, dysgu a mynediad at gymorth, gallant hefyd amlygu plant a phobl ifanc i gynnwys niweidiol, bwlio, cyswllt amhriodol, gwybodaeth anghywir a phlatfformau anniogel.

Mae ein hymateb yn nodi y dylai polisi fynd y tu hwnt i waharddiadau cyffredinol neu derfynau oedran uwch ac yn galw am reoleiddio diogel-wrth-ddylunio, atebolrwydd platfform cryfach, llythrennedd digidol gwell, a dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant ar gyfer y byd ar-lein. Mae hefyd yn cefnogi cyfyngiadau llymach ar nodweddion risg uchel fel ffrydio byw, rhannu lleoliad a chyswllt â dieithriaid.

Mae’r cyflwyniad yn tanlinellu pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth a’r offer i blant, pobl ifanc a theuluoedd i lywio mannau ar-lein yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cryfhau llythrennedd cyfryngau, a chefnogaeth gliriach i rieni a gofalwyr wrth ddefnyddio rheolaethau rhieni a rheoli risgiau. Mae’r ymateb yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo amgylchedd digidol mwy diogel, cefnogol, sy’n parchu hawliau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Beddoe, Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth Polisi, Plant yng Nghymru ar rachel.beddoe@childreninwales.org.uk

Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal

Ym mis Mehefin 2026, canolbwyntiodd cyfarfod Rhwydwaith Ymchwil Plant ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Cafwyd cyflwyniadau ar yr asesiad Pan Fydda i’n Barod, y peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, a’r Prosiect Paratoi, pob un yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio o ofal i fod yn oedolion. Pwysleisiodd y cyfarfod bwysigrwydd perthnasoedd dibynadwy, paratoadau ymarferol, cefnogaeth ariannol a chydweithio cryfach ar draws gwasanaethau. Roedd ymrwymiad ar y cyd i wella canlyniadau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru drwy gymorth cydlynol ac ataliol.

I ddysgu mwy am y Rhwydwaith Ymchwil Plant, cysylltwch â Rachel Beddoe ar rachel.beddoe@childreninwales.org.uk

Edrych i’r Dyfodol

Yn y misoedd i ddod, bydd tîm polisi Plant yng Nghymru yn parhau i gryfhau ymgysylltiad â Llywodraeth newydd Cymru a’r Senedd, yn mwyhau lleisiau plant a theuluoedd drwy’r Sgwrs Fawr, ac yn cefnogi aelodau i ddylanwadu ar feysydd polisi allweddol gan gynnwys tlodi plant, y blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl ac ADY.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar bartneriaeth – wedi’i lunio gan wybodaeth, profiad a mewnwelediad ein haelodau a’r cymunedau rydych chi’n eu cefnogi. Rydym yn eich annog chi i barhau i gymryd rhan drwy rannu eich safbwyntiau, cyfrannu at ymgynghoriadau a gweithio ochr yn ochr â ni i ysgogi newid cadarnhaol. Drwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cydnabod, eu parchu a’u hymgorffori’n gyson ar draws polisi ac ymarfer yng Nghymru.

Diweddariad Prosiectau Plant yng Nghymru: cryfhau lleisiau ifanc mewn

trafnidiaeth yng Nghymru

Mae Plant yng Nghymru wedi dechrau gweithio ar bartneriaeth newydd gyda Thrafnidiaeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar ymgorffori safbwyntiau pobl ifanc yn nyfodol teithio ledled Cymru.

Wrth wraidd y cydweithrediad hwn mae datblygu Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc, a fydd yn creu lle pwrpasol i bobl ifanc rannu eu profiadau a dylanwadu ar benderfyniadau ar wasanaethau a pholisi trafnidiaeth. Bwriad y recriwtio yw dod â grŵp amrywiol o tua 20 o bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed ynghyd, gan adlewyrchu ystod eang o gefndiroedd a safbwyntiau.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sefydliad dielw sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru a chorff a enwir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn gyfrifol am wasanaethau rheilffordd ar draws Cymru a’r ffiniau, ochr yn ochr â rôl gynyddol mewn gwasanaethau bysiau a theithio llesol. Mae’r prosiect hwn yn rhan o uchelgais ehangach Trafnidiaeth Cymru i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, hygyrch a chynaliadwy, gyda mewnwelediad defnyddwyr cryfach yn llywio ei ddull gweithredu.

Mae Plant yng Nghymru yn arwain y gwaith o ddylunio a chyflwyno model ymgysylltu ieuenctid pwrpasol, yn seiliedig ar hawliau plant. Mae hyn yn cynnwys cyd-gynhyrchu strwythur y panel, sicrhau bod dulliau cyfranogiad yn ystyrlon ac wedi’u hymgorffori o’r cychwyn cyntaf, a chefnogi prosesau recriwtio a sefydlu yn unol â gofynion diogelu. Byddwn hefyd yn darparu

hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer staff, pobl ifanc a gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru i feithrin hyder a gallu mewn cyfranogiad ieuenctid.

Bydd y panel yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio syniadau ynghylch gwasanaethau newydd a chyfrannu at iechyd, cydraddoldeb, cydlyniant, ffyniant, gwydnwch a bywiogrwydd diwylliannol cymdeithas Cymru drwy wasanaethau trafnidiaeth a theithio gwell. Mae’r gwaith hwn yn gam sylweddol tuag at greu platfform mwy cyson a chynaliadwy ar gyfer lleisiau pobl ifanc o fewn dull ymgysylltu ehangach Trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau nad yn unig y caiff barn pobl ifanc ei chlywed, ond y gweithredir arni.

Dywedodd Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu yn Trafnidiaeth Cymru, fod y sefydliad yn…

“Falch o fod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i sefydlu ein Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc cyntaf, gan dynnu sylw at werth eu harbenigedd mewn ymgysylltu ag ieuenctid a phwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc yn helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.”

Am ragor o wybodaeth am ein prosiectau, cysylltwch â Kate Thomas, Rheolwr Prosiectau a Phartneriaethau, Plant yng Nghymru ar kate.thomas@childreninwales.org.uk

Diweddariad Cymru Ifanc

Beth sy’n newydd yn Cymru Ifanc?

Mae Cymru Ifanc yn parhau i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru gael eu lleisiau wedi’u clywed, dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a chysylltu ag eraill sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth. Dyma olwg ar rai o’r prosiectau a’r gweithgareddau cyffrous sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Brain Power: Pŵer yr Ymennydd

Mae Cymru Ifanc yn hwyluso Brain Power: Pŵer yr Ymennydd, prosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda Phlant yng Nghymru yn benodol ar gyfer pobl ifanc niwrowahanol rhwng 11 a 25 oed. Nod y prosiect yw creu lle diogel, cynhwysol a grymusol lle gall pobl ifanc niwrowahanol rannu eu profiadau, cysylltu â chyfoedion a dylanwadu ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw ledled Cymru. Drwy weithgareddau creadigol, trafodaethau a chyfleoedd i gyfrannu, bydd pobl ifanc yn helpu i lunio newid cadarnhaol a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb yma: Brain Power: Pŵer yr Ymennydd – Llenwch y ffurflen Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â claire.hathway@childreninwales.org.uk

Y

Sgwrs Fawr 2026

Beth sydd bwysicaf i bobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd? Dyna’r cwestiwn sydd wrth wraidd Y Sgwrs Fawr. Yn rhedeg drwy gydol yr haf ac i mewn i’r hydref, mae’r prosiect ymgysylltu cenedlaethol hwn yn casglu barn, profiadau a blaenoriaethau plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru. Bydd y canfyddiadau’n cyfrannu at adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru a byddant yn helpu i lunio trafodaethau yn Uwchgynhadledd Cymru Ifanc ar 21 Tachwedd 2026 yng Nghaerdydd.

Mae’r prosiect yn rhoi cyfle pwysig i bobl ifanc rannu eu safbwyntiau ar y materion sy’n effeithio ar eu bywydau, ac i nodi’r newidiadau yr hoffent eu gweld yn digwydd yng Nghymru.

Ewch i’r arolwg yma: Dywedwch wrthym eich

Blaenoriaethau CHI – Llenwch y ffurflen

I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan, e-bostiwch young.wales@childreninwales.org.uk

Cyrsiau preswyl Cymru Ifanc

Mae rhaglen breswyl Cymru Ifanc yn parhau i ddarparu cyfleoedd bythgofiadwy i bobl ifanc gysylltu, cydweithio a chreu newid.

• Cwrs Preswyl Mehefin

Daeth ein gwirfoddolwyr, rhwng 18 a 25 oed, ynghyd yn ddiweddar ar gyfer cwrs preswyl a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio a chynllunio yn Uwchgynhadledd Cymru Ifanc ym mis Tachwedd. Drwy weithdai, trafodaethau a sesiynau cynllunio cydweithredol, chwaraeodd pobl ifanc ran flaenllaw wrth ddylunio digwyddiad sy’n adlewyrchu blaenoriaethau a phrofiadau pobl ifanc ledled Cymru.

• Cwrs preswyl Gorffennaf

Yr haf hwn, bydd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc rhwng 11 a 17 oed yn mynd i Lan-llyn, y Bala, am benwythnos cyffrous o gyfrannu, cysylltu a hwyl. Bydd y cwrs preswyl yn dod â phobl ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio materion pwysig, cyfrannu at ymgynghoriadau, ymgysylltu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, a datblygu eu hyder fel eiriolwyr ifanc. Ochr yn ochr â chyfleoedd ystyrlon i gyfranogi, bydd y penwythnos yn cynnwys gweithgareddau adeiladu tîm, cyfeillgarwch newydd a digonedd o brofiadau cofiadwy.

Gyda’i gilydd, mae’r cyrsiau preswyl hyn yn arddangos pŵer llais pobl ifanc ac yn rhoi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau, gan feithrin cysylltiadau parhaol â phobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at young.wales@childreninwales.org.uk

Diweddariad Tîm Hyfforddi

Cefnogi plant sydd â phrofiad o ofal – o ymrwymiad i weithredu: Creu cyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Ar draws Plant yng Nghymru a’i aelodau, mae uchelgais a rennir i sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i ffynnu yng Nghymru. Gan gefnogi’r weledigaeth hon, mae cwrs hyfforddi undydd newydd ar ddull seiliedig ar hawliau o gefnogi plant sydd â phrofiad o ofal yn cynnig ffordd ymarferol a diddorol i sefydliadau droi ymrwymiad yn weithredu ystyrlon.

Mae rhianta corfforaethol yn gyfrifoldeb ar y cyd, nid dyletswydd statudol yn unig. Mae’r cwrs hwn yn helpu sefydliadau i ddeall beth mae’n ei olygu yn ymarferol a sut mae’n cyd-fynd â Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru. Boed yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, mae gan bob sefydliad rôl i’w chwarae wrth gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Bydd yr hyfforddiant hefyd yn ystyried yr agenda Diwygio Radical sy’n esblygu, gan gynnwys blaenoriaethau polisi cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg ar gyfer 2026–27. Bydd cyfranogwyr yn cael cipolwg ar:

• Gyfrifoldebau rhieni corfforaethol ar draws sectorau

• Sut mae polisi’n trosi’n gamau gweithredu ystyrlon

• Enghreifftiau o arfer effeithiol sydd eisoes ar y gweill

Mae hyn yn ymwneud â throi uchelgais yn weithredu a sicrhau bod gan sefydliadau yr adnoddau cywir i ymateb.

Mae’r sesiwn yn dangos sut mae sefydliadau eisoes yn gwneud gwahaniaeth, gan gynnig enghreifftiau ymarferol o addewidion a mentrau. Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu cyfraniad eu hunain a nodi cyfleoedd newydd i gryfhau eu hymrwymiad.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr:

• Ddealltwriaeth glir o gyfrifoldebau rhianta corfforaethol

• Gwybodaeth am egwyddorion Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru

• Ymwybyddiaeth o gyfeiriad y polisi presennol a’r agenda Diwygio Radical (2026–27)

• Enghreifftiau o ymrwymiadau sefydliadol presennol ac arfer da

• Syniadau ymarferol i’w rhoi ar waith o fewn eu sefydliad

Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cynulleidfa eang, gan gynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus, busnesau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol. Mae’n arbennig o berthnasol i arweinwyr, gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol, ymarferwyr, ac unrhyw un sy’n ymwneud ag ymrwymiadau rhianta corfforaethol.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’w fynychu, gan ddileu’r ffi arferol o £140 a’i wneud yn hygyrch i sefydliadau llai. Wedi’i gyflwyno ar-lein, mae hefyd yn sicrhau cyfranogiad o bob cwr o Gymru, gan gefnogi’r rhai sydd ag ymrwymiadau teithio neu ofalu wrth annog cydweithio rhwng sectorau.

Mae’r hyfforddiant hwn yn fwy na chyfle i ddysgu – mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Drwy gymryd rhan, gall sefydliadau helpu i greu canlyniadau gwell a dyfodol disgleiriach i blant sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn ar 22 Gorffennaf 2026, ewch i’r ddolen hon, neu ar gyfer 27 Awst 2026, ewch i’r ddolen hon. Am unrhyw wybodaeth am hyfforddiant arall a drefnir gan Plant yng Nghymru, anfonwch e-bost at training@childreninwales.org.uk

Calendr Hyfforddi

GORFFENNAF

Hawliau Plant a Chyfranogiad i Blant o Dan 11 oed

Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2026 o 09:30 – 15:30

Digwyddiad ar-lein Rhad ac am ddim

Cwrs diddorol sy’n archwilio hawliau a chyfranogiad plant yng Nghymru. Dysgwch ddeddfwriaeth allweddol, offer ymarferol, a dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn i gynnwys plant mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Meithrinwch hyder, mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogiad, a chreuwch eich cynllun gweithredu eich hun ar gyfer gweithio’n effeithiol gyda phlant.

MEDI

Grŵp B: Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl

Dydd Iau, 3 Medi 2026 o 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Meithrin hyder a gwybodaeth gyfoes i ddiogelu’r rhai sydd yn eich gofal. Ymdrin â deddfwriaeth allweddol, adnabod arwyddion cam-drin, deall rolau a chyfrifoldebau, ac ymateb yn effeithiol i bryderon wrth ymarfer gweithio’n ddiogel a rhannu gwybodaeth.

Cefnogi plant sydd a phrofiad o ofal - o ymrwymiad i weithredu: Creu cyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2026 o 09:30 – 15:30

Digwyddiad ar-lein Rhad ac am ddim

Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru

Grŵp C: Diogelu ar gyfer y Person Dynodedig a’r Ymarferwyr Uwch

Dydd Mawrth, 8 a Dydd Mercher, 9 Medi 2026 o 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Wedi’i gynllunio ar gyfer Arweinwyr Dynodedig Diogelu ac ymarferwyr uwch, mae’r cwrs hwn yn cryfhau eich arbenigedd wrth reoli cyfrifoldebau diogelu, gwneud penderfyniadau gwybodus, ac arwain arferion diogelu effeithiol.

ADCG: Dealltwriaeth i Ymarferwyr

Tuesday, 6 October 2026 from 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Cwrs ymarferol sy’n rhoi dealltwriaeth glir i staff rheng flaen o ADCG, ei gyflwyniadau amrywiol, a’r risgiau cysylltiedig - hyrwyddo dull plentyn cyfan a gwaith amlasiantaeth cryfach.

Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth: Cefnogi Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dydd Llun, 19 Hydref 2026 o 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Dysgu strategaethau ymarferol i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc niwroamrywiol gan ddefnyddio dull cyfannol, plentyn cyfan.

Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Pobl Ifanc 11-25 oed

Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2026 o 09:30 – 15:30

Digwyddiad ar-lein Rhad ac am ddim

Cwrs rhyngweithiol sy’n archwilio hawliau a chyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru. Dysgwch ddeddfwriaeth allweddol, technegau ymarferol, a sut i gynnwys pobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys sefydlu fforymau ieuenctid. Meithrinwch sgiliau, mynd i’r afael â rhwystrau, a chreuwch gynllun gweithredu i ymgorffori cyfranogiad yn eich gwaith.

AWST

Cefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal - o ymrwymiad i weithredu: Creu cyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Dydd Iau, 27 Awst 2026 o 09:30 – 15:30

Digwyddiad ar-lein Rhad ac am ddim

Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru.

HYDREF

Cyfweld Ysgogol: Dull Cydweithredol o Newid

Dydd Iau, 10 a Dydd Gwener, 11 Medi 2026 o 09:30 – 16:00

Bae Caerdydd Aelodau: £252, Nad yw’n aelodau £280

Cwrs ymarferol ac ymgysylltiol sy’n cyflwyno Cyfarwyddeb Ymddygiad (MI) fel dull pwerus, sy’n canolbwyntio ar y person, o gefnogi newid ymddygiad. Meithrin sgiliau mewn cyfathrebu effeithiol, rheoli gwrthwynebiad, ac annog newid cadarnhaol trwy senarios bywyd go iawn. Yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, teuluoedd neu unigolion mewn sefyllfaoedd heriol.

TACHWEDD

Cam-drin Rhywiol Plant a Chamfanteisio Rhywiol: Ymwybyddiaeth ac Ymateb

Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2026 o 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn cryfhau eich dealltwriaeth o Gam-drin Rhywiol Plant (CSA) a Chamfanteisio Rhywiol ar Blant (CSE), gan eich helpu i adnabod risgiau ac ymateb yn hyderus gan ddefnyddio dull seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn cyd-destun Cymreig.

Meithrin Gwydnwch: Deall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Dydd Iau, 1 Hydref 2026 o 10:00 – 12:30

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Mae’r cwrs hanner diwrnod addysgiadol ac ymarferol hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o ACEs, trawma, a gwydnwch, gan eich arfogi â’r wybodaeth i gefnogi unigolion yr effeithir arnynt gan niwed yn gynnar mewn bywyd yn well.

Pryder ymhlith Pobl Ifanc: Cefnogi Llesiant Pobl Ifanc

Dydd Iau, 10 Tachwedd 2026 o 09:30 – 16:00

Digwyddiad ar-lein

Aelodau: £126, Nad yw’n aelodau: £140

Mae’r cwrs un diwrnod hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o bryder, ei achosion, a’i effaith ar iechyd meddwl a chorfforol. Byddwch yn ennill offer ymarferol i gefnogi pobl ifanc yn fwy effeithiol mewn lleoliadau personol a phroffesiynol.

Digwyddiadau

Gweminar byw am ddim

Dathlu Gwahaniaeth

– Pontio’r Bwlch

Dyddiad Medi

Amser I’w gadarnhau

Ar-lein MS Teams

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â: emma.butler@childreninwales.org.uk

Cadwch y dyddiad

Uwchgynhadledd Cymru Ifanc

Dyddiad Dydd Sadwrn, 21 Tachwedd

Amser 10am - 4pm

Lleoliad Sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ

Ymunwch â ni i ddysgu am Dathlu Gwahaniaeth –Pontio’r Bwlch, hyfforddiant dan arweiniad rhieni, yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddeall plant ag ADY a ND yn well. Wedi’i ddatblygu gan rieni o Voices4Bettws yng Nghasnewydd, mae’r hyfforddiant wedi’i wreiddio mewn profiad bywyd go iawn o fagu plant ag ADY. Mae’r hyfforddiant yn rhannu mewnwelediadau ymarferol, yn meithrin hyder mewn ymarfer proffesiynol, ac yn helpu i greu cefnogaeth fwy cynhwysol i blant a theuluoedd.

Mae Plant yng Nghymru wedi cefnogi ehangu’r hyfforddiant hwn ledled Cymru, gan ddefnyddio model cynaliadwy o hyfforddi’r hyfforddwr, gan rymuso rhieni fel ymarferwyr profiad bywyd yn y gymuned i rannu eu gwybodaeth a’u mewnwelediad i ysgogi newid.

Bydd y weminar hon yn archwilio’r hyfforddiant, cyflwyno’r dull, y dysgu a’r effaith. Bydd yn tynnu sylw at sut y gall cydberthnasau cryfach â rhieni, a dull cyd-gynhyrchu, arwain at ganlyniadau gwell i blant a theuluoedd.

Gweminar byw am ddim

Dathlu Wythnos

Genedlaethol Rhianta

Dyddiad Dydd Mercher, 21 Hydref

Amser 11am - 12pm

Ar-lein MS Teams

Bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn lansio canfyddiadau’r

Sgwrs Fawr gyda Rhieni yng Nghymru 2026, gan ddathlu Wythnos Genedlaethol Rhianta.

Ein dathliad blynyddol o leisiau pobl ifanc yng Nghymru. Caiff aelodau eu hannog i ddod â’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw i’r digwyddiad cyffrous ac ysbrydoledig hwn. Mae Uwchgynhadledd Cymru Ifanc yn rhad ac am ddim ac wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn llenwi’n gyflym, felly cofrestrwch eich diddordeb yn gynnar.

Gweminar byw am ddim

Canfyddiadau Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol 2026

Dyddiad Mawrth 2027

Ar-lein MS Teams

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar rhad ac am ddim hon lle byddwch yn clywed canfyddiadau allweddol o Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol Plant yng Nghymru.

Tocynnau Cynnar

Cynhadledd flynyddol Plant yng Nghymru 2027

Dyddiad rhyddhau Rhagfyr 2026

Cadwch lygad ar Newyddion Aelodau a chyfryngau cymdeithasol Phlant yng Nghymru i weld pryd mae tocynnau bargen cynnar ar gael i Gynhadledd Flynyddol y flwyddyn nesaf.

Galwad am erthyglau i cylchgrawn yr Hydref 2026

THEMA

PLENTYNDOD IACH

Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i dyfu i fyny’n iach, yn hapus ac yn cael cefnogaeth. Gan adlewyrchu Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n cydnabod hawl pob plentyn i’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd a mynediad at wasanaethau gofal iechyd, bydd y rhifyn hwn yn archwilio sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod babanod, plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Mae’r thema hefyd yn adlewyrchu uchelgais allweddol o Faniffesto Hyrwyddwyr dros Blant Plant yng Nghymru 2025/26: “Rydym am i blant fod yn rhydd o iechyd corfforol a meddyliol gwael, ac i dderbyn y cymorth a’r gefnogaeth pan fydd angen.”

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan aelodau am y gwaith, y prosiectau, yr ymchwil, y gwasanaethau a’r mentrau sy’n helpu i greu plentyndod iachach ledled Cymru. Gallai erthyglau archwilio pynciau fel:

• Hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol babanod, plant a phobl ifanc

• Atal afiechyd a hyrwyddo lles corfforol a meddyliol gwell

• Hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a helpu plant a theuluoedd i reoli cyflyrau iechyd yn well

• Gwella mynediad at wasanaethau cymorth lles

• Darparu dulliau teulu cyfan i wella iechyd a lles

• Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant

• Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â thlodi

• Darparu cymorth lles i grwpiau mwy agored i niwed o blant

P’un a ydych chi’n darparu gwasanaethau arloesol, yn rhannu dysgu o ymchwil, yn tynnu sylw at arfer da, neu’n ymhelaethu ar leisiau plant a theuluoedd, rydym yn croesawu cyfraniadau sy’n dangos sut y gallwn gydweithio i wella canlyniadau iechyd a lles i bob plentyn a pherson ifanc.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich erthyglau ac arddangos y gwaith ysbrydoledig sy’n digwydd ledled Cymru i gefnogi plentyndod iach.

Canllawiau cyflwyno:

• Dylai erthyglau fod rhwng 500 a 750 o eiriau

• Cyflwynwch eich erthygl yn Saesneg a Chymraeg

• Ysgrifennwch eich erthygl yn MS Word a chynnwys teitl ac enw’r awdur a’r sefydliad

• Cynhwyswch ddelweddau JPEG o ansawdd uchel os dymunwch, neu logo eich sefydliad

• Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau

Dydd Iau, 8 Hydref 2026

Anfonwch grynodeb byr o’ch erthygl arfaethedig drwy e-bost at membership@childreninwales.org.uk

Ar ôl ei derbyn, bydd eich lle yn cael ei gadarnhau.

Noder: mae’r cylchgrawn yn cael ei rannu’n gyhoeddus ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle i’ch cyfraniad gyrraedd cynulleidfa ehangach y tu hwnt i’n haelodaeth.

Fy mlaenoriaethau ar gyfer plant sydd

â phrofiad o fod mewn gofal

Mae’n wir anrhydedd i mi gael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn Llywodraeth newydd Cymru.

Er bod fy mhortffolio yn rhychwantu llawer o feysydd pwysig, rwyf wrth fy modd bod y rhifyn hwn o gylchlythyr Plant yng Nghymru yn gyfle imi ganolbwyntio ar rywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch - cefnogi bywydau ac uchelgeisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Wrth ddechrau yn y rôl hon, rwy’n dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o’r heriau a’r amgylchiadau personol sydd ynghlwm wrth y gwaith hwn. Fel cymdeithas, mae yna gryn ffordd i fynd o hyd er mwyn adeiladu’r math o rwydweithiau cymunedol sy’n rhoi’r lle canolog i anghenion pobl ifanc ym mhopeth a wnawn - rhwydweithiau sy’n eu meithrin, eu cefnogi a’u galluogi i ffynnu. Yn hyn o beth, mae cenhadaeth y llywodraeth hon yn syml: sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag ei amgylchiadau, yn cael y cyfle i fyw bywyd hapus sy’n dod â boddhad. Mae gennym gynlluniau beiddgar sy’n ategu’r uchelgais angerddol hwn: wedi’r cyfan, un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer y tymor Seneddol hwn yw gweithredu’r rhaglen fwyaf radical yn hanes datganoli i fynd i’r afael â melltith tlodi plant. Ond nid diogelwch yn unig yr ydym yn ei ddymuno i’n cenedlaethau iau; rydym eisiau iddynt ffynnu ym mhob maes. Rwyf am i bob plentyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru allu mwynhau lle sefydlog i fyw, addysg, gofal iechyd a chymorth emosiynol, â chyfleoedd gwirioneddol ar gyfer datblygiad personolpopeth y byddai rhiant da ei eisiau i’w blentyn. Mae’r ymrwymiad hwnnw’n ymestyn i bobl sy’n gadael gofal hefyd, gan eu cefnogi i groesi’r bont

yn llwyddiannus i fod yn oedolion annibynnol. Dyma egwyddorion canolog y Siarter Rhianta Corfforaethol, a’r rhain fydd yn fy llywio wrth imi ddatblygu fy strategaeth yn y maes gwaith hwn.

Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol nawr i wneud pethau’n wahanol. Fel gwlad fach, rydym mewn sefyllfa dda i ddod â sefydliadau allweddol at ei gilydd yn gyflym, er mwyn dod o hyd i atebion sy’n benodol i Gymru. Dylai pob plentyn a theulu wybod i ble i droi ar unrhyw adeg - nid am eu bod yn digwydd bodloni trothwy cymhwysedd penodol neu’n byw mewn ardal arbennig, ond am fod y cymorth sydd ar gael iddynt wedi’i greu ar sail eu hanghenion. Dylai teuluoedd deimlo’n hyderus bod pob asiantaeth yn gweithio’n dda gyda’i gilydd a chyda nhw.

Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Drwy fynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth drwy ddulliau amlasiantaethol cyn i bethau droi’n argyfwng, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hynny’n golygu gwella mynediad at lety therapiwtig a gwasanaethau arbenigol fel y gall ein plant mwyaf agored i niwed aros yn eu cymunedau. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod plant a theuluoedd yn teimlo’n rhan wirioneddol o’r cynlluniau a wneir ar eu cyfer - yn hytrach nag fel rhywbeth sy’n cael ei orfodi arnynt. Gall gwasanaeth eiriolaeth rhieni, er enghraifft, rymuso rhieni a rhoi llais go iawn iddynt o fewn y system amddiffyn plant, fel y gallwn weithio gyda nhw i gadw plant yn ddiogel.

Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio sut y gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall eu hawliau yn well ac yn gwybod sut i arfer yr hawliau hynny yn llawn - sy’n rhywbeth y byddaf yn edrych yn fanwl arno yn y misoedd i ddod.

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Yn sail i hyn i gyd mae ymrwymiad i wrando. Rhaid i leisiau’r bobl ifanc hynny sydd â phrofiad personol o wasanaethau plant ddylanwadu ar a llywio popeth a wnawn.

Ar hyn o bryd rwyf wrthi’n ystyried Adroddiad Gwaddol y Rhaglen i Drawsnewid Gwasanaethau Plant, sy’n adolygu’r cynnydd o ran diwygio gwasanaethau plant ledled Cymru ac yn nodi argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae eisoes yn amlwg bod yna ymdrechu cydweithredol cryf ar draws y sector, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar hynny.

Un maes diwygio sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw cael gwared ar elw ym maes plant sy’n derbyn gofal. Ar ôl pasio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 a chyflwyno’r cyfyngiadau cyntaf ar ddarpariaeth er-elw yn gynharach eleni, rydym nawr yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â’r newid hwn. Mae hyn yn adlewyrchu ein cred sylfaenol mai’r dymuniad i ymateb i anghenion a gwella deilliannau a ddylai ysgogi gofal - nid elw.

Rwy’n awyddus i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a darparwyr i weithredu hyn mewn ffordd sy’n cynnal sefydlogrwydd i blant, gan helpu i ddatblygu darpariaeth nid-er-elw ar yr un pryd, a chryfhau dulliau rhanbarthol o sicrhau digonolrwydd. Yr uchelgais yw creu system sydd wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd, lle mae lles, cydberthnasau a sefyllfa hirdymor plant bob amser yn dod yn gyntaf.

Rwy’n barod i ymgysylltu â phawb ar draws y sector i ddatblygu a hyrwyddo’r blaenoriaethau hyn ymhellach, ac rwy’n dymuno chwarae rhan gref yn y gwaith o sicrhau newid ystyrlon, parhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy gydol y tymor Seneddol hwn.

Y Prosiect Paratoi: Cefnogi pobl ifanc

sydd â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio’r broses o adael gofal

Gall pontio rhwng gofal a bywyd fel oedolyn annibynnol fod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol ym mywyd person ifanc. I bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, mae’r daith hon yn aml yn cynnwys llywio systemau cymhleth, rheoli cyfrifoldebau newydd, a meithrin hyder mewn amgylcheddau anghyfarwydd. Crëwyd y Prosiect Paratoi i gefnogi’r newid hwn mewn ffordd ystyrlon sy’n grymuso pobl ifanc, trwy eu rhoi nhw wrth wraidd yr atebion a gynlluniwyd ar eu cyfer.

Beth

yw’r Prosiect Paratoi?

Mae’r Prosiect Paratoi, mewn partneriaeth â Lleisiau o Ofal Cymru, yn cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i bontio yn ddiogel ac yn hyderus i fyw’n annibynnol. Yn ganolog i’w ddull mae ymrwymiad i rymuso a rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i lywio eu hawliau a’u hawliadau wrth iddyn nhw baratoi i adael gofal.

Cyflawnir hyn drwy ddatblygu adnoddau ar-lein hygyrch a gynhyrchir ar y cyd mewn partneriaeth â

phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae pob adnodd wedi’i deilwra i gyd-destun ei awdurdod lleol, gan adlewyrchu gwahaniaethau daearyddol ac anghenion penodol y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

I awdurdodau lleol sy’n ceisio gwella’r gefnogaeth i’r rhai sy’n gadael gofal, mae’r Prosiect Paratoi yn cynnig model cydweithredol, addasadwy y gellir ei deilwra i ddiwallu anghenion lleol.

Beth mae pobl ifanc yn ei greu?

Drwy weithdai, trafodaethau grŵp a sesiynau creadigol, mae cyfranogwyr yn cydweithio i gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau. Gall y rhain gynnwys:

• Beth mae gadael gofal yn ei olygu?

• Canllawiau ymarferol ar bynciau fel tai, cyllidebu a chyflogaeth

• Adnoddau llesiant emosiynol a chyngor gan gyfoedion

• Cyfleoedd addysg a chyflogaeth yn yr ardal

• Dadansoddiad o fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Bethan Wilson, Swyddog Datblygu, Prosiect Paratoi, Plant yng Nghymru

• Cyfleoedd yn eich ardal

• Systemau cefnogaeth ac eiriolaeth

Mae pob adnodd yn adlewyrchu safbwyntiau dilys, gan eu gwneud yn fwy perthnasol ac effeithiol i bobl ifanc eraill sy’n paratoi i adael gofal.

Mae ein holl adnoddau ar gael ar wefan Plant yng Nghymru: Hafan | Prosiect Paratoi

Cefnogi a hyfforddi’r busnes

Yn ogystal â datblygu adnoddau pwrpasol mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mae’r Prosiect Paratoi yn darparu cefnogaeth barhaus trwy raglen hyfforddi strwythuredig. Mae’r cynnig hwn wedi’i gynllunio i gryfhau dealltwriaeth pobl ifanc o fyw’n annibynnol, gan gynnwys eu hawliau, eu hawliadau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

I bobl ifanc, mae sesiynau hyfforddi yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymarferol a hyder mewn meysydd allweddol fel ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau; cyllidebu a llywio Credyd Cynhwysol; a pharatoi ar gyfer rheoli a chynnal tenantiaeth. Nod y sesiynau hyn yw rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a phontio’n llwyddiannus i fyw yn annibynnol.

Mae’r prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar sgyrsiau cydweithredol, trosolwg o fudd-daliadau a hawliadau, a dulliau effeithiol o gefnogi pobl ifanc i reoli eu harian. Gyda’i gilydd, mae hyn yn sicrhau dull cyfannol, gan alluogi pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i deimlo’n fwy parod ac wedi’u cefnogi drwy gydol y broses bontio.

Dangos effaith

Mae effaith y Prosiect Paratoi i’w gweld yn y cynnydd mewn hyder, gwybodaeth a pharodrwydd ymhlith y bobl ifanc y mae’n eu cefnogi. Drwy adnoddau lleol, wedi’u cyd-gynhyrchu, mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn nodi dealltwriaeth gryfach o’u hawliau a’u hawliadau, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth o’r camau ymarferol sy’n ofynnol ar gyfer byw’n annibynnol. Drwy

gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd hygyrch a pherthnasol, mae’r prosiect yn helpu i leihau digartrefedd ac yn grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Mae adborth gan awdurdodau lleol a sefydliadau partner yn tynnu sylw at werth dull cydweithredol, gydag adnoddau sydd nid yn unig wedi’u teilwra i gyd-destunau lleol, ond sydd hefyd wedi’u llunio’n uniongyrchol gan leisiau pobl ifanc. Mae gweithwyr proffesiynol sy’n ymgysylltu â hyfforddiant y prosiect yn adrodd am well hyder wrth ddarparu canllawiau ar bynciau allweddol fel tai, budd-daliadau a rheoli arian, gan arwain at gefnogaeth fwy cyson ac effeithiol.

Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gwaith hwn, cysylltwch â ni yn: gettingready@childreninwales.org.uk

Mwy na label:

Pwy rwy’n dod

Mae Erthygl 20 o Gonfensiwn y Cenhedloedd

Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod gan blant a phobl ifanc na allant fyw gyda’u teulu eu hunain yr hawl i ofal amgen priodol, amddiffyniad a chymorth. Dylai’r hawl hon olygu mwy na diogelwch yn unig. Dylai hefyd olygu cael eich deall, cael cefnogaeth i dyfu, a chael cyfle gwirioneddol i symud ymlaen pan fydd yr amser yn iawn.

Llais Ieuan

Roeddwn i eisiau bod yn rhan o ysgrifennu hwn oherwydd rydw i eisiau i bobl fy ngweld fel person, nid fel label yn unig.

Rydw i wedi mynd drwy bethau anodd yn fy mywyd, gan gynnwys bwlio, gwaharddiad parhaol ac ansefydlogrwydd lleoliadau. Mae’r profiadau hynny yn rhan o fy stori, ac maen nhw wedi effeithio arna i. Ond nid dyna holl stori pwy ydw i. Dydw i ddim eisiau cael fy ngweld dim ond drwy’r pethau anoddaf sydd wedi digwydd i mi. Rydw i eisiau i bobl weld pwy rydw i’n dod yn. Am amser hir, rwy’n credu bod pobl eraill yn aml wedi gweld y trafferthion cyn iddyn nhw weld fi. Pan fydd gennych brofiad o ofal, gall pobl wneud rhagdybiaethau amdanoch yn gyflym iawn. Gallan nhw edrych ar eich gorffennol, eich cofnodion, neu’r cymorth sydd o’ch cwmpas, yn hytrach na gweld eich cymeriad, eich cryfderau a’ch dyfodol. Gall hynny wneud ichi deimlo eich bod yn cael eich gwneud yn wahanol.

Yr hyn sy’n bwysig i mi nawr yw fy mod wedi cyrraedd pwynt gwahanol yn fy mywyd. Rydw i eisiau mwy i

mi fy hun. Rydw i eisiau parhau i ddatblygu, parhau i ddysgu a pharhau i symud ymlaen. Byddaf yn 25 oed ym mis Gorffennaf, ac rydw i’n awyddus iawn i barhau â’r daith ddatblygu hon. Rydw i wedi cyrraedd y cam lle mae dysgu a gwaith yn bethau rydw i wir eu heisiau ac yn teimlo’n barod ar eu cyfer.

Mae’r parodrwydd hwnnw’n bwysig. Mae wedi cymryd amser, cefnogaeth a thwf i mi gyrraedd yma. Rydw i’n teimlo’n fwy abl i fod yn fi fy hun nawr. Rydw i wedi dysgu nad oes rhaid imi ymddiheuro drwy’r amser. Gallaf weld newidiadau mewn pethau bob dydd hefyd - gallu eistedd yn llonydd yn hirach, cael sgyrsiau, a chadw cyswllt llygad. Efallai bod y pethau hyn yn ymddangos yn fach, ond i mi maen nhw’n dangos cynnydd gwirioneddol. Maen nhw’n dangos fy mod yn fwy hyderus, yn fwy sefydlog, ac yn fwy parod am yr hyn sy’n dod nesaf.

Rydw i’n cofio’n glir y diwrnod y cefais fy nghymhwyster cyntaf drwy MasteringME gyda Family Pathway. Roeddwn i bron â chrio, oherwydd doeddwn i erioed wedi gweld fy hun fel rhywun a allai gyflawni unrhyw beth. Roedd hi wastad wedi bod yn freuddwyd gen i i ennill rhai cymwysterau a mynd i’r coleg, ond am amser hir roeddwn i’n teimlo’n annheilwng oherwydd doedd gen i ddim. Dangosodd Family Pathway i mi sut i ddechrau credu y gallwn i wneud hynny, ac wedyn rhoddodd MAC (Media Academy Cymru) gyfle i mi barhau i adeiladu oddi yno. Byddwn i wrth fy modd yn gallu parhau yn y coleg, oherwydd rydw i’n teimlo’n barod nawr mewn ffordd nad oeddwn i o’r blaen. Ond mae fy oedran yn golygu na allaf barhau yn y ffordd rydw i ei hangen. Mae

Ieuan Jones ac Elsa Torres, Family Pathway

hynny’n anodd, oherwydd pan rydych chi wedi profi trawma, niwroamrywiaeth a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, nid yw datblygiad bob amser yn digwydd mewn llinell syth nac yn ôl yr amserlen y mae systemau’n ei disgwyl. Weithiau rydych chi’n dod yn barod yn hwyrach. Weithiau, yr union adeg rydych chi o’r diwedd yn gallu cael mynediad at ddysgu a gwaith yw’r adeg pan mae cymorth yn dod yn anos i’w gael.

Rydw i hefyd eisiau dweud diolch wrth y bobl sydd wedi fy helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Rwy’n ddiolchgar i’r tiwtoriaid gwych, Page ac Ayk, yn MAC (Media Academy Cymru), ac i’m gweithwyr cymorth, Linda a Tom, yn Innovate Trust. Ynghyd â’r tîm ehangach o’m cwmpas, maen nhw wedi bod yn bentref i mi. Maen nhw wedi rhoi sefydlogrwydd, gobaith a phenderfyniad i mi. Maen nhw wedi fy helpu i ddal ati ac i gredu y gallaf gael mwy yn fy mywyd.

Yr hyn rydw i eisiau i bobl ei ddeall yw hyn: ni ddylai pobl ifanc fel fi gael eu diffinio gan yr hyn sydd wedi mynd o’i le. Dylem gael ein cefnogi am bwy ydym ni ac am bwy rydyn ni’n dod yn.

Myfyrdod Elsa

Mae’r hyn y mae Ieuan yn ei ddisgrifio yn enghraifft bwerus o pam fod angen dull mwy hyblyg a mwy gwybodus yn ddatblygiadol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Yn rhy aml, mae systemau wedi’u trefnu o amgylch trothwyon oedran, meini prawf gwasanaeth a disgwyliadau sefydlog ynghylch parodrwydd. Ond gall trawma, niwroamrywiaeth a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith sylweddol ar ddatblygiad, hyder, ymddiriedaeth ac ymgysylltiad. I rai pobl ifanc, daw’r parodrwydd ar gyfer dysgu, cyflogadwyedd ac annibyniaeth yn nes ymlaen, ar ôl i’r gefnogaeth berthynol a’r sefydlogrwydd sydd eu hangen i wneud y cam nesaf hwnnw gael eu sefydlu o’r diwedd.

Dyma lle gall systemau fethu â deall y person ifanc sydd o’u blaenau. Gall oedolyn ifanc fod ond newydd gyrraedd y pwynt o deimlo’n abl i gael mynediad at

addysg, hyfforddiant neu waith, ond efallai fod y strwythurau o’i gwmpas eisoes wedi culhau. Mae cyfleoedd yn dod yn fwy cyfyngedig ar yr union bwynt pan maen nhw o’r diwedd yn ystyrlon. Y canlyniad yw diffyg cydweddiad niweidiol rhwng parodrwydd datblygiadol a pharodrwydd systemau.

Mae stori Ieuan yn dod â hyn i ffocws clir. Nid stori am adfyd yn unig yw ei daith; mae’n stori am dwf, dyhead ac ysgogiad. Mae bellach ar gam lle mae eisiau dysgu, eisiau gwaith, ac eisiau parhau i adeiladu dyfodol. Dylid cydnabod hyn fel cyflawniad arwyddocaol a’i ateb gyda hyblygrwydd, nid ei rwystro gan ffiniau oedran anhyblyg.

Mae ei ddiolchgarwch i Page ac Ayk yn MAC (Media Academy Cymru), ac i Linda a Tom yn Innovate Trust, hefyd yn ein hatgoffa mai prin iawn y mae cynnydd yn digwydd ar eich pen eich hun.

Mae’n digwydd drwy berthnasoedd, anogaeth, a rhwydwaith o bobl sy’n dal gobaith ochr yn ochr â’r person ifanc. Mae’r pentref hwnnw’n bwysig.

Os yw Erthygl 20 i olygu unrhyw beth yn ymarferol, yna rhaid i’n systemau ddod yn well am gydnabod nad yw ffynnu yn digwydd yn ôl amserlen safonol.

Mae angen cymorth ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n ymateb nid yn unig i ble maen nhw’n gronolegol, ond i ble maen nhw’n ddatblygiadol. Heb yr hyblygrwydd hwnnw, rydym mewn perygl o wneud pobl ifanc yn rhai ar wahân unwaith eto - nid drwy eiriau y tro hwn, ond drwy strwythurau sy’n methu â’u cyfarfod pan maen nhw o’r diwedd yn barod.

Mae stori Ieuan yn gofyn rhywbeth pwysig gennym yng Nghymru: nid yn unig amddiffyn pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ond cydnabod eu parodrwydd, ymateb i’w twf, a gwneud lle i’r dyfodol maen nhw’n gweithio mor galed i’w gyrraedd.

Os hoffech ddysgu mwy am waith Family Pathway, e-bostiwch elsa@familypathway. co.uk or visit www.familypathway.co.uk

Bloom a Llety â Chymorth

“Yr ochr fwyaf cadarnhaol i mi o lety â chymorth oedd teimlo’n ddiogel a chael cymorth wrth ddysgu sut i fyw ar fy mhen fy hun. Fe wnaeth fy helpu i fod yn annibynnol gam wrth gam, rhoi hyder i mi a gwneud i mi deimlo’n barod ar gyfer y dyfodol.” Person Ifanc

Mae Barnardo’s Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw symud i fyw’n annibynnol. Yn Abertawe, rydym yn rhedeg gwasanaethau amrywiol i wneud hynny, gan gynnwys Bloom Wellbeing, a Llety â Chymorth. Mae gwasanaeth Bloom yn cael ei ariannu gan Sefydliad Moondance, ac mae’n cynnig cyfle i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wella eu lles corfforol a meddyliol. Rydym yn gwneud hyn drwy eu cefnogi i gael mynediad at amrywiaeth eang o weithgareddau cyffrous, i ddarganfod diddordebau a hobïau newydd, ac i gymryd rhan mewn cyfleoedd cadarnhaol yn eu cymuned. Yr hyn sydd wrth wraidd Bloom yw gobaith, rhoi dewis, llais, a phosibiliadau yn ôl yn nwylo’r person ifanc.

Mae tair prif elfen i’r gwasanaeth: Hyfforddiant Bywyd, Ymgysylltu a Gweithgareddau, ac Arweinwyr Ifanc, ochr yn ochr â chyfraniad gwerthfawr gwirfoddolwyr.

Mae llawer o’r bobl ifanc sy’n gysylltiedig â Bloom yn delio â cholled, ansefydlogrwydd, unigrwydd a phwysau ariannol, felly mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Llety â Chymorth i sicrhau nad oes dim un person ifanc yn teimlo ei fod yn cerdded y rhan hon o’i daith ar ei ben ei hun.

Mae Llety â Chymorth yn ac mae’n darparu llety diogel, cefnogol dros dymor byr i bobl ifanc agored i niwed (16 i 21 oed) mewn cartrefi teuluol yn y gymuned. Mae hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu a chynnal yr annibyniaeth a’r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn llwyddiannus i fyw’n fwy annibynnol, ac yn eu cefnogi i wneud defnydd cadarnhaol o addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol neu hamdden. Drwy’r gefnogaeth hon, gall pobl ifanc gynllunio ar gyfer cam nesaf eu bywydau a theimlo’n hyderus wrth gymryd y camau nesaf hynny.

Christine Parry, Rachel Tutton ac Eliesha Pena, Barnardo’s Cymru

Pan fydd pobl ifanc yn mynychu un neu’r ddau wasanaeth, mae’n eu helpu i ffynnu a chyflawni eu potensial.

Mae Safa* wedi bod yn byw mewn Llety â Chymorth ers dros flwyddyn ac mae wedi bod yn defnyddio gwasanaeth Bloom am lawer o’r amser hwnnw. Cyn ymuno â ni, roedd profiadau bywyd Safa yn bell o fod yn hawdd. Roedden nhw wedi bod yn byw mewn amgylchedd a oedd yn cyfyngu arnyn nhw ac yn niweidiol yn emosiynol, gan wynebu esgeulustod a cham-fanteisio ariannol yn ogystal â theimlo’n unig. Pan ymunodd Safa â Llety â Chymorth, roedd ffocws cryf ar eu helpu i deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi; gan sicrhau eu bod yn cael y gofal roedd ei angen arnyn nhw a gwneud yn siŵr bod eu hiechyd meddwl yn flaenoriaeth.

Daeth gwasanaeth Bloom yn rhan ystyrlon o’u taith yn gyflym. Dechreuon nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau llesiant a hyfforddiant bywyd, gan roi lle i Safa ailddarganfod pwy ydyn nhw, magu hyder, teimlo’n rhan o rywbeth, a gweithio tuag at eu nodau, gan osod rhai newydd ar gyfer eu dyfodol ar yr un pryd. Fe wnaeth Safa gwblhau hyfforddiant mentora cymheiriaid, a dechrau cymryd rhan fwy gweithredol mewn sesiynau, ac erbyn hyn mae’n cefnogi pobl ifanc eraill yn rheolaidd. Erbyn hyn, mae Safa yn manteisio ar gyfleoedd yn gadarnhaol, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, ac yn dechrau siarad am eu dyfodol gyda mwy o hyder a chred ynddyn nhw eu hunain.

Mae stori Safa yn dangos faint sy’n gallu newid pan fydd person ifanc yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei gefnogi ac yn cael ei weld go iawn, a sut mae’r sylfeini hynny yn gallu agor y drws i hyder, annibyniaeth, a dyfodol mwy disglair.

*Mae Safa wedi cael eu gwneud yn ddienw ar gyfer yr astudiaeth achos hon.

Gwybodaeth am Barnardo’s Cymru

Yn Barnardo’s, mae ein pwrpas yn glir – newid plentyndod a newid bywydau, fel bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ddiogel, yn hapus, yn iach ac yn fwy gobeithiol. Ers 150 o flynyddoedd a mwy, rydym wedi bod yma i’r plant a’r bobl ifanc sydd ein hangen ni fwyaf – gan ddod â chariad, gofal a gobaith i’w bywydau a rhoi lle iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn. Y llynedd, fe wnaeth Barnardo’s Cymru roi cefnogaeth hanfodol i fwy na 11,000 o blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr yng Nghymru, drwy 35 a mwy o wasanaethau a phartneriaethau yng Nghymru.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, ewch i www.barnardos.org.uk / Barnardo’s Cymru/Wales | Barnardo’s neu e-bostiwch supportedlodgings-swansea@barnardos.org. uk a/neu eliesha.pena@barnardos.org.uk

Pasbort i’r Ddinas: Rhianta Corfforaethol ar Waith drwy Berthyn, Lles a Dewis

Mae Erthygl 20 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod bod gan blant na allant fyw gyda’u teuluoedd hawl i amddiffyniad a chymorth arbennig er mwyn hyrwyddo eu datblygiad a’u lles. I blant sy’n derbyn gofal (CLA), mae’r cyfrifoldeb hwn wrth wraidd dyletswydd rhianta corfforaethol yr awdurdod lleol. Mae Pasbort i’r Ddinas yn un ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn rhoi’r ddyletswydd hon ar waith - drwy sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn gallu cael mynediad at, mwynhau a theimlo eu bod yn perthyn i’r ddinas y maent yn ei galw’n gartref.

Mae Pasbort i’r Ddinas yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Caerdydd i ddatgloi cyfleoedd diwylliannol, chwaraeon a hamdden y ddinas. O fewn un elfen o’r rhaglen, rydym yn dylunio ac yn darparu profiadau pwrpasol yn benodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, wedi’u llunio’n uniongyrchol o gwmpas eu diddordebau, eu lleisiau a’u dyheadau. Nid mynediad yn unig yw’r ffocws, ond meithrin perthyn, cefnogi lles a chodi hyder, gan helpu pobl ifanc CLA i brofi’r ddinas fel rhywbeth y maent yn rhan weithredol ohono, yn hytrach na gwylio o’r cyrion.

Rhianta corfforaethol y tu hwnt i wasanaethau

Fel rhieni corfforaethol, mae ein rôl yn ymestyn y tu hwnt i ddarpariaeth statudol. Mae’n ymwneud â sicrhau bod plant yn profi eiliadau bob dydd o blentyndod, yn ogystal â chyfleoedd arbennig. Trwy Pasbort i’r Ddinas, mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn mynychu digwyddiadau cerddoriaeth fyw, cynyrchiadau theatr a digwyddiadau chwaraeon mawr

fel Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a heriol gan gynnwys rafftio dŵr gwyn, dringo, sgïo a hwylio, yn ogystal â mynychu digwyddiadau dinesig a rennir fel Pride a Goleuadau Nadolig Parc Bute.

Nid “ychwanegiadau unwaith ac am byth” yw’r profiadau hyn. Maent wedi’u halinio’n fwriadol â Strategaeth Rhianta Corfforaethol Caerdydd, gan gefnogi blaenoriaethau sy’n ymwneud â lles emosiynol, hunaniaeth gadarnhaol, cynhwysiant cymdeithasol a pharatoi pobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolion. Mae profi digwyddiadau mawr y ddinas gyda’i gilydd yn helpu pobl ifanc i greu atgofion, adeiladu hyder a datblygu ymdeimlad o falchder yn y lle maent yn byw.

Dywedodd un person ifanc, wrth adlewyrchu ar fynychu digwyddiad cerddoriaeth fyw:

“Ro’n i’n teimlo’n gyffrous wrth fynd i mewn. Roedd e mor dda, profiad anhygoel a phopeth a ddigwyddodd. Roedd y gerddoriaeth yn wych - roedd e’n swrrealaidd, ro’n i’n teimlo fel petawn i’n rhan ohoni!”

Wedi’i lunio gan yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau, nid rhagdybiaethau

Egwyddor graidd Pasbort i’r Ddinas yw bod y ddarpariaeth yn cael ei llunio o gwmpas yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau, nid yr hyn y mae oedolion yn tybio sy’n dda iddynt. Mae plant sydd â phrofiad o ofal yn glir pan fo rhywbeth yn teimlo’n symbolaidd, anhygyrch neu amherthnasol. Mae gwrando ar yr adborth hwnnw ac ymateb iddo wedi bod yn hollbwysig wrth lunio’r ffordd y mae’r rhaglen yn gweithredu.

Luke Mussa, Cyngor Caerdydd

Mae cyfleoedd yn cael eu cyd-ddylunio gyda phobl ifanc ac yn parhau’n hyblyg. Mae rhai pobl ifanc yn cael eu denu at weithgareddau corfforol egniol, tra bod eraill yn ffafrio profiadau creadigol neu ddiwylliannol. Mae dewis wedi’i wreiddio yn y rhaglen, gan gydnabod bod hyder yn tyfu pan fydd pobl ifanc yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth dros yr hyn y maent yn cymryd rhan ynddo.

Fel y dywedodd un person ifanc yn syml:

“Mor braf bod allan a gwneud rhywbeth gwahanol.”

Tynnu rhwystrau, meithrin perthyn

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn aml yn wynebu rhwystrau i gyfranogi, megis cost, trafnidiaeth, diffyg hyder, pryder neu ofn cael eu heithrio. Mae gweithio’n uniongyrchol gyda lleoliadau, trefnwyr digwyddiadau a darparwyr gweithgareddau yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn mewn ffordd ragweithiol. Mae partneriaid yn dangos yn gyson hyblygrwydd, dealltwriaeth ac ymrwymiad cryf i gynhwysiant.

Yn aml, mae’r ymdeimlad hwnnw o wahaniaeth - o dorri ar draws trefn mewn ffordd gadarnhaol - yn fan cychwyn pwysig ar gyfer datblygu lles a hyder.

Cydweithio ar draws y cyngor ar waith

Nid yw’r gwaith hwn yn bodoli ar ei ben ei hun. Mae Pasbort i’r Ddinas yn dibynnu ar gydweithio cryf rhwng gwasanaethau’r cyngor sy’n cefnogi pobl ifanc CLA, gan gynnwys timau gofal cymdeithasol, addysg, cyfranogiad a gwasanaethau cymorth ieuenctid. Drwy weithio ar y cyd, rydym yn lleihau dyblygu, yn rhannu dealltwriaeth ac yn sicrhau bod cyfleoedd yn ategu cefnogaeth ehangach yn hytrach na chystadlu â hi.

Mae gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr yn chwarae rhan allweddol wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer gweithgareddau ac wrth fyfyrio ar brofiadau wedyn. Mae cydweithwyr ym maes addysg yn helpu i gysylltu cyfleoedd â magu hyder ac ymgysylltiad ehangach, tra bod timau cyfranogiad yn hwyluso adborth fel bod pobl ifanc yn parhau i lunio’r ddarpariaeth. Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn atgyfnerthu’r egwyddor bod rhianta corfforaethol yn gyfrifoldeb a rennir ar draws yr awdurdod lleol.

Un o effeithiau mwyaf Pasbort i’r Ddinas yw’r newid yn y ffordd y mae pobl ifanc yn gweld eu hunain a’r ddinas o’u cwmpas. Mae gallu dweud “Dw i wedi bod yno” neu “Nes i wneud hynny” yn cryfhau hunaniaeth, dyheadau a chysylltiad â lle.

Negeseuon allweddol i rieni corfforaethol

Os ydym am weld plant sydd â phrofiad o ofal yn ffynnu, rhaid deall bod mynediad at ddiwylliant, chwaraeon a bywyd cyhoeddus yn elfen graidd o rhianta corfforaethol - nid ychwanegiad dewisol. Mae Pasbort i’r Ddinas yn dangos beth sy’n bosibl pan fo bwriad strategol, cydweithio traws-sector a lleisiau pobl ifanc yn cyd-fynd.

Drwy lunio darpariaeth o gwmpas yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau, gwreiddio partneriaethau ar draws gwasanaethau’r cyngor a dileu rhwystrau i gyfranogiad, rydym yn helpu i sicrhau nad yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu gofalu amdanynt yn unig - ond eu bod yn gysylltiedig, yn hyderus ac wedi’u cynnwys yn llawn ym mywyd eu dinas.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, anfonwch e-bost at: MussaL@Hwbcymru.net

Creu cartrefi lle gall pobl ifanc â phrofiad o ofal ffynnu

I blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, mae angen i gartref fod yn fwy na lle i aros. Dylai fod yn rhywle maent yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu hadnabod ac yn derbyn gofal; rhywle y gallant feithrin perthnasoedd ymddiriedus, gwneud synnwyr o’r hyn maent wedi bod drwyddo a dechrau dychmygu dyfodol gwahanol.

Yn Llamau, mae’r ddealltwriaeth honno wrth wraidd ein cartrefi plant cofrestredig. Mae ein model gofal a chymorth perthynol yn gosod y plentyn wrth ganol popeth a wnawn. Rydym yn gwybod bod angen mwy na threfn neu gymorth ymarferol yn unig ar blant sydd wedi profi trawma ac ansefydlogrwydd. Mae angen pobl arnynt a fydd yn aros wrth eu hochr, yn gwrando’n dda, yn ymateb gyda gofal ac yn creu’r amodau lle gall ymddiriedaeth dyfu.

Dyna pam mae ein cartrefi wedi’u hadeiladu o amgylch perthnasoedd. Mae bywyd bob dydd yn bwysig, ond felly hefyd y ffordd y caiff cymorth ei gynnig: yn gyson, yn ystyriol ac mewn ffordd sy’n helpu pob plentyn i deimlo ei fod yn cael ei gydnabod, ei ddeall a’i barchu. Mae ein dull yn canolbwyntio ar y plentyn ac wedi’i lywio’n seicolegol, wedi’i siapio

gan Fframwaith Seicotherapi Datblygiadol Deuol a’r gred graidd fod plant yn gwneud orau pan fo’r oedolion o’u cwmpas yn gallu darparu cynhesrwydd, sefydlogrwydd a gofal nad yw’n rhoi’r gorau iddynt.

Yn 2024, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg, agorodd Llamau ei gartref plant cofrestredig cyntaf ar gyfer pobl ifanc 14 oed a hŷn. Roedd datblygiad y cartref yn adlewyrchu’r hyn yr oedd pobl ifanc eisoes wedi bod yn ei ddweud wrthym drwy ein gwasanaethau ehangach: y gall lleoliadau ansicr, tarfu dro ar ôl tro a thrawsnewidiadau sydyn gael effaith barhaol, yn enwedig pan fydd cymorth yn diflannu wrth i oedolaeth nesáu.

I Llamau, nid darparu cartref plant yn unig yw’r weledigaeth. Y weledigaeth yw cerdded ochr yn ochr â phlant o’r adeg y maent yn symud i un o’n cartrefi, a pharhau i fod yn ffynhonnell cymorth wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion. Mae tua un o bob pump o’r bobl ifanc y mae Llamau yn eu cefnogi wedi cael profiad o ofal. Mae hynny wedi ei gwneud yn gliriach fyth fod angen parhad ar blant a phobl ifanc, nid dibyn.

Yvonne Connolly, Llamau

Mae ein cartrefi’n rhan o lwybr Llamau ehangach. Wrth i bobl ifanc fynd yn hŷn, gall y cymorth hwnnw barhau drwy ein gwasanaethau pontio, gan gynnwys llety â chymorth, fel bod ganddynt fodel cyfarwydd o ofal a chymorth i droi ato o hyd pan fydd ei angen arnynt. Y bwriad yw gwneud trawsnewidiadau’n fwy graddol, yn fwy wedi’u cynllunio ac yn fwy dynol, gan leihau’r ymdeimlad o gamu i oedolaeth ar eu pen eu hunain.

Mae hyn yn bwysig oherwydd mae symud allan o ofal yn rhy aml yn cael ei drin fel un foment unigol yn hytrach na phroses. Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu disgwyliad o annibyniaeth yn 18 oed a fyddai’n teimlo’n frawychus i unrhyw un. I’r rhai sydd eisoes wedi profi colled, trawma neu berthnasoedd toredig, gall y pwysau hwnnw fod yn llethol. Mae dull mwy perthynol yn cydnabod bod annibyniaeth yn cael ei hadeiladu dros amser, drwy gysylltiad, anogaeth a’r hyder bod cymorth yn parhau i fod ar gael.

Mae ansawdd y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar drwy arolygiad cyntaf Llamau gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Cafodd ein cartref ym Mro Morgannwg raddau Rhagorol a Da ar draws pob maes, gyda Rhagorol mewn Gofal a Chymorth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a Llesiant, a Da ar gyfer yr Amgylchedd. Ar gyfer arolygiad cyntaf, mae hyn yn gymeradwyaeth bwysig i’r model ei hun ac i ymarfer y tîm sy’n ei gyflwyno. Mae hefyd yn adlewyrchu’r diwylliant sydd wedi’i greu o fewn y cartref: un lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael gwrandawiad ac yn cael eu cefnogi i ffynnu.

Mae neges ehangach i’r sector yma hefyd. Os ydym o ddifrif am wella canlyniadau i bobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghymru, yna rhaid inni feddwl y tu hwnt i welyau ac adeiladau.

Mae angen cartrefi arnom sy’n cynnig ymdeimlad o berthyn yn ogystal â diogelwch, perthnasoedd yn ogystal â threfn, a llwybrau nad ydynt yn dod i ben pan fydd person ifanc yn cyrraedd pen-blwydd penodol.

Yn Llamau, rydym yn credu y dylai plant gael eu cadw wrth ganol popeth a wnawn, ac y dylai’r cymorth o’u cwmpas gael ei siapio gan bwy ydynt, beth maent wedi’i brofi a beth maent ei eisiau ar gyfer eu dyfodol.

Mae gan gartrefi plant cofrestredig ran bwysig i’w chwarae yn y darlun hwnnw, ond felly hefyd y perthnasoedd a’r gwasanaethau sy’n dod wedyn.

Pan fydd plant yn profi gofal sy’n berthynol, yn gyson ac wedi’i wreiddio mewn ymddiriedaeth, maent yn fwy tebygol o symud ymlaen gyda hyder. A phan fydd y gofal hwnnw wedi’i gysylltu â llwybr ehangach i oedolaeth, maent yn llai tebygol o wynebu’r math o derfyniadau sydyn sydd mor aml yn eu rhoi mewn mwy o berygl.

Dyna’r model rydym yn gweithio i’w adeiladu: cartrefi lle gall plant deimlo’n ddiogel ac wedi setlo nawr, a system gymorth y gallant barhau i ddibynnu arni wrth iddynt dyfu.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.llamau.org.uk

White, NYAS

O Gymru i Genefa: Dyddiaduron

teithio rhyngwladol pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal

Yn 2025, dyfarnwyd cyllid i NYAS Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Taith i fynd â grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal ar dair taith ryngwladol. Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol sy’n galluogi pobl ifanc i ddysgu gan eraill ledled y byd, ac mae’n creu profiadau sy’n newid bywydau. Fe wnaethom siarad â rhai o’r bobl ifanc a fu’n cyfranogi i gael sylwadau ganddynt.

Fel y dywedodd Georgia, Rayya a Skye wrthym, nid yw taith dramor yn brofiad ‘nodweddiadol’ i blant sy’n byw mewn lleoliad gofal. Yn aml iawn, ni fyddant yn cael y profiadau hynny oherwydd byddant yn symud o’r naill gartref i’r llall yn aml, ni fydd ganddynt basbort, neu bydd cyfyngiadau o ran cyllid. Fe wnaeth y bobl ifanc a gyfranogodd yn nheithiau rhaglen Taith ddisgrifio’r profiad fel ‘cyfle unwaith mewn oes’.

S: “Roedd yn gyfle unwaith mewn oes a wyddwn i ddim a fyddwn i’n cael profiad o’r fath fyth eto ... gallu mynd ar wyliau, teithio ar awyren am y tro cyntaf, teithio gyda

phobl roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn eu cwmni a gwneud rhywbeth sy’n sicrhau effaith.”

Hyd yn hyn, mae ein teithiau wedi cynnig cyfleoedd inni fynd i Gaeredin i ymweld â Senedd yr Alban, cwrdd ag Aelodau Senedd yr Alban a thîm y Gweinidogion sy’n gyfrifol am addewid ‘The Promise Scotland’, a gwylio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog fywiog iawn pan wnaeth y llefarydd orchymyn i Aelod o’r Senedd adael y siambr! Yng Ngenefa, fe wnaethom ymweld ag adeilad y Cenhedloedd Unedig i gyfarfod â swyddogion polisi hawliau dynol i ddysgu am hawliau plant ar y lefel ryngwladol, rhannu profiadau yn ymwneud â system gofal cymdeithasol ac eiriolaeth plant Cymru, a hyd yn oed yn teithio mewn cwch ar hyd Llyn Genefa i’r traeth.

R: “Ymweld ag adeilad y Cenhedloedd Unedig a chael profi lle newydd oedd y testun cyffro mwyaf i mi. Rwyf fy modd â phensaernïaeth ac atyniadau i ymwelwyr, felly roedd hi’n braf cael profi hynny mewn lle gwahanol… Rwy’n dymuno bod yn weithiwr ieuenctid rhyngwladol, felly roedd yn brofiad gwych o ran fy ngyrfa.”

Phoebe
Cymru gyda chefnogaeth gan Georgia, Rayya a Skye – aelodau o Grŵp Ymgynghorol Pobl Ifanc NYAS Cymru

S: “Fy uchafbwynt oedd gallu dysgu cymaint am wahanol bynciau yng Nghaeredin ac ymweld ag atyniad World of Illusions yn y ddinas. Fe wnaeth hynny i mi deimlo’n hynod o ddigyffro a hamddenol.”

Roedd llawer o’r bobl ifanc yn teimlo bod y teithiau’n eu gwthio i wneud rhywbeth oddi allan i’w cylch cysur, er enghraifft, mynd i’r afael ag ofni hedfan, dysgu am ieithoedd a diwylliannau newydd, neu dreulio amser gyda phobl newydd. Roeddent yn cytuno ei bod hi’n werth bachu ar y cyfle, er gwaethaf unrhyw bryderon, i brofi rhywbeth newydd a dysgu amdanynt hwy eu hunain.

G: “Er fy mod i’n awyddus i gyfleu’r argraff fy mod i’n hynod o allblyg, ni wyf i mor allblyg â hynny mewn gwirionedd, felly roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn ynglŷn â threulio llawer o amser yng nghwmni pobl eraill. Dysgais y gallaf ymdopi â sefyllfaoedd oddi allan i’n cylch cysur, ac fe wnaeth hynny fy helpu’n sylweddol iawn â fy hyder.”

R: Fe wnaeth hynny roi hwb i fy hyder a gwella fy sgiliau siarad cyhoeddus, yn enwedig o ran siarad â gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion. Cefais gyfle i ddarllen cerdd i’r grŵp rhianta corfforaethol, ac roeddwn i’n teimlo’n hynod o falch am hynny. Dysgais hefyd y dylwn i arafu pethau rhyw ychydig a’i bod hi’n hollol dderbyniol gadael i bobl fy helpu os byddaf i’n teimlo dan bwysau mawr.”

S: “Rwy’n tueddu i gael fy llethu a fy ngorysgogi’n rhwydd iawn. Roeddwn i’n teimlo’n hynod o ofnus ynglŷn â sut byddwn i’n rheoli hynny, ac ynglŷn â sut byddai pobl yn fy helpu i reoli hynny. Roedd yn frawychus gorfod fy ngwthio fy hun i fentro mor bell o fy nghylch cysur. Rwy’n falch fy mod i wedi gwneud hynny ac rwy’n falch iawn ohonof i fy hun.”

Cytunodd Georgia, Rayya a Skye y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd fel Taith ar gael i lawer ac y dylent annog mwy o bobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal i gyfranogi oherwydd yr effaith a all ddeillio o brofiadau o’r fath:

S: “Mentrwch, ewch amdani.”

G: “Bachwch ar y cyfle.” Rydych chi wedi cael y cyfle, rydych chi wedi mynd amdani ac wedi mentro o’ch cylch cysur. Hyd yn oed os byddwch chi’n teimlo’n bryderus, bydd yn well i chi fentro na pheidio oherwydd efallai na ddaw’r cyfle fyth eto.”

R: “Yn aml iawn, bydd ymadawyr gofal a phlant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn profi diffyg cyfleoedd, yn enwedig o ran ymweld â gwledydd tramor. Dylai ein lleisiau gael eu clywed ledled y byd. Manteisiwch ar y cyfle oherwydd, os na wnewch chi, efallai y gwnewch chi ddifaru hynny. Mwynhewch bob eiliad o’r profiad.”

Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio’r teithiau yn gryno? Cytunai pawb: ‘gweddnewidiol’.

Os hoffech ddysgu mwy am waith NYAS Cymru uchod, anfonwch e-bost at phoebe.white@nyas.net

Pam fod gwerthuso ‘Pan fydda i’n Barod’ yn bwysig

I’r rhan fwyaf o bobl ifanc, nid yw troi’n 18 oed o reidrwydd yn golygu bod yn barod i adael cartref a dechrau bywyd yn oedolyn. Yn wir, mae cyfuniad o ffactorau, megis y cynnydd sylweddol mewn prisiau rhent a marchnad swyddi ansefydlog, yn golygu bod pobl ifanc yn byw gartref am gyfnod hirach. Eto, yn aml mae disgwyl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ddod yn annibynnol yn gyflym. Cyflwynwyd y cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ i herio hyn, gan ganiatáu i bobl ifanc sydd mewn gofal maeth yng Nghymru barhau i fyw gyda’u gofalwyr maeth ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Lluniwyd y cynllun i sicrhau y gall pobl ifanc aros mewn amgylchedd teuluol sefydlog wrth ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r rhwydweithiau cymorth sydd eu hangen i fyw bywyd oedolyn. Mae ‘Pan fydda i’n Barod’ yn cydnabod nad oes disgwyl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ddod yn oedolion yn syth gan eu bod wedi cyrraedd y trothwy oedran cyfreithiol yn unig. Mae’n cynnig y posibiliad o gysondeb, ymdeimlad o berthyn a chymorth ymarferol ar adeg pan mae ansefydlogrwydd yn gallu arwain at oblygiadau hirdymor. Er bod Erthygl 20 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn nodi bod plant na allant fyw gyda’u teulu yn gymwys i gael eu hamddiffyn a chymorth arbennig gan y wladwriaeth, gellir deall ‘Pan fydda i’n Barod’ i fod yn un ffordd i’r ddyletswydd hon barhau ym mlynyddoedd cynharaf oedolyn, gan gydnabod na ddylai’r cymorth ddod i ben yn sydyn yn 18 oed. Er hynny, ddegawd yn ddiweddarach, ceir cwestiynau o hyd ynglŷn â pha mor gyson y mae’r cynllun yn gweithio’n ymarferol. Mae pobl ifanc, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol wedi codi

pryderon am anghysondeb o ran ymwybyddiaeth a mynediad at gymorth, y gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol, a bod rhai gofalwyr yn profi ansicrwydd ariannol pan mae lleoliad maeth yn dod yn drefniant ‘Pan fydda i’n Barod’. Ceir hefyd gwestiynau o hyd ynglŷn ag i ba raddau mae gweithwyr proffesiynol sy’n rhan o gynllunio pontio o ofal yn deall ac yn cefnogi’r cynllun.

Er mwyn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad o ‘Pan fydda i’n Barod’. ‘Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i’r ffordd y mae Pan fydda i’n Barod’ yn cael ei roi ar waith, sut brofiad sydd gan bobl ifanc, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol o’r cynllun, a beth sydd angen gwella. Mae hyn yn bwysig oherwydd os yw rhai pobl ifanc yn gwybod am y cynllun tra bod eraill ddim, neu os yw gofalwyr yn wynebu ansicrwydd ariannol sy’n ei gwneud hi’n anodd cynnal y trefniadau hynny, yna efallai nad yw ‘Pan fydda i’n Barod’ yn cynnig yr un lefel o sefydlogrwydd i bawb a allai elwa ohono. Mae angen sylfaen gliriach o dystiolaeth i ddeall beth sy’n gweithio, pa rwystrau sy’n dal i fod yno, a beth sydd angen ei newid. Mae’r gwerthusiad newydd hwn yn cynnig cyfle i wella ‘Pan fydda i’n Barod’ er mwyn ei wneud yn decach, yn fwy cyson ac yn fwy cynaliadwy ledled Cymru. Yn y pen draw, y bwriad yw sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal nid yn unig yn cael cynnig cymorth mewn egwyddor, ond yn ddigon sefydlog i wneud dewisiadau go iawn am eu dyfodol ac i arddel eu hawliau yn ymarferol.

I ddarllen rhagor a mynegi eich diddordeb i gymryd rhan yn y gwerthusiad, ewch i’n gwefan.

Enfysau a Chymylau Glaw: Ymagwedd Arloesol a Gyd-Gynhyrchir at Ddysgu am Waith Cymdeithasol

Cysylltodd Prifysgol Abertawe â Hope, sef grŵp hawliau merched o Gastell-nedd Port Talbot sydd â phrofiad o ofal, i gydweithio ar brosiect ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach gan arweinwyr y rhaglen Gwaith

Cymdeithasol i roi mwy o bwyslais ar gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan sicrhau bod eu lleisiau’n llywio addysg a dysgu mewn ffordd ystyrlon.

Er bod gwerslyfrau a dysgu yn y dosbarth yn darparu theori hanfodol a gwybodaeth broffesiynol, mae ymgysylltu â straeon a safbwyntiau go iawn yn helpu myfyrwyr i ddeall yn well yr heriau emosiynol, cymdeithasol ac ymarferol y gall pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal eu wynebu. Mae hefyd yn annog empathi, myfyrdod a dull sy’n seiliedig ar hawliau o fewn ymarfer, a gall roi dealltwriaeth ddyfnach a mwy dilys i Weithwyr

Cymdeithasol y dyfodol o’r realiti y mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ei wynebu.

“Mwynheais fynd i’r brifysgol gan ei fod yn brofiad newydd a wnaeth fy helpu i ddysgu sut gallai fy mywyd fod yn y dyfodol.”

Gwahoddwyd aelodau Hope i Brifysgol Abertawe yn haf 2025 i gwrdd â staff ac i archwilio’r brifysgol. Gyda chefnogaeth Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad CnPT, Uned Hawliau Plant a staff Ymestyn yn Ehangach, anogwyd aelodau Hope i rannu eu barn, meddwl yn greadigol, a chydweithio i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer adnodd cwrs a darlith gan siaradwr gwadd. Ar ôl cyfres o sesiynau gweithdy, rhannodd aelodau Hope eu profiadau byw o fod o mewn gofal, a llywiodd ac ysbrydolodd hynny ddatblygiad gêm mewn arddull nadroedd ac ysgolion.

Drwy gydol yr hydref, parhaodd y bobl ifanc i ddatblygu eu syniadau a chynhyrchu drafft o gêm Enfysau a Chymylau Glaw. Mae’r gêm yn cynnwys:

• Darnau chwarae sy’n cynnwys symbolau sy’n golygu rhywbeth i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

• Sgwariau ‘cwmwl’ sy’n cynrychioli profiadau heriol neu negyddol

• Sgwariau ‘enfys’ sy’n tynnu sylw at brofiadau cadarnhaol a chefnogaeth

• Sgwariau ‘aur’ sy’n cynnig enghreifftiau o adborth cadarnhaol ac arfer gorau

Jannine Smith, Uned Hawliau Plant Castell-Nedd Port Talbot a Darren Bartley, Cyngor Castell-nedd Port Talbot

“Gwnaethom ni ddysgu sut i greu gêm fwrdd a dysgu sgiliau newydd.”

Mae’r gêm yn mynd y tu hwnt i rannu profiadau plant a phobl ifanc, ac yn gweithredu fel offeryn creadigol ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol.

Mae gan y darnau chwarae hefyd eu hystyr a’u straeon eu hunain, ac ar ôl gorffen y gêm, caiff y chwaraewyr eu hannog i archwilio’r gwahanol ddarnau drwy drafod a myfyrio.

“Roedd gwrando ar straeon pobl ifanc eraill yn ddiddorol.”

Drwy gydol y gaeaf, cafodd y gêm ei phrofi gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, ac roedd yr adborth gan bob grŵp yn gadarnhaol iawn. Nododd y cyfranogwyr fod y gêm yn ddifyr, yn hawdd ei deall, ac yn ffordd ystyrlon o fyfyrio ar wahanol brofiadau. Nododd llawer hefyd ei bod yn helpu i ddechrau trafodaethau mewn ffordd ddiogel a hygyrch, tra’n annog empathi a thrafodaeth ymhlith y chwaraewyr.

Mae’r gêm yng nghamau olaf ei datblygiad a phan gaiff ei lansio – ym mis Medi 2026 - bydd yn helpu i greu amgylchedd dysgu deinamig a chyfranogol, gan symud y tu hwnt i ddulliau addysgu traddodiadol i drochi myfyrwyr mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a lywiwyd yn uniongyrchol gan leisiau pobl ifanc. Drwy chwarae’r gêm, awgrymiadau ar gyfer trafodaethau ac ymarferion myfyriol, caiff myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol eu hannog i ymgysylltu â phrofiadau dilys, ystyried ymatebion sy’n adlewyrchu arfer gorau, a myfyrio’n feirniadol ar eu gwerthoedd a’u rhagdybiaethau eu hunain.

“Rwy’n meddwl y bydd y gêm yn gwneud gwahaniaeth i Weithwyr

Cymdeithasol newydd.”

Drwy weithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gall Prifysgol Abertawe helpu i sicrhau bod Gweithwyr Cymdeithasol y dyfodol yn dod i’r proffesiwn gyda mewnwelediad dyfnach, mwy o dosturi, a dealltwriaeth o ystyr cefnogaeth ystyrlon yn ymarferol. Bydd yr enghraifft hon o ddysgu a gyd-gynhyrchir yn fuddiol i fyfyrwyr, ac mae

wedi grymuso’r bobl ifanc dan sylw drwy gydnabod gwerth eu lleisiau a’u profiadau wrth lywio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol.

Nid oedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect hwn yn cael eu hymgynghori’n unig; roeddent hefyd yn cymryd rhan weithredol wrth ddylunio cynnwys, llunio negeseuon a dylanwadu ar addysg broffesiynol. Clywyd, gwerthfawrogwyd a thrawsnewidiwyd eu profiadau’n adnodd dysgu ymarferol ag effaith barhaol. Mae gêm Enfysau a Chymylau Glaw, ynghyd â’r gweithgaredd estynedig, yn tynnu sylw at sut y gall ymagwedd greadigol tuag at addysg Gwaith Cymdeithasol gefnogi wrth feithrin empathi, cyfranogiad a dysgu trawsnewidiol, sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ddeall profiadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, tra’n dangos sut y gall cyd-gynhyrchu ddylanwadu ar addysg ac ymarfer mewn ffordd bwerus ac arloesol.

Diolch i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect. Mae eich gonestrwydd, eich ymroddiad a’ch parodrwydd i rannu eich profiadau byw wedi bod yn werthfawr wrth lywio’r gwaith hwn. Mae eich cyfraniadau nid yn unig wedi cryfhau’r prosiect ei hun, ond hefyd wedi helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu profiadau a safbwyntiau go iawn a fydd yn cefnogi dysgu a dealltwriaeth yn y dyfodol.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, anfonwch e-bost at: jannines@childrensrightsunit.org.uk

Pam cynnwys pobl sydd â phrofiad o ofal, rhieni a gweithwyr cymdeithasol mewn gwaith ymchwil i waith cymdeithasol? Gwersi ar ganolbwyntio ar safbwyntiau personol a phroffesiynol wrth werthuso ymarfer gwaith cymdeithasol

Sut ydym ni’n gwerthuso cynnwys goddrychol, fel dawns, celf ac ymarfer gwaith cymdeithasol? Mewn astudiaeth CASCADE ddiweddar, gwnaethom fynd i’r afael â’r her hon gan ddefnyddio’r dull Barn Gymharol. Mae’r dull hwn, a ddefnyddir fel arfer ym maes addysg (Pollitt, 2012), yn gofyn i aseswyr wrando ar barau o rywbeth - yn yr achos hwn, ymarfer gwaith cymdeithasol a gofnodir mewn recordiadau sain o ymweliadau gwaith cymdeithasol gyda rhieni - a llunio barn ynghylch pa un oedd yn well, yn eu barn nhw. Cymharodd yr astudiaeth yn uniongyrchol sut mae pobl sydd â phrofiad o ofal, gweithwyr cymdeithasol a rhieni yn gwerthuso’n wahanol. Er bod gweithwyr cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn arbenigwyr oherwydd eu profiad a’u hyfforddiant proffesiynol, mae arbenigedd y rhai sydd â phrofiad bywyd yn cael ei archwilio a’i ystyried llai. Mae gwaith ymchwil gyfyngedig wedi bod yn archwilio’n uniongyrchol beth sy’n gwneud ymarfer gwaith cymdeithasol da o safbwyntiau’r rhai

sy’n ei brofi’n fwyaf uniongyrchol. Mae gweithwyr cymdeithasol yn defnyddio canllawiau ac amcanion ymarfer sefydledig, ond ychydig iawn o ymgynghori na gwaith ymchwil sydd wedi bod ynghylch a yw’r rhain yn nodi’r hyn sydd bwysicaf i deuluoedd, ac yn wir a yw’r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei ystyried yn arfer da yn cael ei gynrychioli yn y fframweithiau presennol. Dyma oedd yr astudiaeth gyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar farn unigolion â phrofiad byw wrth werthuso ymarfer gwaith cymdeithasol. .

Gwnaethon ni gasglu a chyflwyno 17 recordiad sain o ymweliadau cartref gwaith cymdeithasol i ‘aseswyr’, dau ar y tro, a gofyn iddyn nhw benderfynu pa un oedd yn well a pham. 22,000 munud o sain a 573 o gymariaethau’n ddiweddarach, gwelsom fod rhywfaint o orgyffwrdd ar draws grwpiau, a hefyd rhai gwahaniaethau pwysig.

Grace Parry, CASCADE, Prifysgol Caerdydd

Roedd gweithwyr cymdeithasol yn tueddu i farnu’r recordiadau yn ôl y sgil a’r dechneg a ddangoswyd. I’r gwrthwyneb, roedd unigolion â phrofiad o ofal yn aml yn barnu ar ddilysrwydd gweithwyr cymdeithasol a sut y rheolwyd dynameg pŵer yn y rhyngweithiadau. Aeth rhieni ati i wneud y recordiadau o safbwynt ymarferol a pherthynol, gan farnu’n aml a oedd y dull i’w weld yn gweithio gyda’r teulu ac a oedd yr ymweliad yn eu gadael mewn sefyllfa well nag o’r blaen.

Y tu hwnt i’r canfyddiadau, myfyriodd aseswyr yn gadarnhaol ar eu profiadau o gymryd rhan yn yr astudiaeth , gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol. Roedd yr adborth ar y broses ymchwil a’r gefnogaeth a ddarparwyd yn gadarnhaol dros ben, gyda’r aseswyr yn rhoi sgôr uchel iawn i’r ddau. Ym mis Mawrth, mynychodd 16 o aseswyr o bob un o’r tri grŵp weithdai ‘gwneud synnwyr’, lle rhannwyd canfyddiadau a oedd yn dod i’r amlwg a myfyriodd cyfranogwyr ar eu profiadau trwy drafodaethau unigol a grŵp.

Disgrifiodd rhai aseswyr ofynion emosiynol y rôl, gan gynnwys blinder o wrando dro ar ôl tro ar recordiadau a’r her o gydbwyso egni emosiynol wrth gwblhau digon o gymariaethau. Roedd rhai recordiadau a oedd yn adlewyrchu eu profiadau eu hunain yn peri gofid ac yn ofidus i rai. Fodd bynnag, gwnaethant ganmol y gefnogaeth sydd ar gael yn gyson, gan ddisgrifio ymdeimlad cryf o gael gofal a chael eu gwerthfawrogi. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn gwerthfawrogi cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, cymryd seibiannau pan fo angen, a rheoli eu sylw, gan deimlo bod eu hanghenion unigol yn cael eu cydnabod a’u diwallu drwy gydol y broses.

Mae’r prosiect hwn yn dangos potensial gwaith ymchwil cyfranogol ym maes gofal cymdeithasol plant a phwysigrwydd rhoi sylw i leisiau pobl sydd â phrofiad bywyd. Mae creu mannau lle gellir archwilio safbwyntiau gwahanol randdeiliaid yn hynod bwysig a gwerthfawr, yn enwedig mewn achosion lle gall y safbwyntiau hyn amrywio.

I glywed mwy am y prosiect hwn, anfonwch e-bost at forresterd@cardiff.ac.uk

Cyfeirnodau

Pollitt, A. (2012). Comparative judgement for assessment. International Journal of Technology and Design Education, 22(Mai), tt. 157-170.

Cefnogi uchelgais addysg uwch i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Gyda phwy rydyn ni’n gweithio

Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth sy’n cynnwys prifysgolion, ysgolion a cholegau yng Nghymru. Maen nhw’n cydweithio i wella symudedd cymdeithasol drwy ehangu mynediad at bob math o addysg uwch. Mae Partneriaeth De-ddwyrain Cymru yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Yn ogystal â’n gwaith gyda phobl ifanc ac oedolion yn ein rhanbarthau, rydyn ni’n cynnal prosiectau i Bobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal a Gofalwyr Ifanc i godi dyheadau, chwalu rhwystrau a magu hyder ym myd addysg uwch. Ein nod yw defnyddio partneriaethau allanol a mewnol i helpu pobl ifanc i gyrchu gwybodaeth berthnasol a chaniatáu iddyn nhw brofi llawer o wahanol fathau o ymyrraeth. Y rhwystrau rydyn ni’n eu gweld

Pan rydyn ni’n gweithio gyda’n pobl ifanc, rydyn ni’n cydnabod y rhwystrau sylweddol maen nhw’n eu hwynebu.  Ond gyda’r gefnogaeth gywir, gallwn ni

ddechrau gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae mentrau fel y prosiect Ymestyn yn Ehangach yn chwarae rhan hanfodol wrth chwalu’r rhwystrau hyn.

Mae’r unigolion hyn yn aml yn wynebu amrywiaeth o heriau wrth ystyried a chael mynediad at addysg uwch. Gall y rhain gynnwys y canlynol:

• Diffyg hyder a dyhead, gyda rhai ddim yn gweld y brifysgol fel rhywle lle maen nhw’n perthyn

• Gall bylchau gwybodaeth a chymorth cyfyngedig ei gwneud hi’n anodd cael mynediad at wybodaeth glir a dibynadwy ynglŷn â llwybrau a chyfleoedd

• Mae pryderon ariannol hefyd yn gyffredin, yn enwedig o ran costau astudio ac ansicrwydd ynghylch y cymorth sydd ar gael

• Yn ogystal, gall pryderon ynghylch llety a phontio rhwng gofal a bywyd yn y brifysgol greu mwy o bryder, ochr yn ochr â phryderon ynghylch bywyd ar ôl graddio, fel sicrhau cartref sefydlog a rheoli costau byw.

Sera Richards a Heini Jones, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru

Gall y ffactorau hyn, wedi’u cyfuno â mwy o straen a llai o rwydweithiau cymorth gartref, greu rhwystrau ychwanegol rhag lwyddo’n academaidd. Fodd bynnag, gyda’r arweiniad a’r anogaeth gywir a darpariaeth wedi’i theilwra, gellir mynd i’r afael â’r heriau hyn i helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial a ffynnu.

Drwy ein gwaith cynhwysfawr gyda Gofalwyr Ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gallwn ni deilwra ein dull o flwyddyn i flwyddyn i ddiwallu anghenion pob dysgwr unigol. Rydyn ni wedi meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda’n pobl ifanc dros sawl blwyddyn, sy’n golygu y gallwn ni ddod â dull cyfannol i gefnogi dysgwyr, sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u dyheadau unigol ar gyfer y dyfodol.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig - sut rydyn ni’n ceisio goresgyn y rhwystrau

Rydyn ni’n cefnogi pobl ifanc drwy amrywiaeth o ymyriadau wedi’u targedu sy’n cynnig profiadau dysgu ystyrlon ac yn meithrin eu hyder i wneud penderfyniadau gwybodus am eu haddysg yn y dyfodol. Drwy’r gwaith hwn, ein nod yw lleihau a chwalu’r rhwystrau sy’n aml yn gysylltiedig ag addysg uwch.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy:

• Cysylltu pobl ifanc â llysgenhadon myfyrwyr sydd â phrofiad bywyd, gan gynnig cefnogaeth a dealltwriaeth er mwyn iddyn nhw ofyn cwestiynau a dysgu

• Dod â disgyblion i gampysau prifysgolion i herio camsyniadau am addysg uwch a’u helpu i weld y brifysgol fel opsiwn cynhwysol, croesawgar a chyraeddadwy

• Cyflwyno gweithdai meithrin hyder i ddatblygu hunan-gred, gwydnwch a dyheadau

• Cyflwyno pobl ifanc i academyddion drwy sesiynau blasu pynciau diddorol, gan gynnig cipolwg gwirioneddol ar astudiaethau lefel y brifysgol

• Cynnig canllawiau clir a hygyrch ar brofiad y brifysgol a’r broses ymgeisio drwy lyfrynnau y gallan nhw fynd â nhw adref a chyfeirio atyn nhw’n annibynnol

• Cefnogi cynghorwyr gyda chanllawiau wedi’u teilwra i’w helpu i gynorthwyo pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn well i gael pen ffordd mewn llwybrau addysg uwch

• Cynnig gweithgareddau cyfoethogi i ehangu gorwelion a chodi dyheadau, gan gynnwys ymweliadau â lleoliadau diwylliannol ac addysgol fel Gŵyl y Gelli ac Amgueddfa Cymru

Llais y dysgwr

Mae llais y dysgwr yn hanfodol wrth lunio ein prosiectau. Mae peth o’r adborth gan ddysgwyr rydyn ni wedi’i gael o’n digwyddiadau yn cynnwys:

‘Roedd y profiad yn 12/10. Mwynheais i bopeth. Gwnes i ffrindiau newydd!’

‘Yr agwedd fwyaf cadarnhaol ar heddiw oedd dysgu am sut galla i ymdopi â heriau wrth wneud cais i’r brifysgol.’

‘Profiad anhygoel dan arweiniad pobl anhygoel.’

‘Mwynheais i ddysgu am fywyd yn y brifysgol, mae’n gwneud i mi eisiau mynd i’r brifysgol’

Rydyn ni’n gobeithio parhau i gefnogi Pobl

Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal ar eu taith addysg ac yn edrych ymlaen at gynnal ein prosiectau yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Am ragor o wybodaeth am Ymestyn yn Ehangach, e-bostiwch reachingwider@southwales.ac.uk

Creu mannau lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu

Yn Heol Chwarae Rôl – Role Play Lane, nid ydym yn ddarparwr gofal, ond drwy ein gwaith fel canolfan deuluol gymunedol nid-er-elw, rydym wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gall mannau diogel, croesawgar sy’n seiliedig ar berthnasoedd ei wneud i blant a phobl ifanc sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein dealltwriaeth o’r ffordd orau o gefnogi teuluoedd wedi datblygu’n sylweddol. Trwy waith datblygu sefydliadol, gan gynnwys creu Theori Newid a chynnal gweithgareddau mapio taith teuluoedd gyda staff, buom yn myfyrio ar brofiadau’r teuluoedd sy’n dod drwy ein drysau. Yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y gweithgareddau rydym yn eu darparu, buom yn ystyried sut y gallai teuluoedd fod yn teimlo cyn cyrraedd, pa rwystrau y gallent fod wedi’u hwynebu a beth sydd ei angen arnynt gennym ni er mwyn teimlo’n ddiogel, yn groesawgar ac yn cael cymorth.

Atgyfnerthodd y broses hon ein hymrwymiad i ymarfer sy’n ystyriol o drawma. Fe’n hatgoffodd nad ydym yn aml yn gwybod pa brofiadau y gall plentyn neu deulu fod yn eu cario gyda nhw. Gall plentyn sy’n cyrraedd sesiwn chwarae fod yn ymdopi ag ansicrwydd, colled, newid neu drawma. Mae deall hyn wedi ein hannog i feddwl yn ofalus am sut rydym yn creu amgylcheddau lle gall plant gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain, gwneud dewisiadau a meithrin perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Roedd un teulu yn arbennig wedi helpu i atgyfnerthu pwysigrwydd y dull hwn. Buom yn cefnogi teulu maeth oedd yn gofalu am blentyn ag Anghenion

Dysgu Ychwanegol a oedd yn mynychu ein sesiynau’n rheolaidd. Dros amser, daeth Role Play Lane yn fan lle’r oedd y plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus. Mynychodd amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau, Cerddoriaeth a Symudiad, sesiynau coginio a darpariaeth ar ôl ysgol. Yn hytrach na disgwyl ymgysylltiad ar unwaith, caniatawyd i berthnasoedd a hyder ddatblygu’n naturiol. Roedd gweld y plentyn hwnnw’n magu hyder, rhoi cynnig ar brofiadau newydd a meithrin cysylltiadau yn dangos gwerth darparu cyfleoedd cyson, di-bwysau ar gyfer cyfranogiad.

Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ein dealltwriaeth. Rydym wedi bod yn ffodus i ddatblygu perthynas gyda Foster Wales ac yn ddiweddar fe wnaethom groesawu teuluoedd maeth i Role Play Lane. Trwy’r profiadau hyn rydym wedi gweld pa mor bwysig yw mannau cymunedol hygyrch i deuluoedd maeth sydd am dreulio amser o ansawdd gyda’i gilydd, adeiladu atgofion cadarnhaol a chaniatáu i blant fwynhau bod yn blant.

Wrth edrych ymlaen, mae ein partneriaeth gyda Foster Wales yn datblygu ymhellach drwy brosiect Meithrin Natur (Nature Nurture Early Years Wellbeing).

Mae teuluoedd Foster Wales ac aelodau o’r gymuned Fyddar yn helpu i ddylanwadu ar y rhaglen beilot a’i llunio, gan sicrhau bod lleisiau teuluoedd sydd â phrofiad byw yn cael eu hadlewyrchu yn ei dyluniad. Mae’r dull cydweithredol hwn wedi atgyfnerthu ein cred mai’r gwasanaethau cryfaf yw’r rhai sy’n cynnwys cymunedau nid yn unig fel cyfranogwyr, ond fel partneriaid wrth lunio’r hyn sy’n dod nesaf.

Joanne Baldock, Heol Chwarae Rol

Rydym hefyd wedi elwa o gydweithio gyda David Taylor, Cydlynydd Plant a Phobl Ifanc y Cydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol yng Nghyngor Bro Morgannwg. Mae David wedi mynychu sesiynau yn Heol Chwarae Rol, gan ein helpu i ddeall yn well rhai o’r profiadau a’r heriau sy’n wynebu plant sydd â phrofiad o ofal a’u teuluoedd. Mae’r trafodaethau hyn wedi atgyfnerthu pwysigrwydd gwrando, bod yn hyblyg a chreu amgylcheddau sy’n rhoi perthnasoedd wrth galon popeth a wnawn.

Mae dylanwad pwysig arall ar ein hymarfer wedi dod o fewn ein tîm ein hunain. Daeth un o’n gwirfoddolwyr atom gyda phrofiad o’r system ofal ac mae wedi dangos penderfyniad anhygoel i adeiladu dyfodol cadarnhaol iddo’i hun. Mae ei safbwynt wedi ein helpu i fyfyrio ar bwysigrwydd perthyn, perthnasoedd cadarnhaol a chael pobl sy’n credu ynoch chi. Fel y dywedodd:

“Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i gael blas ar sut beth yw gweithio, ac mae’n rhoi profiad defnyddiol ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn ffordd wych o feithrin dewrder a hyder ar gyfer eich swydd yn y dyfodol.”

Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw profiad o ofal yn diffinio dyfodol person ac y gall mannau cymunedol chwarae rhan fach ond ystyrlon wrth gefnogi hyder, sgiliau a dyheadau.

Wrth fyfyrio ar ein taith, mae un wers yn sefyll allan uwchlaw popeth arall: mae plant yn ffynnu pan fyddant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu derbyn. Er bod gwasanaethau arbenigol yn chwarae rôl hanfodol, gall sefydliadau cymunedol ategu’r cymorth hwn drwy ddarparu mannau croesawgar lle gall plant feithrin perthnasoedd, archwilio diddordebau a mwynhau bod yn blant.

Wrth i Gymru barhau i gryfhau’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, credwn fod lle pwysig i sefydliadau cymunedol o fewn y rhwydwaith ehangach hwnnw. Trwy gydweithio, gwrando’n ofalus a mabwysiadu dull sy’n ystyriol o drawma, gallwn helpu i greu amgylcheddau lle mae plant nid yn unig yn teimlo eu bod yn cael cymorth, ond lle gallant wirioneddol ffynnu.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, anfonwch e-bost at: visitsatroleplaylane@gmail.com

Rhoi llais i bobl ifanc yn eu taith gofal eu hunain

Yn Clearcare rydym yn credu yng ngrym gwrando go iawn; nid yn unig i ddata, adroddiadau a mesurau cydymffurfio, ond i brofiadau go iawn y plant a’r bobl ifanc sydd wrth wraidd gwasanaethau gofal.

Mae taith pob plentyn yn unigryw. Does dim dwy stori sydd yr un peth. Dyna pam mae’n rhaid i dechnoleg sy’n cael ei defnyddio mewn gofal plant preswyl fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn ganolog i’r unigolyn. Mae angen offer ar ddarparwyr gofal sy’n eu helpu i ddeall, olrhain ac ymateb i’r hyn sydd bwysicaf i bob plentyn, o lesiant emosiynol ac iechyd corfforol i addysg, perthnasoedd, annibyniaeth a datblygiad personol. Dylai canlyniadau plant fod yn fwy na llinell mewn adroddiad. Dylent fod yn ystyrlon, yn weladwy, ac yn adlewyrchu profiadau a chynnydd go iawn person ifanc.

Rhan sylfaenol o gyflawni hyn yw sicrhau bod gan blant lais gwirioneddol wrth lunio eu taith gofal eu hunain. Mae hyn yn golygu creu cyfleoedd i bobl ifanc rannu adborth, mynegi eu barn, gofyn

cwestiynau a siarad yn agored am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim. Yn bwysicach fyth, mae’n golygu sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u gweithredu. Pan fydd plant yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, mae gofal yn dod yn fwy na phroses. Mae’n dod yn fwy parchus, yn fwy perthynol ac yn y pen draw yn fwy dynol.

Adlewyrchir yr egwyddor hon yn Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n nodi bod gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn yn rhydd ym mhob mater sy’n effeithio arno, a bod y safbwyntiau hynny i gael pwyslais dyledus yn ôl ei oedran a’i aeddfedrwydd.

I sefydliadau ar draws gofal plant preswyl, gofal cymdeithasol, addysg a chomisiynu, nid dyhead arfer gorau yn unig yw hwn – mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol a moesegol. Eto i gyd, gall cofnodi a dangos tystiolaeth o gyfranogiad ystyrlon yn gyson fod yn heriol mewn amgylcheddau gofal prysur.

Samantha Evans, Clearcare Solutions

Dyma lle gall technoleg sydd wedi’i chynllunio’n feddylgar wneud gwahaniaeth sylweddol.

Datblygwyd Ap Plant Clearcare i ddarparu gofod digidol diogel sy’n briodol i oedran y bobl ifanc, lle gallan nhw fynegi eu hunain, myfyrio ar eu profiadau a chyfathrebu â gofalwyr a gweithwyr allweddol. Yn hollbwysig, nid yw eu cyfraniadau wedi’u hynysu oddi wrth y broses gofal ehangach. Mae gwybodaeth a rennir drwy’r ap yn integreiddio’n uniongyrchol i system

Clearcare, gan ddod yn rhan o gofnodion gofal, cofnodion dyddiol a phrosesau adolygu.

Mae hyn yn creu cofnod clir y gellir ei archwilio o gyfranogiad, gan helpu darparwyr i ddangos bod lleisiau plant yn llywio cynllunio gofal a’r broses gwneud penderfyniadau. Yn bwysicach fyth, mae’n sicrhau nad yw’r lleisiau hynny’n mynd ar goll ymhlith gwaith papur a phrosesau gweinyddol. Maen nhw’n parhau i fod yn weladwy, yn hygyrch ac yn ddylanwadol.

Y tu hwnt i gyfranogiad, mae’r ap hefyd yn cefnogi rhywbeth yr un mor bwysig: helpu pobl ifanc i adeiladu a chadw eu stori bersonol eu hunain.

Drwy ddyddiaduron digidol, gwaith stori bywyd, ffotograffau, fideos ac atgofion personol, gall plant greu cofnod o’u profiadau o’u safbwynt eu hunain. Dros amser, mae hyn yn datblygu’n archif bersonol werthfawr; nid yn unig dogfennu’r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, ond cofnodi’r hyn a deimlon nhw, a brofon nhw, a’r hyn a gyflawnwyd ganddyn nhw ar hyd y ffordd.

I lawer o blant mewn gofal, yn enwedig y rhai sydd wedi profi nifer o leoliadau neu sawl perthynas yn chwalu, gall cynnal ymdeimlad o barhad fod yn anodd. Gall cael mynediad at gofnod personol o’u taith helpu i gryfhau hunaniaeth, cadw atgofion pwysig a darparu ffordd go iawn o gofnodi eu twf a’u gwydnwch. Yn aml, trafodir parhad mewn gofal o ran lleoliadau, gwasanaethau a rhwydweithiau cymorth. Mae parhad hunaniaeth yr un mor bwysig. Mae angen lleoedd ar bobl

ifanc y gallan nhw eu perchnogi, sy’n eu helpu i wneud synnwyr o’u profiadau, ac sy’n eu hatgoffa o bwy ydyn nhw a pha mor bell maen nhw wedi dod. Wrth i’r sector gofal plant preswyl barhau i esblygu, mae cydnabyddiaeth gynyddol y dylai technoleg wneud mwy na chefnogi gweinyddiaeth a chydymffurfiaeth. Dylai gryfhau perthnasoedd, mwyhau lleisiau plant, a helpu i greu amgylcheddau gofal lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu, a’u grymuso. Mae’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan wasanaethau gofal plant preswyl yn haeddu’r gorau. Mae’r un peth yn wir ar gyfer y gweithwyr proffesiynol sy’n adeiladu gyrfa i ofalu amdanyn nhw. Drwy gyfuno arfer tosturiol â thechnoleg arloesol, gall y sector barhau i adeiladu gwasanaethau sy’n gosod lleisiau plant lle maen nhw’n perthyn; wrth wraidd eu stori eu hunain.

Os ydych chi’n awyddus i gryfhau cyfranogiad plant, gwella prosesau cofnodi canlyniadau a rhoi llais ystyrlon i bobl ifanc yn eu taith gofal eu hunain, byddem wrth ein bodd yn dangos i chi sut y gall Clearcare helpu. Trefnwch demo am ddim i weld sut mae platfform Clearcare ac Ap y Plant yn cefnogi darparwyr gofal plant preswyl i gasglu lleisiau plant, dangos tystiolaeth o gyfranogiad a symleiddio rheoli gofal.

Ewch i www.clearcaresolutions.co.uk i drefnu eich demo a dysgu sut y gall technoleg helpu i roi llais pob plentyn wrth wraidd gofal.

Mae amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn dechrau gyda diogelwch data

Wrth drafod amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, yn aml meddyliwn am ofal corfforol, gweithdrefnau diogelu, a chymorth rheng flaen. Ond rhan yr un mor bwysig o’r cyfrifoldeb hwnnw yw sicrhau bod eu data wedi’i ddiogelu’n iawn. Mae sefydliadau ar draws gwasanaethau addysg, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chymunedol yn cadw data hynod bersonol ac mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw i’w gadw’n ddiogel. Gyda’r ymddiriedaeth honno daw cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol. Pan fo tor diogelwch data’n digwydd, mae’r canlyniadau’n ddifrifol. Gallai gwybodaeth bersonol fel hanes meddygol, cofnodion iechyd meddwl, neu nodiadau diogelu achosi niwed difrifol os yw’n disgyn i’r dwylo anghywir. I unigolion, gall hyn olygu gofid emosiynol, bygythiad i’w diogelwch, a cholli ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a gynlluniwyd i’w hamddiffyn. I sefydliadau, mae’r canlyniadau’n aml yn cynnwys tarfu ar eu gweithrediadau, dirwyon ariannol, niwed i’w henw da, a defnyddwyr, cyfranwyr a phartneriaid yn colli hyder ynddyn nhw.

Y realiti yw bod sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed yn cael eu targedu fwyfwy. Mae’r cyfuniad o ddata gwerthfawr ac, mewn llawer o achosion, adnoddau TG mewnol cyfyngedig yn eu gwneud yn ddeniadol i seiberdroseddwyr. Ar yr un pryd, mae gweithio o bell a hybrid wedi ehangu nifer y dyfeisiau a’r pwyntiau mynediad y mae angen eu rheoli. Mae bygythiadau cyffredin yn cynnwys e-byst gwe-rwydo, ymosodiadau meddalwedd wystlo, gwallau dynol, a cholled neu ladrad dyfeisiau heb eu diogelu. Gall unrhyw un o’r rhain waethygu’n gyflym heb yr amddiffyniadau cywir ar waith.

Yn rhy aml, caiff diogelu data ei drin fel mesur adweithiol, rhywbeth sydd ond yn cael sylw ar ôl i ddigwyddiad ddigwydd. Erbyn hynny, mae’r niwed wedi’i wneud. Dull gwell yw canolbwyntio ar atal, monitro parhaus, a chanfod bygythiadau’n gynnar. Mae hynny’n golygu rhoi’r mesurau cywir ar waith yn gynnar, gan ganiatáu i fusnesau ymateb yn gyflym ac yn effeithiol os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Nid oes rhaid i adeiladu strategaeth ddiogelwch gadarn fod yn gymhleth, ond rhaid iddi fod yn gynhwysfawr.

Chloe Finlayson, Techsol

Mae hyn yn cynnwys amddiffyn dyfeisiau a rhwydweithiau, sicrhau systemau e-bost, monitro am fygythiadau, a sicrhau y gellir adfer data yn gyflym os bydd digwyddiad. Yn ei hanfod, dylid ystyried diogelwch fel proses barhaus, sy’n esblygu wrth i sefydliadau dyfu, mabwysiadu technolegau newydd, ac wynebu risgiau sy’n dod i’r amlwg.

I lawer o sefydliadau, yr her yw cydbwyso diogelwch cryf â gofynion gweithredol o ddydd i ddydd. Mae angen i dimau gael mynediad amserol at wybodaeth er mwyn darparu cefnogaeth effeithiol, ond rhaid rheoli’r mynediad hwnnw’n ofalus. Mae taro’r cydbwysedd cywir rhwng defnyddioldeb a diogelwch yn hanfodol. O gael eu gwneud yn dda, mae mesurau diogelwch yn galluogi staff i weithio’n effeithlon heb greu rhwystrau neu atebion diangen a allai gyflwyno risg ychwanegol.

Yn ogystal â diogelu unigolion, rhaid i sefydliadau hefyd fodloni gofynion rheoleiddio llym o ran diogelwch data a phreifatrwydd. Mae fframweithiau fel GDPR yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer sut mae gwybodaeth sensitif yn cael ei storio, ei chyrchu a’i rhannu. I elusennau, mae’r gofynion hyn yn aml hyd yn oed yn fwy heriol, gyda fframweithiau cydymffurfio llym ynghlwm wrth lywodraethu, cyllid ac atebolrwydd. Gall methu â chyflawni arwain at gosbau ariannol, mwy o graffu, a cholli ymddiriedaeth. Gall achrediadau fel Cyber Essentials a Cyber Essentials Plus helpu i ddangos bod y safonau cywir ar waith a chefnogi sefydliadau i fodloni’r disgwyliadau hyn. Mae cael polisïau llywodraethu data clir, adolygiadau rheolaidd, ac atebolrwydd a rennir ar draws timau yn helpu i sicrhau bod diogelu data yn cael ei drin fel cyfrifoldeb parhaus yn hytrach na thasg untro.

Yn y pen draw, mae diogelu data yn ymwneud â diogelu pobl. Drwy fabwysiadu dull rhagweithiol ac ymarferol o ymdrin â diogelwch, gall sefydliadau leihau risg, cynnal ymddiriedaeth, a sicrhau parhad y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.

Gall sefydliadau sydd heb y gallu mewnol i reoli hyn ar eu pen eu hunain elwa o weithio gyda phartneriaid technoleg profiadol. Mae Techsol yn gweithio gyda sefydliadau i leddfu’r pwysau ar reoli TG a diogelwch, gan ddarparu atebion technoleg o’r dechrau i’r diwedd, o gymorth TG o ddydd i ddydd a seiberddiogelwch hyd at wasanaethau cwmwl a gweithredu ERP.

Gyda phrofiad helaeth o gefnogi elusennau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys Plant yng Nghymru, mae Techsol yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu’r sector. Mae hyn yn caniatáu i dimau ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei wneud orau, sef cefnogi pobl sy’n agored i niwed a darparu gwasanaethau hanfodol, gyda’r hyder bod gwybodaeth sensitif yn cael ei rheoli’n gyfrifol ac yn ddiogel.

Os hoffech chi gryfhau eich seiberddiogelwch a diogelu data sensitif yn well o fewn eich sefydliad, cysylltwch â Techsol ar 03300 245447 neu e-bostiwch info@techsol.co.uk

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol

Caerdydd yn cynnig dealltwriaeth newydd ar Warcheidiaeth Arbennig yng Nghymru

Pan na all plant fyw gyda’u rhieni geni, mae llawer yn cael gofal gan berthnasau – neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd hŷn neu ffrindiau agos i’r teulu. Gelwir hyn yn gyffredin yn ofal gan berthynas. Pan nad yw dychwelyd adref yn opsiwn, gall gofalwyr wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwadaeth Arbennig (GGA) – trefniant cyfreithiol sy’n rhoi cyfrifoldeb rhiant hirdymor iddyn nhw.

Mae Gorchmynion Gwarcheidwadaeth Arbennig (GGA) bellach yn cael eu defnyddio’n fwy cyffredin na mabwysiadu fel llwybr allan o ofal. Unwaith y bydd hyn wedi’i ganiatáu, ni chaiff plentyn ei adnabod fel un “sy’n derbyn gofal” mwyach. Er bod llawer o Orchmynion Gwarchodaeth Arbennig yn cael eu rhoi i berthnasau, mae rhai gofalwyr maeth hefyd yn gwneud cais am GGA i roi sefydlogrwydd hirdymor. Mewn achosion eraill, trefnir GGA yn breifat ar gyfer plant sydd erioed wedi bod mewn gofal ond sy’n byw o fewn eu rhwydwaith teuluol estynedig.

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Caerdydd yn dangos, y tu ôl i’r sefydlogrwydd hwn, fod llawer o’r

plant hyn yn wynebu heriau cudd sylweddol. Wedi’i ariannu gan Sefydliad Nuffield, bu’r astudiaeth yn edrych ar ba blant sy’n gadael gofal trwy GGA, eu hamgylchiadau teuluol, a’u hanghenion datblygiadol. Gan ddefnyddio data dienw gan dros 26,000 o blant mewn gofal rhwng 2005 a 2021, ochr yn ochr ag asesiadau manwl gyda phlant ifanc, mae’r ymchwil yn cynnig un o’r lluniau cliriaf hyd yma o fywyd plant sy’n tyfu i fyny mewn gofal gan berthynas neu gyda GGA yng Nghymru.

Lefelau uchel o anghenion emosiynol ac ymddygiadol

Un o’r canfyddiadau mwyaf trawiadol yw cynifer o’r plant hyn sydd ag anawsterau iechyd meddwl. Roedd mwy na hanner ohonyn nhw wedi’u graddio fel rhai sydd â lefelau uchel neu uchel iawn o anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, o’i gymharu â thua 8% o blant yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’r heriau hyn yn aml wedi’u gwreiddio yn eu profiadau cynnar. Mae llawer o blant mewn gofal gan berthynas wedi wynebu cam-drin, esgeulustod neu ansefydlogrwydd cyn mynd i ofal.

O ganlyniad, efallai eu bod yn cael trafferth rheoli emosiynau, canolbwyntio yn yr ysgol, a meithrin perthnasoedd.

Canfu’r astudiaeth hefyd anawsterau mewn meysydd allweddol o ddatblygiad, gan gynnwys canolbwyntio, cof, meddwl yn hyblyg ac adnabod emosiynau mewn eraill. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer dysgu a rhyngweithio cymdeithasol, sy’n golygu y gall heriau plant effeithio ar fywyd cartref a’r ystafell ddosbarth.

Rôl gofalwyr sy’n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig

Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae gofalwyr sy’n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnig sefydlogrwydd. Roedd llawer o blant sy’n derbyn GGA eisoes yn byw gyda pherthnasau, sy’n awgrymu bod y gorchmynion hyn yn aml yn ffurfioli trefniadau gofal presennol. Mae plant sydd â GGA yn tueddu i brofi llai o symudiadau rhwng lleoliadau a threulio llai o amser mewn gofal na phlant eraill, gan dynnu sylw at fanteision y trefniadau hyn. Fodd bynnag, mae gofalwyr yn aml yn wynebu pwysau sylweddol. Mae llawer yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uwch, maen nhw ar incwm is, ac maen nhw’n gofalu am aelwydydd mwy neu fwy cymhleth.

Bwlch yn y gefnogaeth

Un o’r prif ganfyddiadau yw’r diffyg cefnogaeth barhaus. Unwaith y dyfernir GGA, gall teuluoedd golli’r gwasanaethau sydd ar gael i ofalwyr maeth a rhieni sy’n mabwysiadu. Gall hyn adael gofalwyr yn teimlo’n ynysig, hyd yn oed wrth gefnogi plant ag anghenion cymhleth. Fel yr eglurodd un gofalwr: “rydych chi ar eich pen eich hun nawr.”

Mae ymwybyddiaeth o anghenion y plant hyn hefyd yn parhau i fod yn gyfyngedig. Heb ddeall effaith trawma cynnar, gellir labelu plant fel rhai ‘anodd’ neu ‘aflonyddgar’, tra gall plant tawelach gael eu hanwybyddu.

Beth sydd angen newid?

Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at yr angen am gydnabyddiaeth well o deuluoedd sy’n berthnasau a chefnogaeth fwy cyson ar ôl i Orchmynion Gwarchodaeth Arbennig gael eu rhoi. Mae mynediad gwell at wasanaethau iechyd meddwl a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith athrawon a gweithwyr proffesiynol yn allweddol. Gyda’r gefnogaeth gywir, fel strategaethau ystafell ddosbarth strwythuredig a chymorth gyda datblygiad emosiynol, gall y plant hyn ffynnu. Hebddo, mae eu hanghenion mewn perygl o gael eu hanwybyddu.

I gael gwybod mwy, gallwch ddarllen yr adroddiadau llawn yma: Teuluoedd gwarcheidiaeth arbennig yng Nghymru: Profiadau ac anghenion cymorth (Sefydliad Nuffield) – CASCADE neu e-bostiwch stablerl@cardiff.ac.uk

Perthnasoedd parhaol y tu hwnt i’r system ofal - sut y gall perthnasoedd cymunedol

gefnogi plant mewn gofal

Mae’r rhan fwyaf o blant yn elwa o rwydwaith o oedolion cefnogol sy’n aros yn eu bywydau yn y tymor hir. Ond i lawer mewn gofal mae’r rhwydwaith hwnnw’n gyfyngedig, wedi’i amharu arno neu ddim ar gael. Mae gan y system ofal ddyletswyddau i’r plant hyn: o dan Erthygl 20, nid yn unig i ddarparu gofal amgen diogel, ond i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Mae hynny’n cynnwys hwyluso perthnasoedd sy’n para. Ac mae cefnogaeth broffesiynol, sydd yn ei natur yn amodol a dros dro, ond yn gallu gwneud hyn a hyn. Mae’r erthygl hon yn dadlau bod perthnasoedd yn y gymuned o werth unigryw i blant mewn gofal, a bod Ymwelwyr Annibynnol wedi’u cynllunio i gynnig perthynas barhaol y tu hwnt i’r system.

Mae Ymwelwyr Annibynnol yn gyfeillion gwirfoddol sy’n cael eu paru â phlant mewn gofal. Mae’r rôl yn statudol yng Nghymru a Lloegr, ac mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal yr hawl i gael ei ystyried ar gyfer un, ond mae’r ddarpariaeth yn parhau i fod yn fach: mae tua 3% o blant mewn gofal yn Lloegr yn cael eu paru ag Ymwelwyr Annibynnol, a dim ond 1% yng Nghymru. Gan dynnu ar astudiaeth ddiweddar (Jones, 2024) a archwiliodd y polisi Ymwelydd Annibynnol, mae’r erthygl hon yn adrodd canfyddiadau o gyfweliadau gydag 20 o blant ag Ymwelydd Annibynnol.

Roedd perthnasoedd ag Ymwelwyr Annibynnol yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, ond roedd yr hyn yr oedd pobl ifanc yn ei ystyried yn bwysig amdanynt yn amrywio. Roedd yr Ymwelydd Annibynnol yn cynnig perthynas ddibynadwy gydag oedolyn y tu hwnt i’r system ofal, ond daeth tri safbwynt gwahanol i’r amlwg ar beth oedd ei bwrpas: model rôl a helpodd nhw i fynd ar drywydd eu nodau, ffrind sy’n cynnig profiadau newydd, neu rywun yr ymddiriedir ynddo sy’n cael ei werthfawrogi am agosatrwydd a dibynadwyedd. Roedd ei arwyddocâd yn dibynnu ar ba gefnogaeth arall oedd gan y person ifanc. I’r rhai oedd â rhwydweithiau cryf o deulu a ffrindiau, roedd yr Ymwelydd Annibynnol

yn werthfawr ond nid yn hanfodol. I’r rhai a oedd wedi’u hynysu, neu oedd wedi cael profiadau gwael o ofal, roedd yn aml yn dod yn ffynhonnell graidd o gefnogaeth, yn enwedig wrth adael gofal.

Yn fyr, nid oedd unrhyw berthynas Ymwelydd Annibynnol archdeipaidd. Roedd y gefnogaeth yn hyblyg ac wedi’i deilwra, mewn system sydd, o dan bwysau i fod yn atebol, yn tueddu tua’r hyn sy’n cael ei safoni. Mae plant mewn gofal yn aml yn disgrifio cael eu ‘prosesu’ gan weithwyr proffesiynol. Mae’r Ymwelydd Annibynnol yn symud o’r rhesymeg honno: wedi’i hwyluso gan wasanaeth, ond nid un sy’n mynd ar drywydd canlyniad diffiniedig, mae’n cynnig perthynas gydol oes a allai ei ffurfio’n gyfan gwbl o amgylch un person ifanc.

Yn Lloegr, mae diwygiadau i ofal cymdeithasol plant yn canolbwyntio ar berthnasoedd, gan gydnabod bod system sy’n caniatáu i blant adael gofal heb rwydwaith o oedolion cariadus yn system sy’n methu. Os ydym hefyd o ddifrif ynglŷn â chefnogi perthnasoedd y tu hwnt i ofal, mae ehangu cymorth Ymwelwyr

Annibynnol fel ei fod yn cyrraedd mwy nag 1% o’r rhai mewn gofal yng Nghymru yn lle da (a rhad) i ddechrau.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ‘rianta cymunedol’, gan ymestyn cyfrifoldeb dros, a buddsoddiad mewn, pobl sydd â phrofiad o ofal i’r rhai nad oes ganddynt rôl ‘rhianta corfforaethol’ statudol.

Os bydd Cymru’n ei fabwysiadu, dylem gydnabod lle mae’r syniad hwnnw eisoes wedi’i wireddu yn ymarferol, gan gynnwys mewn gwasanaethau

Ymwelwyr Annibynnol. Mae’r polisi eisoes yn bodoli; yr hyn sydd ar goll yw ymwybyddiaeth, buddsoddiad, a chydnabyddiaeth bod cefnogaeth gymunedol i blant a phobl ifanc yn cyfrif.

Os hoffech ddysgu mwy am yr astudiaeth hon, anfonwch e-bost at: JonesR187@cardiff.ac.uk

Rhwydwaith Cyfranogi o Brofiad Gofal Cymru:

Cydweithio i gryfhau lleisiau pobl ifanc

Ac yntau wedi’i sefydlu ym mis Tachwedd 2024, crëwyd y Rhwydwaith Cyfranogi o Brofiad Gofal

Cymru i ddod ag ymarferwyr cyfranogi ynghyd o bob cwr o Gymru. Roedd y nod yn syml: creu man lle y gall sefydliadau gydweithio, rhannu dysg a chryfhau lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal.

Tra bod awdurdodau lleol, elusennau a thimau cyfranogi ledled Cymru eisoes yn darparu gwaith gwerthfawr gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal, roedd cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a dysgu ar y cyd ledled sefydliadau yn brin. Datblygwyd y rhwydwaith i ddarparu llwyfan i gyfranogwyr gysylltu, cyfnewid syniadau a gweithio’n gyfunol tuag at wella canlyniadau cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal.

Daw’r rhwydwaith â gweithwyr cyfranogi, swyddogion ymgysylltu, rheolwyr gwasanaethau a sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i rannu ymarfer da, i drafod heriau, i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a chymorth cyfranogi ystyrlon. Trwy fagu perthnasoedd cryfach rhwng sefydliadau, mae’n helpu i leihau dyblygu ymdrech

ac mae’n annog dull gweithredu mwy cydgysylltiedig tuag at waith cyfranogi trwy Gymru i gyd.

Ers ei lansio, tyfodd y rhwydwaith yn sylweddol ac mae ar hyn o bryd yn cynnwys 42 o aelodau sy’n cynrychioli 26 o sefydliadau o’r sectorau gwirfoddol a statudol, fel ei gilydd. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod bob yn ail mis, yn amyneilio rhwng cyfarfodydd ar-lein ac yn y cnawd. Mae’r dull gweithredu hwn yn galluogi aelodau o bob cwr o Gymru i gyfranogi gan hefyd ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i fagu perthnasoedd, i rannu profiadau ac i gryfhau partneriaethau wyneb yn wyneb.

Mae pob un cyfarfod yn cynnwys cyfleoedd i aelodau rannu diweddariadau, i nodi themâu sy’n codi ac i lunio agendâu’r dyfodol. Mae trafodaethau hyd yn hyn wedi ymdrin ag ystod eang o bynciau, yn cynnwys prosesau ad-dalu ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc o weithgareddau, rhannu adnoddau a ddatblygwyd trwy weithio mewn partneriaeth, megis animeiddiad Maethu Lles Y Rhwydwaith Maethu, a grëwyd mewn cydweithrediad â NYAS Cymru, cyflwyniadau gan Lywodraeth Cymru am Gronfeydd

Alexandra Atkins, Y Rhwydwaith Maethu

Ymddiriedolaeth Plant ac ISA i Bobl Iau, a sgyrsiau mwy cyffredinol ynglŷn â rhianta corfforaethol.

Daeth y rhwydwaith yn fforwm gwerthfawr yn gyflym i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal, i ddarparu lle i drafod materion sy’n codi, i rannu llwyddiannau ac i ennill dirnadaeth am brofiadau plant a phobl ifanc o wahanol rannau o’r wlad.

Dywedodd Darren Bartley, Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogi yng Nghyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot:

“Mae cyfarfod â gweithwyr cyfranogi a sefydliadau eraill o bob cwr o’r wlad yn wirioneddol fuddiol i fy rôl.

Mae’n rhoi’r cyfle imi drafod rhwystrau rhag cyfranogi, gwrando ar hanesion o lwyddiant a chael dod i wybod beth mae plant a phobl ifanc mewn gofal yn ei ddweud trwy Gymru i gyd. Mae Rhwydwaith Cyfranogi Profiad Gofal Cymru yn wych am hwyluso hyn.”

Un o gryfderau allweddol y rhwydwaith yw ei allu i ddod ag ymarferwyr ynghyd sy’n rhannu ymrwymiad i gryfhau lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal. Trwy gyfarfodydd rheolaidd a chyfathrebu parhaus, gall aelodau ddysgu oddi wrth y naill a’r llall, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chryfhau ymarfer cyfranogi o fewn eu sefydliadau’u hunain.

Mae’r rhwydwaith hefyd wedi helpu i fagu perthnasoedd cryfach rhwng sefydliadau, gan greu cyfleoedd i gydweithio ar ymgynghoriadau, prosiectau a mentrau sy’n ceisio sicrhau bod barnau a phrofiadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Dywedodd Samantha Frith-Jones, Rheolwr Gwasanaeth yn AFKA Cymru:

“Gwerthfawrogaf y grŵp hwn oherwydd ei fod yn dod â sefydliadau ynghyd sydd â diben a rannir, gan greu lle i rannu uchelgais ac i archwilio cyfleoedd i gydweithio i gryfhau llais y sector profiad gofal. Rydym yn gryfach pan ydym yn cydweithio.”

Mae llwyddiant Rhwydwaith Cyfranogi o Brofiad Gofal Cymru yn dangos y gwerth o ddod â sefydliadau ynghyd ynglŷn â diben a rannir. Datblygodd yr hyn a ddechreuodd fel menter i gryfhau cysylltiadau ledled y sector i fod yn gymuned sy’n tyfu o ymarfer sy’n helpu i wella cydweithredu, i gryfhau cyfranogi ac i hyrwyddo lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad bywyd trwy Gymru i gyd.

Wrth i’r rhwydwaith barhau i ddatblygu, mae’i ffocws yn dal i fod yn eglur: cynorthwyo cydweithredu, rhannu dysg a sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal wrth graidd llunio penderfyniadau. Trwy ymrwymiad ei aelodau, mae’r rhwydwaith yn helpu i adeiladu tirwedd gyfranogi gryfach a mwy cysylltiedig Ledled Cymru, tirwedd lle mae sefydliadau’n cydweithredu, lle y rhannir dysg, a lle y caiff lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u gweithredu.

Am ragor o wybodaeth neu i archwilio cyfleoedd i gymryd rhan, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Wales@fostering.net

Mae pobl ifanc a phrofiad o ofal yn wynebu rhwystrau sylfaenol i gael eu swydd gyntaf

Mae ymchwil newydd gan Action for Children, wedi’i ariannu gan Sefydliad Partneriaeth John Lewis drwy’u rhaglen Building Happier Futures, yn dangos bod pobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal yn wynebu rhwystrau ymarferol sylweddol wrth geisio dod o hyd i’w swydd gyntaf a’i dechrau. Mae tua un o bob wyth o bobl ifanc 16–24 oed ar hyn o bryd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gyda phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu heffeithio’n anghymesur.

Cymharodd yr arolwg barn newydd dros 1,400 o bobl â phrofiad o’r system gofal (gan gynnwys y rhai sy’n gadael gofal*) a dros 400 o bobl heb brofiad o’r system gofal, gan ganfod llawer o heriau cyffredinol i bobl ifanc sy’n chwilio am ac yn dechrau eu swyddi cyntaf, waeth beth fo’u cefndir. Mae llawer o bobl ifanc yn cael trafferth gyda gweithgareddau fel ysgrifennu eu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau swyddi ac ymddwyn mewn amgylchedd gwaith. Fodd bynnag, mae pobl sydd â phrofiad o ofal, ac yn enwedig y rhai sy’n gadael gofal, dan anfantais sylweddol o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol

wrth sicrhau a dechrau gwaith, ar amrywiaeth o fesurau. Un o’r rhain yw rhwystrau ymarferol. Yn yr ymchwil, roedd y boblogaeth gyffredinol bron ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent wedi cael eu heffeithio gan unrhyw un o’r rhwystrau ymarferol, o’i gymharu â’r rhai sydd wedi profi gofal (61% a 31% yn y drefn honno).

• Roedd pobl o’r boblogaeth gyffredinol bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent wedi wynebu unrhyw rwystrau ymarferol (61% o’i gymharu â 31% o’r rhai â phrofiad o ofal)

• Dywedodd 25% o’r ymatebwyr â phrofiad o ofal eu bod yn cael trafferth cael gafael ar ddogfennau adnabod (megis pasbort neu drwydded yrru), o’i gymharu â 11%

• Roedd gan 25% ddim neu fynediad cyfyngedig at ddillad priodol ar gyfer gwaith, o’i gymharu â 10%

• Dywedodd 24% nad oedd ganddynt fynediad at ddyfais megis ffôn neu gyfrifiadur, o’i gymharu â 7%

Jessica Ford, Gweithredu dros Blant Cymru

• Roedd gan 24% fynediad cyfyngedig neu ddim mynediad at y rhyngrwyd, o’i gymharu â 8%

• Dywedodd 24% fod ganddynt fynediad cyfyngedig neu ddim mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, o’i gymharu â 17%

Canfu’r ymchwil mai fforddiadwyedd oedd y prif reswm pam nad oedd pobl â phrofiad o ofal yn gallu sicrhau dogfennau adnabod a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwaith. Mae hyn yn awgrymu y gall anawsterau ariannol, ac mewn rhai achosion tlodi, ansefydlogrwydd tai a thai chwarae rhan sylweddol wrth atal pobl ifanc â phrofiad o ofal rhag mynd i gyflogaeth.

“Nid yw pobl ifanc â phrofiad o ofal yn brin o allu nac uchelgais, ond maent yn wynebu rhwystrau i ddod o hyd i waith a symud ymlaen ynddo,” meddai Lisa Hibbert, Cydlynydd Gwasanaeth yng ngwasanaeth Gweithredu dros Sgiliau Plant+ Cymru Gyfan.

“Yr hyn a welwn bob dydd yw cronni rhwystrau ymarferol, emosiynol a systemig nad yw eu cyfoedion yn debygol o’u hwynebu i’r un graddau. Gall rhywbeth mor sylfaenol â chael mynediad at basbort neu drwydded yrru atal person ifanc llawn cymhelliant yn llwyr”.

“Ar ben hynny, mae llawer o bobl ifanc yn delio â thrawma, patrymau cwsg aflonydd, pryder a hyder isel, sy’n gallu gwneud cyfweliadau, arferion gwaith a gwrthodiadau yn anodd iawn i’w rheoli. Yn rhy aml, mae systemau’n disgwyl annibyniaeth cyn i bobl ifanc fod yn barod, a gwydnwch cyn iddo gael amser i ddatblygu. Gyda llwybrau hyblyg sy’n ymwybodol o drawma a chefnogaeth ymarferol barhaus, gall pobl ifanc lwyddo - ac maent yn llwyddo. Heb hynny, mae gormod ohonynt yn cael eu cau allan yn dawel o gyfleoedd.”

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, mae Action for Children yn galw ar Lywodraeth y DU i:

• Dalu cyfradd Credyd Cynhwysol dros 25 i bob gofalwr sy’n gadael gofal

• Sicrhau mai dim ond fel dewis olaf y defnyddir sancsiynau budd-daliadau

ar gyfer gofalwyr sy’n gadael gofal

• Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yn Lloegr gryfhau eu Cynigion Lleol drwy helpu i ddileu rhwystrau ymarferol — gan gynnwys trafnidiaeth am ddim neu wedi’i chymhorthdal, a chymorth i gael ID, dyfeisiau a dillad gwaith hanfodol

Dywedodd Laurie Ryall, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Action for Children yng Nghymru:

“Mae ein harolwg yn dangos mor amlwg yw’r rhwystrau - o ddiffyg ID i fethu â chael dillad neu drafnidiaeth addas - gan roi pobl ifanc â phrofiad o ofal dan anfantais cyn iddynt hyd yn oed gael cyfle i ddechrau. Mae Adolygiad Milburn hefyd wedi tynnu sylw at y materion hyn, ac rydym yn gobeithio gweld pobl ifanc â phrofiad o ofal yn cael eu cydnabod fel grŵp sydd o dan anfantais sylweddol, gyda chamau penodol i fynd i’r afael â’r rhwystrau maent yn eu hwynebu.”

Dywedodd Helen Webb, Prif Swyddog

Pobl Partneriaeth John Lewis:

“Mae ein rhaglen Building Happier Futures wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth, chwalu rhwystrau ac ysbrydoli newid. Yn ogystal â gweithio gyda awdurdodau lleol i fynd i’r afael â heriau ymarferol fel cael ID, teithio i’r gwaith a dillad priodol, rydym yn darparu rhaglen gyflogadwyedd wedi’i theilwra i helpu pobl ifanc i ddechrau’n llwyddiannus yn y gweithle. Ond mae angen newid ehangach. Rydym yn annog mwy o gyflogwyr i weithredu ac yn galw ar Lywodraeth i ariannu rhaglenni cyflogadwyedd byr ar gyfer gofalwyr sy’n gadael gofal er mwyn creu effaith ar raddfa.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am y gwaith hwn, e-bostiwch: Alastair.Love@actionforchildren.org.uk

childreninwales.org.uk/cy

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cylchgrawn yr Haf 2026 - Hyrwyddo Hawliau Plant sydd a Phrofiad o Ofal by childreninwales - Issuu