Skip to main content

Cyflwr y Sector Cymorth i Deuluoedd a Rhianta yng Nghymru 2026

Page 1


Cyflwr y Sector Cymorth i Deuluoedd a Rhianta yng Nghymru 2026

Cymru sy'n Cael Cymorth yn Gynnar, Nid yn Hwyr

Gwybodaeth a gasglwyd gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a theuluoedd ledled Cymru – drwy arolwg ar-lein, cyfarfod Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Cenedlaethol Rhianta a Chymorth i Deuluoedd ac yng Nghyfarfod Rhwydwaith Grantiau Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, a Phlant a Chymunedau.

Crynodeb Gweithredol

Mae adroddiad eleni yn tynnu ar ddirnadaeth ehangach o bob rhan o wasanaethau rhianta a chymorth i deuluoedd yng Nghymru ac yn tynnu sylw at y galw cynyddol, y cymhlethdod cynyddol a'r pwysau parhaus ar y system. Niwroamrywiaeth (ND) ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw'r prif ffactorau sy'n achosi atgyfeiriadau, wedi'u gyrru gan restrau aros hir, anghenion heb eu diwallu a theuluoedd sy'n rheoli ymddygiad heriol heb gefnogaeth amserol. Mae iechyd meddwl, gwrthod mynd i'r ysgol, trais gan blant tuag at eu rhieni, tlodi, ansicrwydd tai a phwysau costau byw yn gwaethygu straen teuluol ymhellach.

Mae'r sector yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys niferoedd uchel o atgyfeiriadau, prinder gweithlu, cyllid tymor byr a system sy'n cael ei gwthio i flaenoriaethu ymateb i argyfwng dros ymyrraeth gynnar. Mae ymgysylltu’n gynyddol anodd oherwydd stigma, pryder, rhwystrau ymarferol a diffyg hyblygrwydd.

Er gwaethaf hyn, mae gwasanaethau'n ymateb gydag arfer cryf, sy'n cael ei arwain gan werthoedd, gan gynnig dulliau hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n ataliol, gan wella gweithio mewn partneriaeth a datblygu cefnogaeth dros dro i deuluoedd sy'n aros am wasanaethau arbenigol. Mae'r sector yn galw am gyllid cynaliadwy, rhestrau aros llai ar gyfer ND, buddsoddiad yn y gweithlu a chyfeiriad cenedlaethol cliriach i alluogi cefnogaeth gynnar ac effeithiol a chanlyniadau hirdymor gwell i deuluoedd ledled Cymru.

Rhesymau dros gyfeirio

Eleni, y prif ysgogydd unigol o ran galw mewn atgyfeiriadau oedd mewn perthynas â Niwroamrywiaeth (ND) ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn gysylltiedig yn benodol â rhestrau aros hir, teuluoedd yn rheoli ymddygiad wrth aros am asesiad ac ND yn cael ei ddefnyddio fel yr unig esboniad dros yr holl ymddygiadau, sydd weithiau’n rhwystro cymorth rhianta cynnar.

Roedd prif gategorïau eraill atgyfeiriadau yn cynnwys:

• Iechyd Meddwl a phryder ar draws y teulu cyfan, gan gynnwys methu rheoli emosiynau, ymddygiad ymosodol, effaith y cyfryngau cymdeithasol, trawma rhieni, pryder ôl-enedigol, iselder ac ofn ymgysylltu.

• Dim yn mynychu'r ysgol a gwrthod mynd i'r ysgol, yn bennaf oherwydd pryder ac anghenion ND heb eu diwallu yn yr ysgol. Mae gwrthod mynd i'r ysgol yn aml yn cael ei drin fel problem ymddygiad neu gydymffurfio, pan mae'n aml yn digwydd oherwydd angen ehangach sydd heb ei ddiwallu.

• Trais gan blant tuag at eu rhiant – cynnydd o ran amlder, dwyster a chymhlethdod. Ymosodedd wedi'i yrru gan fethu rheoli emosiynau, trawma a nodweddion ND. Rhieni'n teimlo'n anniogel ond yn ofni ymyrraeth statudol.

• Pwysau Tlodi, Tai a Chostau Byw gan gynnwys tai gorlawn neu anaddas, llety dros dro neu ddigartrefedd. Straen ariannol yn lleihau gallu rhieni.

Heriau allweddol sy'n wynebu'r sector

Mae nifer fawr o atgyfeiriadau yn parhau, a disgwyliadau uchel ar staff i ddarparu cefnogaeth lefel uchel, gan leihau'r argaeledd a'r ffocws ar ymyrraeth gynnar ac atal.

Mae angen teilwra a chymysgu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd fwyfwy i ddiwallu'r amrywiaeth gynyddol o anghenion. Nid yw rhaglenni/cyrsiau rhianta cyffredinol yn ddigon personol ac nid y rhain yw'r opsiwn gorau bob amser. Gall adeiladu cydberthynasau ac ymddiriedaeth gyda theuluoedd gymryd amser, ac mae dull wedi'i deilwra'n hanfodol, ond mae'n arwain at gynnydd mewn amser ac ymrwymiad gan staff.

Mae'r sector yn profi heriau sylweddol o ran capasiti, gan gynnwys prinder gweithlu, contractau dros dro a phrosesau recriwtio araf. Mewn llawer o ardaloedd, disgwylir i un tîm gyflawni'r holl ymyriadau, gan gyfyngu ar hyblygrwydd ac ymatebolrwydd. Mae pwysau cyllidebol hefyd yn golygu bod cyllid yn aml yn cael ei ddargyfeirio i ymateb i argyfwng, gan dynnu oddi wrth y dull ymyrraeth gynnar.

Eleni, amlygwyd bod ymgysylltu yn her fawr. Mae llawer o rieni yn amharod i fynychu grwpiau rhianta oherwydd pryder, ofn cael eu barnu neu stigma. Maent yn credu “nad oes dim byd yn gweithio” neu mae eu hyder yn eu gallu i weithredu ar gyngor yn isel. Yn aml, mae teuluoedd sy'n gweithio yn ei chael hi'n anodd mynychu cymorth a ddarperir yn ystod oriau safonol, ac mae diffyg gofal plant yn cyfyngu ymhellach ar ymgysylltiad.

Mae galw cynyddol gan deuluoedd ag anghenion ND ac ADY, o safbwynt plant a rhieni ill dau. Mae’r heriau'n cynnwys rhieni'n gwneud hunan-ddiagnosis ND a/neu'n priodoli pob ymddygiad i ND. Anghenion niwroamrywiol rhieni eu hunain yn effeithio ar y gallu i ymgysylltu â chefnogaeth. Rhestrau aros hir ar gyfer ND a rhaglenni arbenigol yn gyfyngedig. Disgwyliadau afrealistig o “atebion cyflym” i ymddygiad heriol. Dywedodd ymarferwyr bod anhawster wrth helpu teuluoedd i ddeall anghenion sylfaenol yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad yn unig.

Mae ysgolion yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau rhianta a chymorth i deuluoedd awdurdodau lleol a thimau ymyrraeth gynnar, yn aml oherwydd cyllid ysgolion a chymorth cynhwysiant cyfyngedig. Nid yw ysgolion wedi'u harfogi i weithio gyda theuluoedd gartref neu y tu allan i leoliadau grŵp ac mae ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r gefnogaeth sydd ar gael a diffyg gweithio cydgysylltiedig a chyfrifoldeb a rennir. Gall hyn arwain at broblemau'n cael eu "pasio ymlaen" yn hytrach na'u datrys ar y cyd.

Mae'r sector yn teimlo wedi’i orlethu ac fel pe bai yn y modd ‘diffodd tân' yn gyson ond mae'n angerddol am gwrdd â theuluoedd a'u cefnogi yn lle maen nhw.

Ymateb y sector i'r materion

Mae'r sector yn ymateb gydag arfer cryf, sy'n cael ei arwain gan werthoedd. Maent yn gweithio'n galed i ymateb i anghenion teuluoedd ym mhob ardal leol. Maent yn datblygu arfer cydgysylltiedig, ataliol, hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y teulu, gan ganolbwyntio ar rymuso, meithrin cydberthynasau a bod yn greadigol, gan ddileu rhwystrau i ymgysylltu a lleihau darnio gwasanaethau.

“Addasu’r gwasanaeth i ganolbwyntio’n wirioneddol ar y 1000 diwrnod cyntaf, gan edrych ar ffyrdd creadigol o ymgysylltu â theuluoedd anodd eu cyrraedd mor gynnar â phosibl.”

Mae hyn yn cynnwys cynnig darpariaeth hyblyg, fel sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau byr i leihau dibyniaeth ar gefnogaeth 1:1. Cynnig amseroedd hyblyg (gyda'r nos/ar-lein), allgymorth mewn ysgolion a chartrefi, ac ymgysylltu anffurfiol. Creu gweithdai untro ar gyfer niferoedd mwy a rhaglenni byrrach a mwy hygyrch.

I gefnogi ymgysylltiad, mae ymgynghori'n digwydd gyda theuluoedd ac mae cymorth yn cael ei becynnu'n wahanol, nid dim ond yn cael ei labelu fel 'rhianta'. Mae'r hyrwyddo'n cael ei adolygu a'i gynyddu i sicrhau bod rhieni'n gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael.

“Wrth drefnu ymweliadau cartref, gwnewch nhw mor addas a chyraeddadwy â phosibl er mwyn i’r rhieni gymryd rhan yn yr ymyrraeth.”

Mae'r sector yn darparu mwy o adnoddau cyffredinol a hygyrch trwy Padlets, adnoddau gweledol a fideos. Mae'r rhain yn gweithredu fel cefnogaeth ac arweiniad ymyrraeth gynnar i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth mewn modd amserol ac yn unol â'r angen gofynnol.

“Creu Padlets i geisio cynnig cyngor/cymorth mewn sesiwn gymorth gynharach.”

Mae cyrsiau neu weithdai penodol yn cael eu datblygu neu eu cyrchu i ddiwallu anghenion y nifer fawr o deuluoedd ar restrau aros ND. Mae staff yn cael eu huwchsgilio mewn adnabod a chefnogi cynnar i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at lefel o gefnogaeth wrth aros am wasanaethau arbenigol.

“Wrth gyflwyno rhaglenni rhianta, rydym yn cyfyngu ar nifer y mynychwyr ac yn cynnig seibiannau symud ynghyd â theganau ffidlan i dynnu sylw.”

“Map trywydd rhianta diwygiedig i gynnwys ymateb graddol i Niwroamrywiaeth – cyfeirio at adnoddau presennol, gweithdai ADHD rhyngweithiol, rhaglenni rhianta penodol ar gyfer ND”

“Gweithio gydag amrywiaeth o drefniadau amlasiantaethol i ddatblygu rhaglenni pwrpasol ar gyfer rhieni sy'n pryderu am ddatblygiad eu plentyn neu os ydyn nhw ar y llwybr ND.”

Mae'r sector yn sbarduno dull teulu/system gyfan yn rhagweithiol, gan ddod â thimau amlddisgyblaethol ynghyd, datblygu neu adeiladu ar fodelau systematig i flaenoriaethu, cydlynu cefnogaeth, cynllunio ar y cyd, cynnal ymweliadau ar y cyd a lleihau dyblygu. Sicrhau un gweithiwr cyson pan fo modd, i gefnogi perthynas ac ymddiriedaeth.

“Cyflenwi cydweithredol ar draws sawl tîm gan gynnwys iechyd lle mae ymweliadau ar y cyd yn briodol. Datblygu rhaglenni cymorth cynenedigol i sicrhau’r ymgysylltiad a’r ymyrraeth gynharaf er mwyn atal pryderon teuluol rhag gwaethygu.”

Mae ffocws cryf ar rymuso rhieni a meithrin gwydnwch. Dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi rhieni i ganfod eu hatebion eu hunain a magu hyder. Normaleiddio cyfathrebu, modelu dulliau sy'n seiliedig ar ymlyniad a rhannu heriau’n gamau llai y gellir ymdopi â nhw. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ac ymatebion dan arweiniad y gymuned yn cael eu cydnabod fwyfwy fel rhan werthfawr o'r gefnogaeth ehangach ac mae'r sector yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar y rhain a'u defnyddio.

“Llawer o waith ar lesiant emosiynol rhieni ac adeiladu ymddiriedaeth CYN gallu gweithio gyda theuluoedd mewn unrhyw ffordd arall.”

“Rydym yn rhoi cynnig ar ddull newydd gan ddefnyddio mynd a dod ar gyfer lleferydd ac iaith, lle mae'r rhieni'n cael eu ffilmio, a'u canmol am yr hyn sydd wedi mynd yn dda, a gadael iddyn nhw ddewis beth i weithio mwy arno, i'w grymuso yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud.”

Mae'r sector yn parhau i gefnogi ei gilydd drwy rannu arferion da ac adnoddau.

Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud

Eleni, gofynnom i'r sector ddweud wrthym beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi neu beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Roedd y negeseuon cryfaf a mwyaf cyson yn cynnwys:

• Darparu cyllid cynaliadwy a hirdymor

• Buddsoddi mewn capasiti a hyfforddiant y gweithlu

• Blaenoriaethu ymyrraeth gynnar dros argyfwng

• Lleihau rhestrau aros ND ac Iechyd Meddwl ar gyfer cymorth arbenigol

• Cryfhau systemau cydgysylltiedig

Mae'r sector eisiau cyfeiriad cenedlaethol clir a chyson sy'n caniatáu i wasanaethau ganolbwyntio ar gyflawni a chanlyniadau hirdymor i deuluoedd, nid atebion tymor byr na 'phasio' teuluoedd rhwng gwasanaethau.

Ffocws cryfach ar ymyrraeth gynnar ac atal, er mwyn caniatáu i adnoddau a chefnogaeth gael eu dosbarthu'n gyfartal ar draws pob cam o rianta. Cymru sy'n cael cymorth yn gynnar, nid yn hwyr.

Mae brys cynyddol i fynd i'r afael â rhestrau aros ND. Mae oedi wrth gael diagnosis yn rhoi pwysau anghynaladwy ar deuluoedd, ysgolion a gwasanaethau. Mae'r sector yn cydnabod ac yn ymateb i'r angen am wasanaethau 'yn y bwlch' ond mae angen rhagor o gefnogaeth, hyfforddiant a buddsoddiad i'w darparu.

Maen nhw eisiau cael gwared ar rwystrau i deuluoedd, sy'n cynnwys mynd i'r afael â chostau gofal plant, trafnidiaeth, ansicrwydd tai a phrosesau cymhleth ar gyfer ceisiadau am grantiau. Maent yn cydnabod yr angen am dai mwy fforddiadwy, mannau cymunedol hygyrch o fewn pellter cerdded, ac amserlenni hyblyg, hirach i weithio'n ystyrlon gyda theuluoedd.

Yn olaf, pwysleisiodd llawer bwysigrwydd gwrando ar ymarferwyr lleol a rheng flaen a chydweddu rhaglenni cenedlaethol â darpariaeth yn y byd go iawn, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio trwy dystiolaeth, a chynnal penderfyniadau ac ymrwymiadau polisi ac ymarfer realistig, wedi'u cynllunio'n dda.

Casgliad

Mae'r sector rhianta a chymorth i deuluoedd yng Nghymru yn fedrus, yn ymroddedig ac yn arloesol, ond yn gweithredu mewn system sy'n ymateb yn rhy hwyr ac yn gofyn i deuluoedd ymdopi am gyfnod rhy hir.

Mae angen cyllid hirdymor, sefydlog arno sy'n caniatáu ymyrraeth gynnar, sefydlogrwydd y gweithlu ac integreiddio gwirioneddol ar systemau.

Mae'r adroddiad hwn yn creu darlun clir a chymhellol: mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu heriau sy’n gynyddol gymhleth a chydberthnasol, ac mae'r systemau a gynlluniwyd i'w cefnogi dan straen cynyddol. Mae ND, iechyd meddwl, tlodi, ansicrwydd tai a phryder sy'n gysylltiedig ag ysgolion oll yn gwrthdaro mewn ffyrdd na ellir eu datrys trwy ymatebion tymor byr ac anghysylltiedig. Mae'r sector yn ymateb gyda thrugaredd, creadigrwydd ac arfer perthynol cryf, ond mae'n cael ei gyfyngu fwyfwy gan gyllid tymor byr, pwysau ar y gweithlu, oedi ar lwybrau arbenigol a systemau sy'n gwthio gwasanaethau i ymateb i argyfwng yn hytrach na chynnig cymorth yn gynnar.

Mae'r sector yn barod ac yn fodlon a chyda'r gefnogaeth gywir, gall barhau i adeiladu system ataliol, gynhwysol a gwydn sy'n rhoi'r dechrau gorau posibl i deuluoedd yng Nghymru.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cyflwr y Sector Cymorth i Deuluoedd a Rhianta yng Nghymru 2026 by childreninwales - Issuu