Skip to main content

Cylchlythyr ‘Newyddion Oddi Wrth’ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Mawrth 2024

Page 1

Eich diweddaru’n rheolaidd gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd Yr Hydref i’r Gaeaf 2023/24

Newyddion Oddi Wrth Rhagymadrodd Croeso cynnes iawn i rifyn cyntaf Newyddion Oddi Wrth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2024. Bydd hwn yn gylchlythyr bob deufis, yn rhannu newyddion, diweddariadau a digwyddiadau o bob cwr o’r Rhanbarth â chydweithwyr ledled ein 10 Cyngor. Mae yna lawer i adrodd amdano, yn dechrau gyda diweddariadau am statws Cyd-bwyllgor Corfforaethol sydd ar fin ymddangos gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, a eglurir isod. Gyda’r statws newydd hwn, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Rhanbarth, gan wella ansawdd bywyd i’r bobl sy’n byw yma. Golyga cyfrifoldebau newydd am drafnidiaeth a thai y byddwn yn gallu cynllunio ar gyfer dyfodol y Rhanbarth; er enghraifft, ystyried lle mae ar bobl angen cartrefi a gwell cysylltiadau trafnidiaeth. Parhawn wedi’n hymrwymo i weithio gyda’n partneriaid yn y Cyngor, a chyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, i gyflawni’n cynlluniau strategol.

Y Cynghorydd Anthony Hunt Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol PrifddinasRanbarth Caerdydd

Gan weithio gyda chi, fy nghydweithwyr yng Nghabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n cydweithwyr yn y Cyngor, edrychaf ymlaen at wireddu’r cyfle hwn i ddod â ffyniant cyffredin i breswylwyr ein Rhanbarth. Rwyf yn falch o fod yn rhan o’r stori esblygol hon, yn helpu’n Rhanbarth i gyrraedd ei botensial fel lle unigryw a boddhaus i fyw, i weithio ac i’w fwynhau. Un nodyn olaf: rhannwch y rhifyn hwn ymhell ac agos, os gwelwch yn dda, fel bod ein holl aelodau’n deall y gwaith y mae PrifddinasRanbarth Caerdydd yn ei wneud i ddod â budd i’n preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau. Dymuniadau mwyaf twymgalon,

Cardiff Capital Region Newsletter

Autumn to Winter 2023/24


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cylchlythyr ‘Newyddion Oddi Wrth’ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Mawrth 2024 by Cardiff Capital Region - Issuu