Skip to main content

Princess of Wales Hospital Paediatric book (Welsh)

Page 1


Llyfryn Galar Pediatrig Donna Morgan

Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hoffem estyn ein cydymdeimlad diffuant i chi ar farwolaeth eich plentyn.

Mae hwn yn gyfnod ofnadwy i’r teulu cyfan, wrth gwrs, felly mae’n bwysig cymryd amser i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd. Yn y dyfodol agos bydd gofyn i chi gael sgyrsiau anodd, pan all popeth ymddangos yn ddryslyd iawn. Nod y llyfryn hwn yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi, i’ch helpu i wneud y dewisiadau cywir i chi a’ch teulu pan fydd yn rhaid gwneud y penderfyniadau hyn.

Bydd y llyfryn hwn yn ymdrin â marwolaethau annisgwyl a disgwyliedig yn yr ysbyty neu’r gymuned.

Gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Gwybodaeth am staff yr ysbyty

Rheolwr y ward heddiw yw:

Nyrs eich plentyn heddiw oedd:

Meddyg ymgynghorol eich plentyn yw:

Gellir cysylltu â’u hysgrifennydd ar:

Gwybodaeth am y tîm Lliniarol Cymunedol (os yn berthnasol)

Eich nyrs Gofal Lliniarol gymunedol yw:

Gellir cysylltu â nhw ar:

Meddyg ymgynghorol eich plentyn yw:

Gellir cysylltu â’u hysgrifennydd ar:

Beth sy’n digwydd yn syth ar ôl marwolaeth sydyn fy mhlentyn yn yr

Os y dymunwch hynny, gallwch ofyn i’ch plentyn gael bendith neu weddïau. Gall Caplan yr ysbyty wneud hyn neu wrth gwrs gallwch hefyd gysylltu ag arweinydd ffydd o’ch dewis chi. Mae Caplan ysbyty ar gael 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn a gellir cysylltu â nhw am gefnogaeth ysbrydol a chrefyddol ar gyfer pobl o bob ffydd neu ddim ffydd o gwbl. Siaradwch â’r nyrs sy’n gofalu amdanoch chi am ragor o wybodaeth.

Mae creu atgofion yn rhywbeth y gallwn ei gynnig gyda blwch atgofion a ddarperir gan yr elusen 2wish. Gallwn ni helpu i gasglu olion dwylo a chudynnau o wallt os hoffech chi hynny, a’ch cefnogi i dreulio amser gyda’ch plentyn, gan ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os ydych yn teimlo nad ydych chi’n barod i wneud hyn, gallwn ni helpu i hwyluso’r broses o greu atgofion ar ôl i chi fynd adref. Fel arall, gall eich trefnwyr angladdau drefnu hyn hefyd unwaith y bydd eich plentyn yn eu gofal.

Gall gadael yr ysbyty deimlo fel tasg mor frawychus. P’un ai yw’r farwolaeth yn ddisgwyliedig neu’n annisgwyl, mae’n bwysig eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi bob amser drwy gydol y prosesau a fydd yn dilyn.

A yw’n bosibl gweld fy mhlentyn yn y ysbyty?

Os oedd y farwolaeth yn sydyn, byddai angen i ni gael caniatâd gan y Crwner i awdurdodi ymweliad. Mae hyn am mai’r Crwner yw’r person fydd yn ymchwilio i achos y farwolaeth.

Tra byddwn yn siarad â swyddfa’r Crwner i gael y caniatâd perthnasol, efallai y bydd ychydig o oedi wrth i ni aros am ateb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn, ond byddwch yn cael gwybodaeth drwy gydol y broses hyd nes y gellir cytuno ar apwyntiad.

Os hoffech wneud apwyntiad, gallwch ffonio ein swyddogion profedigaeth rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar y rhifau canlynol i drefnu hyn:

Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Ffôn: 01443 443249

Ysbyty’r Tywysog Siarl - Ffôn: 01685 728625

Ysbyty Tywysoges Cymru - Ffôn: 01656 754088

Fel arall, os nad ydych chi’n teimlo y gallwch ffonio i drefnu ymweliad, gallwch anfon e-bost at ctm.bereavementsupport@ wales.nhs.uk a byddwn yn cysylltu â’r bobl berthnasol er mwyn i chi drefnu apwyntiad.

Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn

Plentyndod

- PRUDiC

Ystyr PRUDiC yw Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth

Annisgwyl mewn Plentyndod, a dyma’r broses sy’n disgrifio sut mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol yng Nghymru ymateb i farwolaeth annisgwyl plentyn. Mae’r broses hon ar waith i sicrhau bod y gefnogaeth a ddarperir yn ddiogel, yn gyson ac yn sensitif i anghenion unrhyw deulu sydd mewn galar.

Mae pob marwolaeth annisgwyl yn cael ei hadrodd i’r Crwner ym mhob achos. Byddan nhw’n penderfynu a oes angen archwiliad post mortem, a byddan nhw naill ai’n agor cwest neu ymchwiliad.

Mae cyfres o gyfarfodydd PRUDiC sy’n cael eu mynychu gan y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac ati sy’n rhannu cymaint o wybodaeth â phosibl am eich plentyn, amgylchiadau eu marwolaeth, pam y gallai fod wedi digwydd ac unrhyw ddysgu sy’n deillio o’r wybodaeth a gasglwyd, a allai helpu i atal marwolaethau pellach. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu â Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Cymru.

Bydd gweithiwr hanfodol wedi cael eu pennu i’ch teulu yn ystod y cyfarfod cyntaf, a gynhelir fel arfer o fewn 5 diwrnod i’r farwolaeth. Bydd y rhain wedi cael eu dewis i fod yn bwynt cyswllt i chi ar gyfer unrhyw gwestiynau am y broses, ac i gefnogi eich teulu yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddan nhw mewn cysylltiad â chi i gyflwyno eu hunain a rhoi eu manylion i chi.

Ni all teuluoedd fynychu’r cyfarfodydd, fodd bynnag, bydd eich gweithiwr hanfodol yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi o gyfarfodydd PRUDiC ac yn helpu eich cyfeirio at wasanaethau cymorth galar.

Rôl yr Heddlu yn dilyn marwolaeth sydyn eich plentyn

Mae’r broses Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaeth Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC) yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob marwolaeth annisgwyl ymhlith plant gael ei hadolygu’n ofalus er mwyn dysgu cymaint â phosibl, atal marwolaethau yn y dyfodol, a chefnogi teuluoedd.

Mae proses PRUDiC yn cael ei harwain gan yr Heddlu ac mae’n helpu i gydlynu cefnogaeth i deuluoedd mewn galar. Byddant yn gweithio gyda’r timau nyrsio i’ch cefnogi chi, a’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn eang gan yr hyn sydd wedi digwydd.

A yw hi’n arferol i’r heddlu fod yn rhan o’r broses yn dilyn marwolaeth sydyn plentyn?

Mae’r Heddlu’n gweithio ar ran y Crwner ac mae eu cyfraniad yn sicrhau ymateb diogel, cyson a sensitif i bawb sy’n gysylltiedig. Mae hon yn broses arferol ar gyfer pob achos lle mae marwolaeth sydyn neu annisgwyl yn digwydd.

Drwy gydol y broses hon, mae’r Heddlu yn bresennol er mwyn gallu cefnogi teuluoedd, gan gynnig cyfathrebu clir a thosturi yn ystod cyfnod mor anodd.

Trwy weithio gyda gweithwyr meddygol proffesiynol a threfnu archwiliadau post mortem, mae’r Heddlu’n darparu adroddiadau manwl yn ôl i’r Crwner er mwyn helpu i ganfod achos marwolaeth.

Pan fo’n bosibl, bydd yr heddlu’n ceisio defnyddio swyddogion heb lifrai i leihau’r gofid i’r teulu. Maen nhw hefyd yn ystyried dymuniadau’r teulu ac yn cydbwyso’r rhain ag anghenion yr ymchwiliad, gan sicrhau dull tosturiol a thrylwyr. Gall teuluoedd ddisgwyl cael eu diweddaru drwy gydol y broses, a byddant yn cael enw a manylion cyswllt y Swyddog â Chyfrifoldeb (OIC) o’r cychwyn cyntaf.

Rôl y Crwner

Byddai angen atgyfeirio unrhyw farwolaeth annisgwyl at y Crwner i’w hymchwilio. Y Crwner yw’r person sy’n gweithio gyda chi, i geisio dod o hyd i’r canlyniadau cywir i chi fel teulu, er mwyn gallu deall a derbyn achos marwolaeth arfaethedig.

Mae’r Crwner yn sensitif i’r ffaith y gall y penderfyniad i gynnal post mortem achosi gofid i deuluoedd. Fodd bynnag, mae’n benderfyniad barnwrol er mwyn ceisio darganfod beth sydd wedi digwydd, ac nid yw teuluoedd yn gallu gwrthwynebu iddo ddigwydd. Cyn cynnal Post Mortem, bydd y Crwner yn siarad â’r teulu ac yn ystyried unrhyw wybodaeth a roddir iddynt, cyn gwneud penderfyniad i fwrw ymlaen.

Os gaiff marwolaeth eich plentyn ei chyfeirio at y Crwner, bydd Swyddog Crwner penodol yn cael eu pennu i’ch teulu. Unwaith y byddant wedi cael gwybod am farwolaeth eich plentyn, byddant yn eich ffonio o fewn 48 awr ac yn rhoi un pwynt cyswllt i chi.

Bydd y person hwn yn eich tywys drwy broses y crwner a bydd yno i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Hoffem eich sicrhau y bydd pawb sy’n ymwneud â gofalu am eich plentyn yn ystod y cyfnod hwn mor sensitif, parchus a thyner â phosibl, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y cyfnod.

Gall hyn ymddangos fel llawer o wybodaeth i’w phrosesu ar adeg mor anodd, ac efallai y bydd cwestiynau’n dod i’ch meddwl ar wahanol adegau o’r dydd. Mae adran nodiadau yng nghefn y llyfryn hwn i chi roi unrhyw wybodaeth berthnasol neu gofnodi unrhyw gwestiynau wrth i chi feddwl amdanynt.

Drwy eu rhoi ar bapur, pan fyddwch chi’n siarad â Swyddog y Crwner neu unrhyw un sy’n rhan o’r broses hon, byddwch chi’n gwybod ble i ddod o hyd iddyn nhw.

Os yw’n ddefnyddiol, gallwch hefyd nodi manylion Swyddog y Crwner isod, pan fyddwch yn eu derbyn:

Enw Swyddog y Crwner:

Rhif cyswllt:

Mae modd cysylltu â Swyddfa’r Crwner rhwng 8am a 4pm ar 01443 281100 neu drwy e-bost yn

Coroneradmin@rctcbc.gov.uk

Beth sy’n digwydd nesaf pan mae marwolaeth yn ddisgwyliedig?

Mae ‘marwolaeth ddisgwyliedig’ mewn cyd-destun meddygol yn cyfeirio at farwolaeth a ragwelir oherwydd salwch neu gyflwr datblygedig neu anwelladwy plentyn. Yn drist iawn, mae hyn yn golygu fod y farwolaeth hon yn cael ei rhagweld ac wedi cael ei thrafod ymlaen llaw gyda’r teulu a thimau clinigol, yn hytrach na’i bod yn sydyn neu’n annisgwyl a heb ei thrafod fel posibilrwydd.

Os oedd gan eich plentyn salwch neu gyflwr nad oedd modd ei wella, efallai eich bod wedi trafod llwybr gofal priodol gyda’ch tîm gofal, ynglŷn â’r hyn fyddai’n bwysig i chi fel teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd staff arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol lleol yn gweithio ochr yn ochr ag eraill, fel staff hosbis neu staff ysbyty i helpu eich cefnogi chi a’ch teulu pan fydd eu hangen arnoch.

Os oedd gan eich plentyn gyflwr neu salwch nad oedd modd ei wella, ond nad oedd disgwyl iddynt farw pan wnaethon nhw neu yn y modd y gwnaethon nhw, gall y meddyg benderfynu y dylid trin y farwolaeth fel un annisgwyl a byddai angen ei hatgyfeirio at y Crwner a bydd swyddog y Crwner yn cysylltu â chi.

Bydd gwybodaeth ynghylch marwolaeth eich plentyn yn cael ei rhannu gyda’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (CDRP). Maent yn adolygu holl farwolaethau plant yng Nghymru i weld a oes unrhyw ffactorau cyffredin y gellid edrych arnynt er mwyn atal achosion yn y dyfodol, neu wersi a ddysgwyd o arfer da a rhannu gwelliannau ar draws byrddau iechyd.

Os hoffech chi i wybodaeth eich plentyn gael ei dileu o gofnodion rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, cysylltwch â ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk a bydd eich cais yn cael ei anfon ymlaen at yr adran berthnasol.

Cadw eich plentyn gartref

Pan fo disgwyl y farwolaeth a bod eich plentyn yn marw gartref, rydym yn deall y gallech fod eisiau eu cadw gyda chi am beth amser cyn iddynt gael eu cludo at y trefnwyr angladdau o’ch dewis chi. Bydd eich Tîm gofal lliniarol yn gweithio gyda chi i gyflawni eich cynllun gofal lle bo modd, a byddant yn trafod yr opsiynau sydd ar gael a’r offer y gellir ei ddarparu.

Trosglwyddo eich plentyn i ofal hosbis

Pan fydd gan eich plentyn gyflwr sy’n cyfyngu ar eu bywyd, efallai y byddwch wedi nodi yn eu cynllun gofal eich bod yn dymuno, lle bo modd, iddynt gael eu trosglwyddo i ofal hosbis ar ddiwedd eu hoes. Os yw eich plentyn wedi marw ac nad ydynt wedi gallu cael eu trosglwyddo cyn iddynt farw, cysylltwch â’ch tîm gofal lliniarol a fydd yn gallu trafod yr opsiynau sydd ar gael i chi nawr.

Casglu offer a nodiadau cleifion

Os oedd eich plentyn yn defnyddio offer arbenigol gartref ac yr hoffech drefnu casglu’r eitemau hyn, cysylltwch â’ch tîm nyrsio plant cymunedol i ddewis dyddiad ac amser sy’n addas i chi.

Os yw nodiadau nyrsio eich plentyn yn dal i fod gartref, peidiwch â’u taflu. Os nad yw tîm nyrsio plant y gymuned eisoes wedi’u casglu, rhowch wybod iddyn nhw pan fyddan nhw’n cysylltu â chi, eu bod nhw gennych chi o hyd. Yna byddant yn trefnu i’w casglu a’u ffeilio yn adran cofnodion meddygol yr ysbyty yn unol â pholisi ein hysbyty.

Rydym yn sylweddoli y gall cael yr eitemau hyn yn eich cartref achosi gofid weithiau, felly byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w casglu’n gyflym ac yn sensitif.

Rôl yr Archwilydd Meddygol

Daeth gwasanaeth yr Archwilydd Meddygol yn orfodol ledled Cymru ar 9 Medi 2024, yn dilyn Diwygiadau ehangach ynghylch Ardystio Marwolaeth a gyflwynwyd ledled Cymru a Lloegr, a rhaid i’r Gwasanaeth Archwiliwr Meddygol graffu ar bob marwolaeth nad yw Crwner yn ymchwilio iddi.

Efallai y bydd achlysuron lle bydd y Crwner a’r Archwilydd Meddygol yn cydweithio â theulu. Enghraifft o hyn fyddai lle mae gan blentyn gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ond nad yw wedi marw o’r cyflwr hwnnw. Yna bydd angen i’r Crwner adolygu’r achos wrth i’r farwolaeth ddod yn un annisgwyl. Os felly, bydd y tîm meddygol yn rhoi gwybod i chi a bydd y ddau sefydliad yn rhoi mewnbwn i chi.

Mae’r Archwilydd Meddygol yn rhoi cyfle i deuluoedd sydd mewn galar ofyn cwestiynau, ceisio eglurhad neu godi pryderon ynghylch y gofal a gafodd eu hanwylyd.

Mae Archwilwyr Meddygol yn uwch feddygon, sy’n annibynnol ar yr ysbyty. Byddant yn adolygu’r gofal a roddwyd i’ch plentyn ac yn helpu i nodi unrhyw sefyllfaoedd lle mae potensial i ddysgu oddi wrthynt.

Gan fod y Gwasanaeth Archwilydd Meddygol yn rhoi adolygiad meddygol annibynnol o ofal, mae rhan o’r broses hon yn gwerthfawrogi eich meddyliau, eich sylwadau neu’ch pryderon.

Unwaith y byddant yn derbyn atgyfeiriad ar gyfer eich plentyn byddant yn eich ffonio o fewn 24-72 awr ac efallai na fydd posibl gweld y rhif hwn. Byddant yn cyflwyno eu hunain, yn egluro’r broses ac yn gwrando ar unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â gofal eich plentyn.

Byddant yn trafod achos marwolaeth arfaethedig eich plentyn ac yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch y wybodaeth hon. Yna byddwch yn cael manylion ynghylch pwy y byddai angen i chi siarad â nhw pe bai gennych gwestiynau pellach neu os hoffech gael diweddariadau pellach.

Mae tîm yr Archwilydd Meddygol yn deall y gallai’r trafodaethau hyn fod yn rhy anodd i chi ar hyn o bryd ac maen nhw’n sensitif iawn i’ch anghenion chi a’ch teulu. Os hoffech chi i rywun arall fod y cyswllt cyntaf ar gyfer y trafodaethau hyn, gallwch roi’r manylion iddyn nhw pan fyddan nhw’n eich ffonio chi neu rhowch wybod i staff y swyddfa galar yn yr ysbyty agosaf atoch chi.

A fydd hyn yn gohirio trefniadau angladd?

Gallwch barhau i drefnu apwyntiadau gyda threfnwyr

angladdau yn ystod y cyfnod hwn i wneud trefniadau, fodd bynnag, ni fyddan nhw’n gallu cwblhau unrhyw fanylion nes iddyn nhw dderbyn y dystysgrif marwolaeth.

Bydd y Gwasanaeth Archwilydd Meddygol yn rhoi gwybod i chi pan fydd y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth yn cael ei hanfon i’r Swyddfa Gofrestru. O’r dyddiad hwn ymlaen bydd gennych 5 diwrnod i gofrestru’r farwolaeth a bydd y cofrestryddion mor gefnogol a sensitif ag y gallan nhw fod er mwyn hwyluso hyn gyda chi.

Cofrestru marwolaeth eich plentyn

Os oedd marwolaeth eich plentyn yn sydyn ac yn cael ei hystyried gan y Crwner, gall benderfynu agor ymchwiliad neu gwest a chyhoeddi tystysgrif marwolaeth dros dro. Os felly, ni fydd angen i chi fynd i’r Swyddfa Gofrestru gan y bydd swyddfa’r Crwner yn anfon y dystysgrif atoch chi. Bydd hyn yn caniatáu i chi gynllunio’r angladd ac i’ch plentyn gael ei gasglu gan y trefnydd angladdau. Unwaith y bydd yr ymchwiliad neu’r cwest wedi’i gwblhau, bydd tystysgrif marwolaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi.

Os yw achos y farwolaeth wedi’i nodi o gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ac mae’r Archwilydd Meddygol yn ei ystyried, byddant yn eich hysbysu ar ôl iddynt gyhoeddi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD). Ar y cam hwn bydd y Swyddfa Gofrestru yn derbyn y ddogfennaeth a bydd y tîm yno yn eich ffonio i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.

Bydd Swyddogion yr Archwilydd Meddygol wedi rhoi eich manylion cyswllt i’r Swyddfa Gofrestru, does dim rhaid i chi wneud dim.

Bydd staff y Swyddfa Gofrestru yn gefnogol iawn pan fyddwch yn siarad â nhw a bydd ganddyn nhw empathi mawr â’ch sefyllfa. Maen nhw’n deall y gallai fod yn anodd i chi ddod i’r apwyntiad hwn, a byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud y broses mor gyflym a syml â phosibl.

Byddan nhw’n trafod amser addas gyda chi, ac yn aml byddan nhw’n ceisio trefnu apwyntiad lle nad oes rhaid i chi aros gyda phobl eraill yn yr un ystafell, gan roi preifatrwydd a lle i chi.

Mae eich lles yn flaenoriaeth a byddan nhw’n cymryd amser ac amynedd i wneud yn siŵr bod popeth wedi’i ddeall ac wedi’i egluro i chi cyn i chi gyrraedd ac yna eto cyn i chi adael.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch mynychu, trafodwch gyda nhw pan fyddan nhw’n eich ffonio.

Sut ydw i’n trefnu angladd fy mhlentyn?

Bydd y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau yng Nghymru yn darparu angladd sylfaenol i blant hyd at 18 oed yn rhad ac am ddim. Ni fydd hyn yn cynnwys eitemau ychwanegol fel blodau, eirch wedi’u personoli na cheir ychwanegol ond bydd yn rhoi angladd urddasol a pharchus i chi a chyfle i ffarwelio â’ch plentyn mewn modd ystyrlon, heb y baich y gellir ei deimlo weithiau yn sgil pwysau ariannol.

Mae’n syniad da meddwl am ba drefnydd angladdau yr hoffech chi ei ddewis. Efallai bod gennych chi rywun mewn golwg eisoes, am fod gan lawer o deuluoedd drefnydd angladdau lleol y maen nhw neu eu teulu wedi eu defnyddio o’r blaen ac y maen nhw’n ymddiried ynddynt.

Os nad ydych erioed wedi siarad â threfnydd angladdau o’r blaen, neu os nad oes gennych unrhyw syniad ble i ddechrau, peidiwch â phoeni. Efallai y bydd hyn yn teimlo’n llethol iawn ond gallwch fod yn dawel eich meddwl nad ydych chi ar eich pen eich hun. Gallwch gysylltu â’r tîm galar drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol: ctm.bereavementsupport@wales.nhs. uk a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl ac yn eich cynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau a allai fod gennych, gan roi arweiniad a chefnogaeth i chi drwy gydol eich proses gwneud penderfyniadau.

Mae’n bwysig cofio na fydd eich dewisiadau’n cael eu rhuthro ac ni ddylech deimlo dan bwysau i wneud penderfyniadau.

Mae’n well eich bod chi’n cymryd eich amser ac yn teimlo eich bod chi wedi gwneud y dewis cywir, yn hytrach na dewis opsiwn am eich bod chi’n teimlo y dylech chi.

Gallwch ofyn am wasanaethau ein Caplan ysbyty i hwyluso’r angladd heb unrhyw dâl ychwanegol, os ydyn nhw wedi eich cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn. Os hoffech chi siarad â’n Caplaniaid ynglŷn â hyn, anfonwch e-bost at ctm. bereavementsupport@wales.nhs.uk a bydd ein prif gaplan yn cysylltu â chi. Os hoffech chi ddewis rhywun arall i gynnal yr angladd, gallwch wneud hynny wrth gwrs a gallwch chi drafod hyn gyda’ch trefnydd angladdau dewisol.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i deuluoedd sydd â chredoau crefyddol a diwylliannol?

Mae gan bob ysbyty ystafell aml-ffydd y gallwch ymweld â hi 365 diwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Prif fynedfa, cerddwch heibio’r siop goffi, trowch i’r dde i’r coridor, cerddwch i ben draw’r coridor ac mae’r ystafell amlffydd wedi’i lleoli y tu mewn i’r drysau dwbl olaf ar y dde cyn yr allanfa a’r ystafell gyntaf ar y chwith.

Ysbyty’r Tywysog Siarl - Ewch yn y prif lifft i’r llawr cyntaf, cerddwch i lawr y coridor yn syth o flaen y lifftiau ac mae’r ystafell aml-ffydd ar yr ochr dde.

Ysbyty Tywysoges Cymru - Prif fynedfa, i ben draw’r coridor heibio’r siop goffi a’r ddesg wybodaeth i ymwelwyr, trowch i’r chwith i’r prif goridor ac mae’r capel wedi’i leoli ar y chwith.

Mae ein caplaniaid ar gael ar alwad 24 awr y dydd a gall staff y ward eu ffonio ar gais. Gallant gynnig bendith i’ch plentyn neu eiriau o gysur tra byddwch chi’n dal yn yr ysbyty, neu gellir cysylltu â nhw y tu allan i oriau trwy ein switsfwrdd os ydych chi mewn trallod ysbrydol.

Os ydych chi’n dod i’r ysbyty i weld eich plentyn ac yr hoffech i gaplan fod yn bresennol, gallwch ofyn i staff ein corffdy eu ffonio i’ch cyfarfod.

Lle bo modd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydym yn ymdrechu i gofleidio credoau diwylliannol a chrefyddau ein teuluoedd. Os oes gennych unrhyw ddefodau neu gredoau gofal penodol ar ôl marwolaeth yr hoffech i ni gadw atynt, siaradwch â’r timau nyrsio sy’n ymwneud â gofal eich plentyn, a fydd yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer y rhain i chi a’ch teulu.

Mae wir yn bwysig i ni eich bod chi’n teimlo ein bod ni wedi cydnabod yr hyn sy’n bwysig i chi yn dilyn marwolaeth eich plentyn. Bydd gweithio gyda’n gilydd yn ystod cyfnod mor anodd yn eich helpu i wybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â’ch helpu i gael gwybod am y prosesau a fydd i ddod.

Cymorth sydd ar gael trwy alar a cholled

Tîm Caplaniaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Morgannwg

Ar gyfer agweddau ar ofal crefyddol ac ysbrydol

CTM.bereavementsupport@wales.nhs.uk

Neu drwy switsfyrddau ein hysbyty

01443 443443 Ysbyty Brenhinol Morgannwg RhCT

01656 752752 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr

01685 721721 Ysbyty’r Tywysog Siarl Merthyr Tudful

Arweinydd Clinigol Galar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Morgannwg

Ymholiadau a chefnogaeth yn dilyn marwolaeth eich plentyn

Donna Morgan

CTM.bereavementsupport@wales.nhs.uk

Bydwragedd GalarBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Morgannwg

Am gefnogaeth yn dilyn colli babi

Claire Westcott - 07779 876297

Natalie Abass - 07779 877995

CTM.bereavementsupport@wales.nhs.uk

Swyddogion Profedigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm

Taf Morgannwg

Mae’r Swyddogion Profedigaeth ar gael 9:00am-4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond nid ydynt ar gael ar benwythnosau nac ar Wyliau Banc.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Ffôn: 01443 443249

Ysbyty’r Tywysog Siarl - Ffôn: 01685 728625

Ysbyty Tywysoges Cymru - Ffôn: 01656 754088

Grŵp Cymorth Colli Babi Pili Pala Bwrdd Iechyd Prifysgol

Cwm Taf Morgannwg

Facebook - Grŵp Cymorth Pili Pala CTM

Cymorth wyneb yn wyneb ar gael mewn grwpiau e-bostiwch i ymholi - ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk

Swyddfa’r Crwner - Canol De Cymru

01443 281100

Gwasanaeth Archwilydd Meddygol

02921 500599

Prif rif sydd ar gael: 08:00 – 16:00 dydd Llun i ddydd Gwener

Ymateb o E-bost/cod QR: 08:00 – 17:00 dydd Llun i ddydd Sul

2Wish Cymru

Cefnogi teuluoedd yn ystod marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc o dan 25 oed

www.2wish.org.uk 01443 853125

Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol (NALS)

Cymorth cyfrinachol am ddim i’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan hunanladdiad yng Nghymru 08000 487742 www.NALS.cymru

Child Bereavement UK

Cefnogi Plant sydd wedi colli brawd neu chwaer www.childbereavementuk.org 0800 02 888 40

The Compassionate Friends

www.tcf.org.uk 0345 123 2304

Care for the Family

www.careforthefamily.org.uk

029 2081 0800

Children’s Cancer and Leukaemia Group

www.cclg.org.uk

Young Lives Vs Cancer

www.younglivesvscancer.org

0300 303 5220

Grief Encounter

www.griefencounter.org.uk

0808 802 0111

Winston’s Wish

Cefnogi pobl ifanc trwy farwolaeth brawd neu chwaer

www.winstonswish.org

08088 020 021

Sibling Grief Club

www.siblinggriefclub.com

Child Bereavement UK

Cefnogi pobl ifanc trwy farwolaeth brawd neu chwaer

www.childbereavementuk.org

0800 02 888 40

Student Grief Network

www.studentgriefnetwork.co.uk

Switchboard - Grief Encounters

www.switchboard.org.uk

01273 20 40 50

The Good Grief Trust - Caffi LHDTC www.thegoodgrieftrust.org

Cruse Bereavement Support

www.cruse.org.uk 0808 808 1677

Jewish Bereavement Counselling Service www.jbcs.org.uk 020 8951 3881

Muslim Bereavement Support Service www.mbss.org.uk 020 3468 7333

Sikh Helpline www.sikhhelpline.com/bereavement-losing-someoneimportant/

Llinell gymorth gyfrinachol 24/7 ar 03000 3000 63 or 07999 0043 63

Marie Curie a Diverse Cymru www.mariecurie.org.uk 0800 090 2309

Together for Short Lives

Yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i blant â salwch angheuol a’u teuluoedd. www.togetherforshortlives.org.uk 0808 8088 100

Tŷ Hafan

Hosbis plant yng Nghymru

www.tyhafan.org 029 2053 2200

Lullaby Trust

www.lullabytrust.org.uk/bereavement-support/ Ffoniwch 0808 802 6868 neu anfonwch e-bost support@lullabytrust.org.uk

4louis

Darparu adnoddau a chreu atgofion yn dilyn marwolaeth eich babi www.4louis.co.uk/

Child Death Helpline

Y llinell gymorth marwolaethau plant genedlaethol rad ac am ddim sy’n darparu gwasanaeth rhadffôn o safon i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth plentyn o unrhyw oedran.

www.childdeathhelpline.org.uk

Dydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 i 13:00

Rota o ddydd Llun i ddydd Sul Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim ar 0800 282 986

Eye to Eye Trauma Response Team

sarah.jenkins@eyetoeye.wales neu 07985 631986 emily.evans@eyetoeye.wales neu 07708 472181

Adborth ar Wasanaethau Galar

Fel bwrdd iechyd rydym yn ymdrechu i ddarparu safon uchel o ofal galar.

Credwn, gyda’ch help chi o ran rhannu eich profiad, y gallwn nodi pa agweddau ar ofal sydd bwysicaf a defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein gwasanaethau i eraill.

Pan fyddwch chi’n barod i roi eich adborth gallwch sganio’r cod QR isod a chwblhau’r ffurflen ar-lein sydd ond yn cymryd ychydig funudau.

Neu, gallwch anfon e-bost a rhoi adborth ysgrifenedig i’r cyfeiriad canlynol Ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk. Bydd yr holl adborth a gesglir yn cael ei adolygu a’i weithredu, ynghyd ag unrhyw ganmoliaeth â’r timau perthnasol.

Os gallwn ni wneud unrhyw beth arall i’ch cefnogi, cysylltwch â ni, ac unwaith eto ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, hoffem estyn ein cydymdeimlad diffuant i chi yn ystod yr amser anodd hwn.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook