

Gwybodaeth i’ch helpu yn eich profedigaeth
Llyfryn Cymorth




Ymdopi â’r pethau ymarferol a ddaw yn sgil profedigaeth
Hoffen ddatgan ein cydymdeimlad diffuant â chi a’ch teulu ar yr adeg hon.
Gall marwolaeth anwylyd fod yn drallodus iawn ac mae galaru yn ymateb normal i golled neu farwolaeth. Gall galar effeithio ar bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Yn aml gall y tasgau a’r elfennau ymarferol yn dilyn marwolaeth gymryd drosodd a llethu teuluoedd yn ystod yr wythnosau cyntaf.
Yn ystod yr amseroedd hyn mae’n anodd prosesu eich colled a dechrau galaru, efallai na fydd galar yn digwydd tan ar ôl i’r holl bethau ymarferol gael eu cyflawni.
Fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn paratoi’r holl waith papur angenrheidiol, yn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru, a’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol, neu swyddfa’r Crwner i’ch cynorthwyo i gael y dystysgrif marwolaeth.
Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd eich helpu i gael mynediad at Wasanaethau Profedigaeth Arbenigol a gwasanaethau yn eich cymuned a allai eich helpu yn ystod y cyfnod trallodus hwn.
Yn unol â deddfwriaeth newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol i lenwi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Mae’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn cynnal archwiliad annibynnol o bob marwolaeth. Bydd yn cysylltu â’r meddyg sy’n ymwneud â gofal eich anwylyd i drafod achos y farwolaeth, bydd hefyd yn cysylltu â chi i gael eich safbwyntiau a’ch barn.
Pan fydd marwolaeth yn digwydd mewn ysbyty
Unwaith y cytunir ar achos marwolaeth, anfonir y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth i'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol a fydd – ar ôl trafod yr achos gyda’r teulu agosaf – yn anfon y Dystysgrif ymlaen at y Cofrestrydd i gadarnhau cwblhau eu proses adolygu.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cynnwys y Crwner, a gallai hyn achosi oedi yn y broses hon.
Dyma fanylion cyswllt y Corffdy a Gwasanaethau Profedigaeth:
Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
Ffoniwch y switsfwrdd ar 01267 235151 a gofyn am blîp
161, 10am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Os bu farw eich anwylyd yn Uned Gofal Critigol Ysbyty
Glangwili, cysylltwch â’r adran yn uniongyrchol ar 01267 248691
Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli
Ffoniwch y switsfwrdd ar 01554 756567 a gofyn am blîp
754, 10am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd
Cystylltwch Tîm Profedigaeth 01437 772347/773564
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Gall clercod wardiau eich helpu. Ffoniwch y switsfwrdd ar 01970 623131 a gofyn am y ward perthnasol
Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol
02921 500 499 www.nwssp.nhs.wales/ourservices/medical-examinerservice/
Os yn bosib, sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol yn barod:
• Enw’r trefnydd angladdau yr ydych am ei ddefnyddio, os ydych wedi penderfynu hyn.
Pan fydd marwolaeth yn digwydd yn y gymuned
Os yw eich perthynas wedi marw gartref, mewn cartref gofal neu yn unrhyw un o’r Ysbytai Cymunedol sydd wedi’u lleoli yn rhanbarth Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bydd y Meddyg Teulu neu’r Ymarferydd
Meddygol Cymwysedi yn cytuno ar achos y farwolaeth gyda’r Archwiliwr Meddygol. Unwaith y cytunir ar achos marwolaeth, anfonir y Dystysgrif
Feddygol o Achos Marwolaeth i’r Swyddfa Gofrestru leol. Mae angen hyn ar gyfer cofrestru’r farwolaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, bydd eich Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor penodol i chi.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd o 9 Medi 2024 yn caniatáu i feddyg teulu gwblhau Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth os ydynt wedi gweld y person yn ystod eu bywyd.

Ymweld â’ch Anwylyd
Mae’n well gan y mwyafrif o bobl weld eu hanwyliaid yng Nghapel Gorffwys y Trefnydd Angladdau.
Os dymunwch ymweld â’ch anwylyd yn y Corffdy, cysylltwch â Thîm
Gwasanaeth y Corffdy; byddant yn gallu trefnu eich apwyntiad, gan sicrhau bod gennych amser a chefnogaeth a gallant drafod creu blwch atgofion gyda chi.
Mae’r Gwasanaeth Corffdy ar gael trwy apwyntiad o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Corffdy o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am – 3.30pm.
Ysbyty Bronglais
Rhif ffôn: 01970 623131 trwy’r switsfwrdd a gofyn am y corffdy neu tîm ar-alwad y corffdy y tu allan i oriau gwaith.
Ysbyty Glangwili
Rhif ffôn: 01267 235151 trwy’r switsfwrdd a gofyn am y gwasanaeth profedigaeth a chorffdy.
Ysbyty Tywysog Philip
Rhif ffôn: 01554 756567 trwy’r switsfwrdd a gofyn am y gwasanaeth profedigaeth a chorffdy – blip 754.
Ysbyty Llwynhelyg
Rhif ffôn: 01437 772347 ar gyfer staff y corffdy.
Dillad a phethau gwerthfawr
Bydd angen i chi drefnu casglu unrhyw eiddo a phethau gwerthfawr gyda’r ward, neu cysylltwch â’r Swyddogion Profedigaeth am gyngor. Gall y ward a’r Corffdy hefyd eich helpu gyda chreu blwch atgofion.
Rhoi meinweoedd y corff
Mae llawer o bobl yn gweld rhoi meinwe yn ffynhonnell wych o gysur, ac yn rhywbeth cadarnhaol a all ddod allan o rywbeth trist. Defnyddir rhoddion o’r fath i achub a gwella bywydau pobl â chyflyrau sy’n bygwth bywyd neu gyflyrau gwanychol.
Am wybodaeth bellach, trowch at: nhsbt.nhs.uk/what-we-do/transplantation-services/
Os hoffech drafod rhoi meinwe yn fwy manwl, gallwch gysylltu â nyrs o’r Ganolfan Atgyfeirio Genedlaethol ar 0800 432 0559.

Cysylltu â Threfnydd Angladdau
Yn dilyn marwolaeth, gallwch gysylltu â Threfnydd Angladdau o’ch dewis cyn gynted ag y gallwch fel y gallant ddechrau gwneud trefniadau rhagarweiniol ar eich rhan. Gallwch wneud hyn cyn i’r Dystysgrif Feddygol sy’n nodi achos y farwolaeth gael ei chyhoeddi. Ni fydd y Trefnydd Angladdau yn cwblhau unrhyw drefniadau hyd nes y byddant wedi cael cadarnhad bod y farwolaeth wedi ei chofrestru a bod y gwaith papur perthnasol ganddynt. Byddant yn gallu rhoi cymorth a chyngor ar lawer o’r pethau y mae angen i chi eu hystyried.
Efallai y byddwch am wneud hyn eich hun neu ystyried cymorth perthnasau neu ffrind y gallwch ymddiried ynddynt. Yn aml, mae perthnasau a ffrindiau eisiau eich helpu a’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallant.
Mae’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau ar gael saith diwrnod yr wythnos. Os dymunwch, byddant yn ymweld â’ch cartref i’ch helpu a’ch cynghori ar y trefniadau angenrheidiol. Mae gwybodaeth am rai Trefnwyr Angladdau ar gael yn y llyfryn hwn, neu efallai yr hoffech edrych ar restr lawn sydd ar gael yn www.yell.com
Os ydych yn derbyn credyd cynhwysol, credyd pensiwn, budd-dal tai neu gredyd teulu, gallwch wneud cais am help i dalu costau angladd. Bydd y Trefnydd Angladdau yn gallu eich helpu, neu gallwch gael taflen SF200 (Help pan fydd rhywun yn marw) gan eich Adran Gwaith a Phensiynau leol.
Gwiriwch y manylion hyn yn ofalus fel eich bod yn deall pa gostau y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eu talu.
Os oes angen unrhyw gymorth ariannol arnoch ar unwaith, er enghraifft ynghylch costau angladd, gallwch ofyn am gyngor gan y Cronfeydd Cymdeithasol, ffoniwch:
Y Crwner
Mewn rhai amgylchiadau ni fydd yn bosibl i feddyg sy’n mynychu roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Mae yna lawer o resymau pam na ellir gwneud hyn, ond yn gyffredinol mae’n digwydd pan nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu pan all fod yn annaturiol. Mae’r Crwner yn gyfrifol am ymchwiliadau i’r marwolaethau hyn. Bydd y Meddyg/ ymgynghorydd neu’r Archwiliwr Meddygol yn gallu trafod hyn gyda chi.
Gall y Crwner (yn ôl y gyfraith) orchymyn archwiliad post-mortem heb gael caniatâd y perthnasau, er mwyn gallu canfod achos y farwolaeth.
Mewn achosion o bost mortem y Crwner bydd Swyddfa’r Crwner yn cysylltu â’r perthynas agosaf ac yn egluro’r drefn.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Crwner gallwch wneud hynny drwy fynd i’r dudalen we ganlynol: www.gov.uk/government/ publications/guide-to-coroner-services a- coroner-investigations-a-shortguide
Post-mortem ysbyty
Ar adegau, efallai na fydd y Crwner angen post-mortem, fodd bynnag, gall y meddyg a oedd yn gofalu am eich anwylyd ofyn am bost-mortem ysbyty i’w helpu i bennu achos y farwolaeth ac i helpu i drin cleifion eraill yn y dyfodol. Bydd y tîm meddygol yn trafod hyn gyda chi.
Fe’ch gwahoddir i gydsynio i bost-mortem, sy’n cynnwys llenwi ffurflen ganiatâd post-mortem. Bydd aelod o’r staff clinigol yn eich cynorthwyo i lenwi’r ffurflen os byddwch yn cydsynio.
Mae’r ysbyty yn sensitif iawn i unrhyw anghenion diwylliannol neu grefyddol penodol y mae’n rhaid cadw atynt. Gofynnir i chi am y rhain yn ystod y broses gydsynio.
Yn dilyn y post-mortem, byddwch yn gallu siarad â’r meddyg perthnasol i ganfod canlyniad y post-mortem.
P’un ydych yn dewis cydsynio i’r archwiliad (post-mortem) ai peidio, dylai’r meddyg fod mewn sefyllfa i roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.
Os oes angen cwêst
Mae cwest yn ymchwiliad i achos meddygol ac amgylchiadau’r farwolaeth, os yw achos y farwolaeth yn parhau i fod yn ansicr ar ôl y post-mortem.
Ni fydd Cwest yn oedi’r broses amlosgi na chladdu.
Cofrestru marwolaeth
Bydd copi o’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth unwaith y bydd meddyg wedi’i llenwi yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at yr Archwiliwr Meddygol.
Unwaith y bydd yr archwiliwr meddygol wedi cael sgwrs gyda’r perthynas agosaf bydd wedyn yn cadarnhau llenwi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth gyda’r cofrestrydd er mwyn i’r farwolaeth gael ei chofrestru, a chyda’r corffdy fel y gellir rhyddhau’r ymadawedig i’r trefnydd angladdau enwebedig.
Bydd y gwasanaeth archwilwyr meddygol wedyn yn darparu cyfeirnod unigryw i’r perthynas agosaf ar gyfer cofrestru’r farwolaeth gyda chofrestrydd.
Mae angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn yr un sir ag y digwyddodd y farwolaeth. Os oedd yr ymadawedig yn ymwelydd â’r ardal neu os nad ydych yn byw’n lleol yna mae’n bosibl cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad yn eich Swyddfa Gofrestru leol. Fodd bynnag, bydd dal angen prosesu’r gwaith papur a gallai hyn achosi oedi. Gall eich Trefnydd Angladdau roi cyngor pellach.
Swyddfa Gofrestru Caerfyrddin: 01267 228210
Swyddfa Gofrestru Llanelli: 01554 744202
Swyddfa Gofrestru Rhydaman: 01269 598300
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro, Archifdy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Ffôn: 01437 775027
Ebost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Gweler Map Lleoliad Swyddfeydd Cofrestru ar y dudalen nesaf
Swyddfa Gofrestru Ceredigion, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UE
Ffôn: 01970 633580
Ebost: cofrestrydd@ceredigion.llyw.cymru
Ebost: registrar@ceredigion.gov.uk
www.ceredigion.gov.uk/resident/births-deaths-marriages-civil- partnerships/ register-a-death/
LLANBADARNROAD
CARADOC ROAD IORWERTH AVENUE
Cofrestru’r farwolaeth:
Dylai hysbysydd dynodedig gofrestru’r farwolaeth.
Os and yw hyn yn bosibl, gall y bobl ganlynol wneud hyn:
• Perthynas yr ymadawedig
• Rhywun sy’n bresennol ar adeg y farwolaeth
• Swyddog o’r ysbyty lle ddigwyddodd y farwolaeth
• Y person sy’n gwneud trefniadau’r angladd
Pan fyddwch chi’n mynd i’r Swyddfa Gofrestru, bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi:
• Tystysgrif Geni
• Carden feddygol neu rif GIG – gall yr ysbyty neu’r feddygfa roi hwn i chi
• Tystysgrif Priodas/Partneriaeth Sifil os yn berthnasol
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw un o’r rhain, siaradwch â’r Swyddfa Gofrestru am gyngor cyn i chi fynychu.
Mae angen i’r hysbysydd ddod â phrawf adnabod e.e., Trwydded Yrru,

Bydd angen y wybodaeth ganlynol ar y cofrestrydd:
Enw llawn yr ymadawedig (ac unrhyw enwau blaenorol)
Eu dyddiad geni a man geni (tref, neu wlad os cawsant eu geni y tu allan i Gymru neu Loegr)
Cyfeiriad a chod post arferol
Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dyddiad geni’r weddw/gwˆ r gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi
Galwedigaeth a math o ddiwydiant (Os oedd yr ymadawedig yn briod, mewn partneriaeth sifil, enw llawn a galwedigaeth y weddw/gwˆ r gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi)
Enw’r Trefnydd Angladdau ac a fydd amlosgiad neu gladdedigaeth
Pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru, bydd y Gwasanaeth/ Swyddfa Gofrestru yn rhoi’r canlynol i chi:
• Darperir tystysgrifau marwolaeth gan y Gwasanaeth Cofrestru am ffi. Os oes angen mwy nag un copi arnoch gallwch brynu cymaint ag sydd eu hangen arnoch. Bydd y Swyddfa Gofrestru yn gallu rhoi gwybod faint o gopïau y gallai fod eu hangen arnoch.
• Mae angen copïau ardystiedig o Gofrestriad y Farwolaeth ar gyfer materion fel yswiriant, cyfrifon banc, bondiau premiwm, hawliadau pensiwn, cyfreithwyr ac ati.
• Ffurflen Werdd – i’w rhoi i’ch Trefnydd Angladdau er mwyn cario ymlaen â threfniadau’r angladd.
• Bydd ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn cael ei gwblhau ar adeg cofrestru. Anogir Perthnasau Agosaf i lenwi gwybodaeth ar-lein neu dros y ffôn i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn wasanaeth sy’n eich galluogi i adrodd am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth mewn un go. Pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth, bydd y Swyddfa Gofrestru yn rhoi gwybod i chi am hyn.
Bydd y Swyddfa Gofrestru yn rhoi rhif i chi ei ffonio. Mae hyn yn cynnwys Relay UK os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn. Os ydych chi’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), mae yna wasanaeth cyfnewid fideo os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfod sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen.

Ar ôl yr angladd
Gall setlo ystâd yr ymadawedig fod yn ddryslyd, gall gymryd llawer o amser a gall beri gofid. Os ydych wedi cael eich enwi fel ysgutor mewn
Ewyllys, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod dymuniadau’r unigolyn, fel yr ydych yn eu deall, yn cael eu cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys talu costau angladd, dyledion a threthi, yn ogystal â chael gwared ar eu heiddo ac asedau eraill.
Os bydd rhywun yn marw heb adael Ewyllys ddilys, gelwir hyn yn marw’n ddiewyllys. Mae angen cael ‘Grant llythyrau gweinyddu’ gan y Gofrestrfa
Brofiant er mwyn gweinyddu’r ystad. Dyma fanylion cyswllt Cofrestrfa
Brofiant Cymru:
Caerdydd: 029 2047 4373
Caerfyrddin: 01267 245057
Gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk
Pan fydd rhywun yn marw
Mae profedigaeth yn brofiad unigryw a phersonol. Mae pob un ohonom yn galaru mewn ffordd unigryw.
Mae galar yn ymateb normal i golli rhywun yr oeddem yn ei adnabod neu’n ei garu ac mae’n broses normal sy’n ein helpu i ddod i delerau â newid. Nid oes unrhyw ffyrdd cywir nac anghywir o alaru ac yn anffodus, nid oes unrhyw ffyrdd hawdd.
Mae’n normal profi amrywiaeth o emosiynau megis teimlo sioc, diffyg teimlad, dicter, euogrwydd neu deimlo’n fwy pryderus. Gall anesmwythder fynd law yn llaw â hyn, yn enwedig yn y nos pan fydd cysgu’n anodd.
Mae’r rhain i gyd yn adweithiau naturiol i brofedigaeth ac nid ydynt yn arwydd nad ydych yn gallu ymdopi.
Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd angen cefnogaeth eraill arnoch. Peidiwch â bod ofn siarad am eich teimladau â rhywun, mae hwn yn aml yn gyfnod anodd i deulu a ffrindiau hefyd. Efallai eu bod yn ofni siarad am eich anwylyd rhag ofn eich ypsetio. Efallai y bydd angen i chi gymryd y cam cyntaf a rhoi gwybod iddynt eich bod am siarad ac yr hoffech gael eu cefnogaeth.
Caplaniaeth – arweiniad bugeiliol, crefyddol ac ysbrydol
Mae ein tîm caplaniaeth yn cynnig gofal crefyddol, ysbrydol a bugeiliol cyfrinachol i’r holl gleifion, ymwelwyr a staff ar draws holl safleoedd ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol i’r rhai sydd â ffydd grefyddol neu beidio.
Fel gwrandawyr gofal iechyd profiadol rydym yn cynnig lle diogel i ystyried teimladau ac emosiynau ynghylch marwolaeth, yn ogystal â chymorth ymarferol ynghylch trefnu angladd.
Gall marwolaeth aelod o’r teulu neu ffrind agos fod yn un o’r profiadau mwyaf torcalonnus i fynd drwyddo mewn bywyd. Gall fod ar ôl cyfnod o salwch, neu gall fod yn sydyn iawn. Fe’i nodir yn aml fel un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn eich bywyd.
Fel caplaniaid gofal iechyd rydym yn gwerthfawrogi hyn, ac er nad ydym yn honni bod gennym yr holl atebion, rydym yn cynnig cyfle i deuluoedd mewn profedigaeth weithio trwy rai o’r meddyliau a’r emosiynau trallodus sy’n dilyn marwolaeth rhywun sydd wedi cyffwrdd â’ch bywyd.
Gall y person a fu farw fod o ffydd neu draddodiad credo gwahanol i’ch un chi a gall arwain at gwestiynau y gallai fod angen eu hegluro ymhellach, gan rywun annibynnol a all gynnig rhywfaint o sicrwydd a thawelwch meddwl yn y galar parhaus. Rydym yn cefnogi trwy sgwrs therapiwtig heb farn ac yn symud ar eich cyflymder chi.
Efallai y bydd caplaniaid yn gallu cysylltu teuluoedd ag arweinwyr ffydd neu weinidogion yn y gymuned a all ddarparu gofal penodol a mwy perthnasol.
Cofiwch nad oes rhaid i chi fod ar eich pen eich hun na brwydro ar eich pen eich hun. Rydym yn barod i gynnig amgylchedd cyfrinachol a chefnogol i siarad ynddo, a dyma bwysleisio ein bod yn croesawu cyswllt â phobl o bob ffydd, cred ysbrydol a chrefyddol a’r rhai sydd heb unrhyw gred ac nad ydynt yn cyd-fynd ag unrhyw athroniaeth benodol.
I gysylltu, gofynnwch am aelod o dîm y gaplaniaeth drwy ffonio’r switsfwrdd ar 01267 235151.
Mae siarad yn helpu
Mae angen mynegi poen a galar er mwyn ei brosesu. Efallai y bydd angen i chi siarad am y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth eich anwylyd, ac am y farwolaeth ei hun, a hynny droeon. Mae hyn yn ddigon naturiol ac yn un o’r ffyrdd yr ydym yn raddol yn gwneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd. Mae’n dda siarad â theulu a ffrindiau neu geisio cymorth proffesiynol a siarad â’ch meddyg teulu.
Gall galar fod yn brofiad hynod o unig ac ynysig. Gall bod gydag eraill, ffrindiau neu grwˆ p cymorth, sydd hefyd wedi profi colled, fod yn help mawr.
Derbyniwch na fyddwch yn gweithredu mor effeithiol ag arfer am gyfnod. Mae diffyg canolbwyntio a chof gwael yn normal. Mae galar yn broses unigol ac mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn caniatau amser i chi eich hun i alaru a dod i delerau â’ch profedigaeth ym mha ffordd bynnag sy’n iawn i chi.
Cofiwch
Dysgwch sut i wrando arnoch chi'ch hun, i wybod beth sy'n gweithio i chi. Efallai y bydd eich anghenion yn newid gydag amser.
Efallai y byddwch am geisio cymorth pellach i helpu yn eich galar. Mae'n bosibl y gall eich meddyg teulu eich helpu a dyma'r person i fynd ato yn y lle cyntaf. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, efallai y gallant argymell cwnselydd lleol neu grwˆ p cymorth. Rhestrir sefydliadau eraill a allai helpu ar y tudalennau canlynol:
A oes angen i chi siarad â rhywun nawr?
LLINELL GYMORTH 24 AWR
Y Samariaid 116 123 (DU)
Ar gyfer unrhyw un, unrhyw bryd am unrhyw reswm
Gwasanaeth Cymorth mewn
Profedigaeth Hywel Dda Mae’n cynnig cwnsela profedigaeth arbenigol i drigolion Sir Gaerfyrddin, sy’n cynnwys plant ac ieuenctid. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth i drafod anghenion Cymorth Profedigaeth. Rhif ffôn: 01267 227639 neu 01554 783564
Gofal Profedigaeth CRUSE
Yn cynnig cwnsela, cyngor, gwybodaeth a chyswllt cymdeithasol mewn profedigaeth. Llinell Gymorth: 0808 808 1677
Ebost: helpline@cruse.org.uk
Y Samariaid
Gellir cysylltu â’r Samariaid unrhyw bryd, ddydd neu nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a darparu cymorth emosiynol cyfrinachol, heb feirniadaeth.
Rhif ffôn: 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg) Testun: 07725 909090
Llinell Gymorth National
Bereavement Partnership 0800 448 0800 Rhwng 7am a 10pm ar gyfer cefnogaeth emosiynol.
Grief Talk
Ffôn: 0808 802 0111
Cefnogaeth i unrhyw un o unrhyw ffôn, a hynny am ddim. Sesiwn gyda chwnselydd Grieftalk. Dydd
Llun i ddydd Gwener 9am - 9pm
Bereavement Advice Centre
Ffôn: 0800 634 9494
Cyngor ymarferol (9am - 5pm)
Bereavement Trust
Ffôn: 0800 435 455
Cyngor emosiynol ac ymarferol (6 - 10pm)
Survivors of Bereavement by Suicide
Ffôn: 0300 111 5065
9am-9pm bob dydd
The Compassionate Friends
Ffôn: 0345 123 2304
Bob dydd rhwng 10am a 4pm, 7pm a 10pm
2 Wish
Cefnogi marwolaethau sydym ymhlith plant ac oedolion ifanc –www.2wishuponastar.org
Ffôn: 01443 853125
The DPJ Foundation
Cefnogaeth i ffermwyr, contractwyr ffermio a’u teuluoedd
Ebost: Kate@thedpjfoundation.co.uk
The Jac Lewis Foundation –Rhydaman
Ebost: Admin@ jaclewisfoundation.co.uk
Good grief trust www.thegoodgrieftrust.org/
Winston’s wish
www winstonswish org
Ffôn: 08088 020 021
Gwasanaeth Cwnsela Sir Benfro Ffôn: 01437 768708
HAHAV
Gwasanaethau Byw’n Dda a Phrofedigaeth Plas Antaron, Southgate, Aberystwyth, SY23 1SF
Ffôn: 01970 611 550 hahav.org.uk
Gwasanaethau Cymorth
Profedigaeth i Blant
Rhif ffôn: 01267 227639
Child Bereavement UK
Llinell Gymorth a Gwybodaeth. Rhif ffôn: 0800 028 8840
Sandy Bear
Cefnogaeth i blant ac ieuenctid
Europa House, 115 Charles Street, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 2HW www.sandybear.co.uk
Marie Curie
Ffôn: 0800 090 2309
Ar agor dydd Llun i ddydd
Gwener, 8am – 6pm
Ar agor dydd Sadwrn 11am – 5pm Gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol a chlinigol ar bob agwedd ar ddiwedd oes a phrofedigaeth.
www mariecurie org uk/help/ support/bereaved-family-friends/ practical-legal/register-a-death?ms clkid=9e172cfecd06129d0d41497 fb1b504e8
Sefydliadau Penodol i Gymru
Nightingale House Hospice
Paul Sartori Foundation, Hwlffordd ebost: info@paulsartori.org
Mind Canolbarth a Gogledd Powys/Mind Caerfyrddin a Llanelli ebost: carers@mindcarmarthen.org.uk
Hope Again ebost: hopeagain@cruse.org.uk ebost: gdpr@cruse.org.uk;
Platform, Abertawe ebost: connect@platfform.org
Cefnogaeth Iechyd Meddwl i Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol –ebost: supporterrelations@mind.org.uk sahayak@rethink.org bristolBME@rethink.org
Tîm Cefnogi Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (eyst) ebost: info@eyst.org.uk
Age Cymru ebost: reception@agecymrudyfed.org.uk
Ponthafren Association, Y Trallwng a’r Drenewydd Long bridge Street, Y Drenewydd, Powys SY16 2DY Ffôn: 01686 621586 ebost: admin@ponthafren.org.uk
LBGTQ+ Cymru ebost: info@lgbtcymru.org.uk;

Dolenni defnyddiol eraill Gwasanaethau Cymorth Arbenigol Cenedlaethol
Sue Ryder
Cymuned Ar-lein a Chwnsela
Profedigaeth Ar-lein.
Sudden
Cefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth oherwydd marwolaeth sydyn.
Muslim Bereavement Support Service
Cefnogaeth i fenywod Mwslimaidd ar ôl marwolaeth anwylyd.
Jewish Bereavement Support Services
Cefnogaeth i’r gymuned Iddewig ar ôl marwolaeth.
Sudden Arrhythmic Death
Cyngor a chefnogaeth Syndrom Marwolaeth Sydyn Arrhythmic.
Drug and Alcohol Addiction
Cefnogaeth i rai sydd wedi colli rhywun oherwydd camddefnyddio sylweddau.
RoadPeace
Gall y profiad emosiynol sydyn, annisgwyl a thrawmatig o farwolaeth neu anaf difrifol mewn damwain ffordd fod yn llethol. Ac mae ymchwiliadau'r heddlu, cwestau a gweithdrefnau llys a all ddilyn yn aml yn anghyfarwydd ac yn ddryslyd. Gall RoadPeace helpu.
Breaking Bad News
Cyngor ar dorri newyddion drwg i rywun ag anabledd deallusol.
Advocacy After Fatal Domestic Abuse
Helpu i dywys teuluoedd trwy
Ymholiadau gan gynnwys
Adolygiadau Dynladdiad Domestig ac Adolygiadau Iechyd Meddwl, ac rydym yn cynorthwyo ac yn cynrychioli ar Chwestau, ymholiadau Comisiwn
Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ac adolygiadau eraill.
Support after Suicide Partnership
Cyngor ac arweiniad i bawb yr effeithir arnynt gan hunanladdiad.
Survivors of Bereavement by Suicide
Helpu i oresgyn ynysu'r rhai sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad (dros 18).
War Widows
Cyngor a chymorth i bawb sydd wedi dod yn weddw oherwydd gwrthdaro ers yr Ail Ryfel Byd.
London Friend
Cefnogaeth a chwnsela i’r gymuned LGB&T.
Grief Encounter
Cefnogaeth i blant mewn profedigaeth a’u teuluoedd.
SAMMS
Cefnogaeth ar ôl Llofruddiaeth a Dynladdiad.
Atal post sothach i’r un fu farw’n ddiweddar
Os yw rhywun rydych chi’n ei nabod wedi marw, gellir lleihau’n sylweddol faint o bost marchnata diangen sy’n cael ei anfon ato.
Trwy gofrestru gyda’r gwasanaeth www.stopmail.co.uk am ddim, mae enwau a chyfeiriadau’r ymadawedig yn cael eu tynnu oddi ar restrau postio, gan atal y rhan fwyaf o hysbysebu post o fewn cyn lleied â chwe wythnos. Os nad ydych yn defnyddio’r rhyngrwyd, gallwch ffonio 0808 168 9607, lle gofynnir i chi am wybodaeth syml iawn a bydd hyn ond yn cymryd ychydig funudau.
Bydd y gwasanaeth hwn a ddarperir a, ddim gan y Rhwydwaith Cefnogi Profedigaeth yn mynd ati i leihau’r post marchnata digroeso ond gall hefyd helpu i leihau’r tebygolrwydd o ddwyn hunaniaeth yn dilyn marwolaeth rhywun agos. Ni ddefnyddir y wybodaeth at unrhyw ddiben arall, a dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi wneud hyn.
Yn ogystal â Stop Mail, gellir cael mynediad at wasanaeth tebyg o’r
Gofrestr Profedigaeth neu’r gwasanaeth Deceased Preference Service os byddai’n well gennych eu defnyddio.
Cyfryngau Cymdeithasol
Gall cyfryngau cymdeithasol chwarae rhan fawr ym mywydau rhai pobl a gall gwybod beth i’w wneud pan fyddant wedi marw fod yn ddryslyd. Mae gwahanol opsiynau wrth benderfynu beth i’w wneud â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol anwylyd, er nad oes rhaid gwneud y penderfyniadau hyn ar unwaith.
Pan fyddwch chi’n barod, gallech chi benderfynu:
• Gadael y cyfrif ar agor
• Coffau’r cyfrif
• Dileu’r cyfrif
Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n haws trafod yr opsiynau hyn gyda theulu, ffrindiau neu grwˆ p cymorth. I rai, mae’r lluniau ac atgofion sy’n cael eu cadw ar gyfryngau cymdeithasol, dros amser, yn eu helpu i alaru a chael cysur o’u gweld.
Beth all teulu a ffrindiau ei wneud i helpu
• Trafod gyda’r unigolyn i weld a hoffai unrhyw gefnogaeth neu help gydag unrhyw beth
• Bod yn ymwybodol ein bod ni i gyd yn profi galar yn wahanol, does neb yn galaru yr un peth
• Bod yno i’r rhai sy’n galaru – nid oes angen dweud dim
• Caniatáu ar gyfer mynegi teimladau. Awgrymu cefnogaeth bellach os oes angen
• Helpu gyda’r pethau ymarferol a all deimlo’n llethol yn aml pan fyddwn yn profi profedigaeth
• Cynnig cefnogaeth, fel y gall yr unigolyn gael lle ac amser i brosesu a myfyrio
• Cydnabod y gall achlysuron fel penblwyddi a’r Nadolig fod yn fwy heriol, a chynnig cymorth pellach yn ystod dyddiadau arwyddocaol.
Siarad â phlant am farwolaeth
Fel oedolion, rydyn ni’n teimlo’r angen i amddiffyn ein plant rhag pethau a allai fod yn anodd. Gallwn dybio na fydd plant yn deall marwolaeth a phrofedigaeth, neu y bydd yn peri gormod o ofid iddynt.
Os oes gennych bryderon ynghylch plentyn a sut mae’n prosesu ei alar, siaradwch â meddyg teulu, yr ysgol neu Ymwelydd Iechyd am gymorth.
Yn aml gallwn danamcangyfrif gallu plentyn i ymdopi. Fel oedolion, mae plant yn ei chael hi’n ddryslyd ymdopi os na ddywedir y gwir wrthynt am yr hyn sy’n digwydd a gallant gael eu dychryn gan eu dychymyg eu hunain.
Efallai yr hoffech ystyried cynnig y dewis i blant ynghylch a ydynt am fynychu’r angladd ai peidio.
Y Dyfodol
Mae cyfnod galaru yn amrywio o berson i berson. Efallai na fydd rhai pethau fel tristwch y farwolaeth a cholli’r person byth yn diflannu’n llwyr ond mae’r boen yn mynd yn llai gydag amser. Mae llawer o bobl yn gweld, er na fydd bywyd byth yr un fath eto, y daw amser pan fyddant yn gallu dechrau mwynhau byw eto.
Does dim disgwyl i alar ddod i ben ar ôl amser penodol, dydyn ni byth yn dod dros marwolaeth anwylyd, ond dros amser, rydyn ni’n dysgu addasu i fywyd gyda’n colled.
Mae rhodd er cof am anwylyd yn ffordd wych o anrhydeddu person arbennig. Drwy ddewis cefnogi eich elusen GIG leol byddwch yn ein helpu i wella gwasanaethau’r GIG yn lleol.
Casgliad yn yr angladd
Mae gofyn i ffrindiau a theulu wneud cyfraniad yn lle blodau mewn angladd neu wasanaeth coffa yn ffordd ystyrlon o gofio eich anwylyd. Os hoffech ofyn am gyfraniadau i gefnogi
Elusennau Iechyd Hywel Dda, cysylltwch â ni i ofyn am amlenni casglu i’w defnyddio yn y gwasanaeth.
Cronfeydd teyrnged
Mae cronfa deyrnged i Elusennau Iechyd
Hywel Dda yn gofeb ar-lein y gallwch ei chreu a’i phersonoli er cof am rywun annwyl; mae’n lle i chi gofio a dathlu bywyd rhywun sy’n arbennig i chi. Sefydlwch eich cronfa deyrnged yn www.muchloved.com
Cymryd rhan mewn digwyddiad
Mae codi arian er cof yn ffordd arbennig ac unigryw i anrhydeddu rhywun. Boed yn fore coffi neu’n blymio o’r awyr, mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi godi nawdd er cof am rywun annwyl.

Rhoi rhodd
Os hoffech ddathlu bywyd rhywun annwyl trwy wneud rhodd untro i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallwch gyfrannu’n hawdd yn www.hywelddahealthcharities.org.uk
Os byddai’n well gennych gyfrannu drwy’r post, gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ a’u hanfon at Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan
Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt a pheidiwch ag anfon unrhyw arian drwy'r post.
Sut bynnag rydych chi’n dewis ein cefnodi er cof am anwylyd – diolch yn fawr.
Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Hoffem ddiolch i’n noddwyr - ni fyddai’r llyfryn hwn yn bosibl hebddynt. Fodd bynnag, ni allwn gymeradwy’r gwasanaethau a hysbysebwyd.
Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Bronglais
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2025
Dyddiad adolygu: Mehefin 2027

The Health Board would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services o ering their help at this time.
Whilst the Health Board is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.



Rydyn ni’n darparu gofal eithriadol mewn lleoliad hyfryd er mwyn i deuluoedd allu cofio, galaru a dathlu bywydau eu hanwyliaid mewn ffordd bersonol sy’n unigryw iddyn nhw.

Mae Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth ger lleoliad hyfryd Bae Clarach, gyda golygfeydd godidog o Gwm Cynfelyn.
• 60 munud yn y capel ar gyfer gwasanaeth safonol, yn cynnwys amser cyrraedd a gadael
• Capel agored, eang a chyfforddus, y gellir ei addurno yn ôl eich dymuniad
• Gerddi Coffa hyfryd y gallwch chi ymweld â nhw dro ar ôl tro i gofio eich anwylyd
Cipolwg ar ein cyfleusterau:
Lle i 86 eistedd yn y Capel + digon o le i sefyll
Seddi yn yr Ystafell Aros + rhagor o le i sefyll
46/2 o Fannau
Parcio Safonol/ Hygyrch

• Canolfan cyfryngau o’r radd flaenaf ar gyfer teyrngedau personol unigryw a chyfleusterau ffrydio gwasanaethau
• Tîm cyfeillgar i sicrhau bod popeth yn mynd yn esmwyth ar y diwrnod – fe wnawn ni’r trefniadau i gyd
Caniateir Cwn ar Dennyn

Dolen Sain yn y Capel
Toiledau hygyrch a lle i newid babis
3 Sgrin ar gyfer Teyrngedau + Seinyddion
Allanol
Croesewir Cerddoriaeth Fyw
Organ ar gael
Ffrwd Fyw/ Fideo o’r Gwasanaeth
Chwalu Llwch
Mynwent ac Amlosgfa Aberystwyth Ffordd Clarach, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DG ffôn: 01970 626942
e-bost: aberystwyth@westerleighgroup.co.uk
fb: facebook.com/aberystwythcemeterycrematorium www.aberystwythcrem.co.uk/info
Gardd Goffa
Llyfr Coffa Mynwent
Ewch i www.saif.org.uk i ddod o hyd i drefnydd angladdau yn eich ardal chi
provide exceptional care in a beautiful setting so that families
ones in a way that is uniquely
located near beautiful

Bay, offering stunning views of the Cynfelyn Valley.
• 60 minute chapel time including entry and exit as a standard attended service
• Light, open and comfortable chapel, which can be dressed to meet your wishes
• State-of-the-art media centre for uniquely personal tributes and service streaming

• Helpful team to ensure everything runs smoothly on the day, leaving the details to us
• Beautiful Gardens of Remembrance which you can return to time and time again to remember your loved one












