Skip to main content

Cyfansoddi Cymru Hysbysiad Preifatrwydd

Page 1

Cyfansoddi: Cymru Hysbysiad Preifatrwydd Mae'n bwysig eich bod yn gallu ymddiried ynom ni. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi fod yn ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio data personol o’r fath. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi, yn unol â’r gyfraith diogelu data. Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan? Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, ei gweld yn cael ei pherfformio a’i recordio gan BBC NOW yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd. Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â’u mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf! Gall cyfansoddwyr anfon dau (2) gyfansoddiad i'w hystyried. Llenwch ffurflen gais i roi rhywfaint o wybodaeth i ni am eich cyfansoddiad(au), gyda ffeil sain pdf a midi o’r cyfansoddiadau eu hunain. Bydd y BBC yn casglu’r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC. Pan fyddwch yn cyfrannu at y BBC, efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad yn ein rhaglenni neu ein cynnwys, ond ni allwn addo defnyddio popeth a gawn. Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad, gallai hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, ac efallai y bydd eich cyfraniad yn cael ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol. Gall hefyd gynnwys defnydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y BBC. I gael gwybod sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma. Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio? Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol at ddibenion cynnal y gystadleuaeth ac i gysylltu â’r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. Rydym yn prosesu gwybodaeth am ryw, tarddiad hiliol neu ethnig, a gwybodaeth am iechyd at ddibenion monitro amrywiaeth. Data personol: Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn Cyfansoddi: Cymru. Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi: • Enw llawn • Cyfeiriad post • Cyfeiriad e-bost 1o3


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cyfansoddi Cymru Hysbysiad Preifatrwydd by BBC National Orchestra & Chorus of Wales - Issuu