Cyfansoddi: Cymru 2026 Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 11-13 Chwefror 2026
Canllawiau i Gyfansoddwyr Meini Prawf Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol: • Wedi’u geni, yn byw neu’n astudio yng Nghymru • Dros 18 oed Gall cyfansoddwyr gyflwyno hyd at 2 waith i’w hystyried ar gyfer y prosiect. Ni fydd sgoriau a berfformiwyd yn flaenorol gan gerddorfa broffesiynol yn cael eu hystysried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru. Rydym yn annog yn gryf y rhai sydd heb gymryd rhan o’r blaen yn Cyfansoddi: Cymru i wneud cais. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan gyfansoddwyr a ddewiswyd yn flaenorol. Bydd cyfranogiad blaenorol yn cael ei ystyried yn ystod y broses ddethol er mwyn sicrhau cyfle i’r ystod ehangaf bosibl o gyfansoddwyr. Dyddiad Cau Dydd Sul 28ain o Fedi 2025 erbyn 2300 Hyd Uchaf 10 munud. Nodwch for sgoriau byrrach yn cael eu croesawu. Gofynnir i gyfansoddwyr sicrhau bod yr hyd a roddir yn gywir. Ar gyfer gweithiau â sawl symudiad, dylai cyfansoddwyr nodi pa symudiad y byddent yn well ganddynt gael ei ystyried ar gyfer y prosiect. Maint Cerddorfa BBC NOW Gall ymgeiswyr gyflwyno cyfansoddiad ar gyfer yr offeryniaeth uchaf canlynol: 2[1.2/pic/afl].2[1.2/ca].2[1.2/bcl].2[1.2/cbn] | 4.2.3.1 | T | *2P | Hp | Str[12.10.8.6.4] *Uchafswm o 2 chwaeaewr offerynnau taro, ceir isod restr o’r offerynnau sydd ar gael i bob chwaraewr: Chwaraewr 1 - Drwm Bas, Drwm Tenor, Drwm Snêr, 5 bloc templ, Glockenspiel,4 Tom, Tam Tam, 1 cymbal wedi’i grogi (unrhyw fath), offerynnau llaw llai e.e tambwrîn, claves, triongl, guiro, maracas, ac ati. Chwaraewr 2 – 2 Tom, 2 Bongo, 1 cymbal wedi’i grogi (unrhyw fath), 2 gong (traw isel – traw canolig – traw amhenodol, cymeriad yr offeryn yn unig), Xylo neu fibraffon, Tam Tam, Marimba, offerynnau llaw llai e.e tambwrîn, claves, triongl, guiro, maracas, ac ati. Am fwy o eglurder ar unrhyw agwedd o’r offerynniaeth, cysylltwch â'n llyfrgellydd naomi.j.roberts@bbc.co.uk. Nodwch fod angen cadw at osodiad safonol cerddorfa symffoni yn y neuadd, gan ni fydd amser i ail-osod y gerddoffa yn ystod y dyddiau.
Tudalen 1 o 3