Cyfle i fwynhau croeso cynnes a cherddoriaeth wych gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae’r tymor 22-23 yn golygu y gallwn ni o’r diwedd fynd yn ôl at wneud yr hyn rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn ei wneud: perfformio cerddoriaeth fyw i bawb ledled Cymru a darlledu i’r Genedl... a thu hwnt!
O gerddoriaeth glasurol adnabyddus y byddwch chi’n ei hadnabod, i draciau sain o rai o’r gemau mwyaf ar y blaned, i gyngherddau Nadolig gwahanol eu natur, mae’n siŵr y bydd rhywbeth y byddwch chi’n ei adnabod ac yn ei hoffi.
I deuluoedd, mae gennym gyngherddau arbennig iawn ar y gweill a fydd yn apelio at yr ifanc – a’r rhai sy’n ifanc eu hysbryd!
Mae tocynnau i blant, myfyrwyr, a 26 oed ac iau yn costio £5
Hoffech chi gael gwybod mwy am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC? Cysylltwch â ni: now@bbc.co.uk