Modiwl 1: Gwybodaeth a dealltwriaeth entrepreneuraidd
Cynnwys Modiwl 1 Tasg 1.1
Adnabod addysg entrepreneuraidd ............................................................... 4
1.1.1
Pam y mae pawb yn siarad am hyn? ................................................................................... 4
1.1.2
Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysg a hyfforddiant? ........................... 6
1.1.3
Sut y caiff EntreComp ei ddefnyddio yn eich gwlad chi? .................................. 10
Tasg 1.2
Rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd i bawb ................................... 13
1.2.1
Rhoi gwerth ar gymwyseddau entrepreneuraidd yn eich myfyrwyr ........ 13
1.2.2
Rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd yn eich dull addysgu ................. 14
Tasg 1.3
Deall sut y mae myfyrwyr yn meithrin cymwyseddau
entrepreneuraidd................................................................................................................................................... 20 1.3.1
Egwyddorion arweiniol addysgeg entrepreneuraidd effeithiol ................... 20
1.3.2
Y modd y mae damcaniaethau dysgu yn cysylltu ag addysg
entrepreneuraidd ................................................................................................................................................ 27
2
Cyflwyniad fideo i Fodiwl 1 Cyflwyniad fideo I Fodiwl 1 - Gwybodaeth a dealltwriaeth entrepreneuraidd
Link https://www.youtube.com/watch?v=GUXQh4yBAwA
3
Tasg 1.1
Adnabod addysg entrepreneuraidd
1.1.1 Pam y mae pawb yn siarad am hyn? Yn ystod y degawdau diwethaf, mae newidiadau cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol cyflym a dwfn wedi annog gwneuthurwyr polisïau ac addysgwyr i fyfyrio ar ddibenion a chynnwys addysg, a hynny'n rhan o'r angen i addasu a datblygu'n gyfochrog â newidiadau o'r fath. Mae yna gonsensws cynyddol fod hyn yn mynd y tu hwnt i drosglwyddo gwybodaeth, tuag at baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd: tuag at wireddu eu potensial fel dinasyddion gweithredol ac yn y byd gwaith.
GWEITHGAREDD - GWYLIO: Skills Development Scotland – The Future of Work Link: https://www.youtube.com/watch?v=ITJUQre19Mg
4
Pa sgiliau y mae ar ein pobl ifanc eu hangen ar gyfer y dyfodol hwn? Dyma lle y mae'r diddordeb mewn cymwyseddau entrepreneuraidd i'w gael, ar ffurf yr wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau (neu'r ‘feddylfryd’) y mae ar bobl ifanc eu hangen i ffynnu yn ein byd cynyddol gymhleth ac ansicr. Yn 2015, aeth Fforwm Economaidd y Byd ati i ystyried sut y mae'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn newid (Ffigur 1). Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cynyddol y sgiliau hynny, y mae'r fideo uchod yn eu galw'n rhai ‘cynhenid ddynol’, yn y byd gwaith. Mae'n amlwg bod y cynnydd yn y sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer cyflogaeth yn cynnwys sgiliau nad ydynt yn cael eu cydnabod yn eang eto ac nad ydynt yn rhan benodol o'n systemau addysg.
Ffigur 1:
Adroddiad 2016 Skills for the Future of Work, Future of Jobs, Fforwm Economaidd y
Byd
5
1.1.2 Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysg a hyfforddiant? Mae plant a phobl ifanc yn gallu sylwi ar gyfleoedd ac awgrymu atebion ar gyfer problemau yn y byd go iawn y maent yn eu profi mewn bywyd neu y maent yn eu gweld yn y gymuned a'r byd o'u cwmpas. Er enghraifft, yn 2012 roedd Boyan Slat yn 16 oed pan ganfu lygredd plastig tra oedd ar ei wyliau yng Ngwlad Groeg. Erbyn hyn mae'n arwain y cwmni dielw Ocean Cleanup, sy'n ymroddedig i ddatblygu technolegau blaengar i gael gwared ar blastigion o gefnforoedd y byd. O newid yn yr hinsawdd i ddigartrefedd, neu o annog pobl i bleidleisio am y tro cyntaf i warchod treftadaeth ddiwylliannol, gall pobl ifanc feddwl mewn modd creadigol a chael syniadau newydd ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau gwahanol. Ein pobl ifanc yw'r dinasyddion a'r arweinwyr sydd â'r syniadau i greu'r dyfodol, ac mae addysg entrepreneuraidd yn gyfle i gryfhau eu creadigrwydd i gael y syniadau, yn ogystal â'u menter i roi eu syniadau ar waith. Mae'n rhan o'n DNA dynol ar y cyd i geisio ychwanegu gwerth at ein bywydau trwy archwilio, amlygu chwilfrydedd, gofyn cwestiynau a datrys problemau – y mathau o sgiliau a natur sy'n gysylltiedig â bod yn entrepreneuraidd. Mae EntreComp, neu Fframwaith Cymwyseddau Entrepreneuriaeth Ewrop, yn diffinio entrepreneuriaeth fel y broses o weithredu ar gyfleoedd a syniadau a'u trawsnewid yn rhywbeth gwerthfawr i eraill. Gall y gwerth sy'n cael ei greu fod yn ariannol, yn ddiwylliannol neu'n gymdeithasol. Mae hyn yn ymwneud â bod yn entrepreneuraidd ym mhob agwedd ar ein bywydau.
6
Ffigur
2:
Diffiniad
EntreComp
–
datblygwyd
gan
Sefydliad
Denmarc
ar
gyfer
Entrepreneuriaeth/Menter Ifanc, 2012
Mae'r diffiniad yn pwysleisio'r broses o greu gwerth ar gyfer eraill, sef y broses lle caiff yr holl gymwyseddau eu defnyddio i symud o syniad creadigol i weithred entrepreneuraidd sy'n creu gwerth ar gyfer eraill. Gall y gwerth hwn fod yn ariannol, yn ddiwylliannol neu'n gymdeithasol. •
gwerth ariannol – creu refeniw ariannol trwy wasanaethau neu gynhyrchion ar gyfer y farchnad, efallai trwy godi arian, menter gymdeithasol, mini-gwmni neu gwmni ymarfer, busnes myfyrwyr newydd go iawn, neu fusnes a redir gan yr ysgol neu'r coleg
•
gwerth diwylliannol – syniadau sy'n cyfoethogi profiadau diwylliannol pobl, er enghraifft cerddoriaeth, celf, treftadaeth, e.e. adnewyddu hen adeilad, cynnal gŵyl ffilmiau, arddangosfa o gelfyddyd stryd, dysgu iaith, dathlu treftadaeth leol neu drefnu cystadleuaeth ddawnsio newydd
•
gwerth cymdeithasol – syniadau sy'n gwella cymdeithas ac amodau cymdeithasol, er enghraifft mynd i'r afael â materion amgylcheddol lleol neu fyd-eang, lleihau unigrwydd, cefnogi cyflogaeth, mynd i'r afael â hiliaeth, ymgyrchoedd iechyd, sefydlu clybiau chwaraeon cymunedol neu ddarparu rhywbeth nad oes gan bobl mohono, e.e. cyflenwad o ddŵr glân. Mae gweithgarwch tebyg i gynghorau neu seneddau myfyrwyr hefyd yn creu gwerth cymdeithasol
Bu gwneuthurwyr polisïau o Ewrop yn gweithio gydag addysgwyr ac arbenigwyr o bob cwr o'r byd i ddatblygu EntreComp fel ffordd o egluro'r hyn y mae'r dull
7
entrepreneuraidd yn ei olygu ar gyfer addysg – gan ei rannu'n gymwyseddau neu flociau adeiladu penodol y gellir eu haddysgu a'u hymarfer er mwyn helpu pobl i feithrin y sgiliau gwahanol sy'n gyfystyr â ‘bod yn entrepreneuraidd’ mewn agweddau gwahanol ar fywyd.
Ffigur 3
Y Model EntreComp
Mae'r blociau adeiladu hyn yn cynrychioli 15 o gymwyseddau sy'n cyd-gloi ac sydd wedi'u trefnu mewn tri grŵp o bump (gweler tabl 1).
8
Syniadau a chyfleoedd Sylwi ar gyfleoedd
Adnoddau Hunanymwybyddiaeth a hunaneffeithiolrwydd
Defnyddio eich dychymyg i nodi cyfleoedd ar gyfer creu gwerth Creadigrwydd
Credu ynoch chi eich hun a pharhau i ddatblygu Cymhelliant a dyfalbarhad
Datblygu syniadau creadigol a phwrpasol Gweledigaeth
Parhau i ganolbwyntio a pheidio â rhoi'r gorau Rhoi adnoddau ar waith
Gweithio tuag at eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Casglu a rheoli'r adnoddau y bydd arnoch eu hangen
Rhoi gwerth ar syniadau
Llythrennedd ariannol ac economaidd
Gwneud y gorau o syniadau a chyfleoedd Meddwl moesegol a chynaliadwy
Ar Waith Mynd amdani Mynd amdani
Meithrin gallu ariannol ac economaidd Cynnull pobl eraill
Ysbrydoli eraill, tanio eu Asesu'r canlyniadau a'r effaith brwdfrydedd a sicrhau eu cefnogaeth
Cynllunio a rheoli Blaenoriaethu, trefnu a chymryd camau dilynol Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg Gwneud penderfyniadau er mwyn delio ag ansicrwydd, amwysedd a risg Gweithio gydag eraill Llunio tîm, cydweithredu a rhwydweithio Dysgu trwy brofiad Dysgu trwy wneud
Tabl 1 Cymwyseddau entrepreneuraidd yn EntreComp
Gellir cyfuno'r cymwyseddau hyn mewn sawl ffordd wahanol, ac nid oes yr un ‘bloc’ yn bwysicach nag un arall. Mae popeth yn dibynnu ar y dasg dan sylw a'r hyn y mae'r unigolyn am ei adeiladu neu ei greu. I ddefnyddio cymhariaeth, un ffordd o ystyried addysg entrepreneuraidd yw fel addysg sy'n cefnogi myfyrwyr fel y gallant gyfuno set o flociau adeiladu (y cymwyseddau) i greu rhywbeth sydd o werth i eraill. Mae EntreComp wedyn yn cyflwyno entrepreneuriaeth fel set eang o gymwyseddau sydd i'w gweld ym mhob agwedd ar ein bywydau. Gall pawb ymddwyn mewn ffordd entrepreneuraidd, gan gynnwys plant ifanc sy'n amlygu
9
ymdeimlad o antur ac ysbryd chwareus. Yn bennaf oll, gall dysgwyr o bob oed feithrin a gwella'r cymwyseddau hyn trwy eu profiadau hyfforddi ac addysg.
Darganfod Blodyn EntreComp Offeryn ar-lein yw hwn sy'n cyflwyno cymwyseddau EntreComp i athrawon. Gallwch archwilio pob cymhwysedd a lawrlwytho'r set gyfan o Gardiau Athrawon EntreComp, Dolen i SurveyAnyplace: https://s.surveyanyplace.com/entrecompflower
10
1.1.3 Sut y caiff EntreComp ei ddefnyddio yn eich gwlad chi? Mae pob Aelod-wladwriaeth wedi cytuno ar y diffiniad a'r ddealltwriaeth o'r cymhwysedd entrepreneuriaeth allweddol a amlygir trwy EntreComp, a hynny fel un o'r wyth cymhwysedd allweddol sydd yn Fframwaith Cymwyseddau Entrepreneuriaeth Ewrop ar gyfer Dysgu Gydol Oes. Fodd bynnag, mae pob gwlad yn defnyddio, yn ymgorffori neu'n cyfeirio at EntreComp mewn ffordd wahanol trwy eu systemau addysg a hyfforddiant (Tabl 2). Gwlad
O 2019 ymlaen, mae fframwaith EntreComp wedi'i gynnwys yn benodol yn
Belg
y gyfraith newydd sy'n ymwneud ag addysg, a hynny er mwyn arddangos
(Fflandrys)
ffocws newydd dysgu entrepreneuraidd ar y dull cymhwysedd ehangach yn
hytrach
nag
ar
ddysgu
sgiliau
busnes.
Mae'r
cymhwysedd
entrepreneuriaeth, y gellir ei ddeall trwy EntreComp, 'nawr yn cael ei drosi i addysgu, nodau dysgu ac asesu ar gyfer pob pwnc, a hynny fel un o'r cymwyseddau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i bob maes pwnc. Y Ffindir
Mae'r Ffindir wedi bod yn defnyddio EntreComp yn sail i adolygiad cynhwysfawr o'r ddarpariaeth o ran addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac mae 'nawr yn sail i'r offeryn hunanasesu athrawon a gefnogir gan y weinyddiaeth Addysg a Diwylliant ac Asiantaeth Genedlaethol y Ffindir ar gyfer Addysg, sef yr ‘Offeryn Mesur ar gyfer Addysg Entrepreneuriaeth’.
Macedonia Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd yn amlygu pwysigrwydd y cymhwysedd hwn, ac atgynhyrchir hyn yn Strategaeth Addysg 2018. Defnyddir EntreComp yn aml yn sail i addysgu a dysgu entrepreneuraidd yn y wlad. Yn ogystal â chael ei gydnabod yn gymhwysedd trosglwyddadwy sy'n berthnasol i bob pwnc, mae dysgu entrepreneuraidd hefyd yn cael ei gynnwys fel pwnc ynddo'i hun mewn ysgolion uwchradd. Sbaen
Ar lefel genedlaethol, mae cymhwysedd allweddol entrepreneuriaeth wedi'i gynnwys yn neddf addysg 2015, a rhaid ei gysylltu'n agos â'r amcanion dysgu a ddiffinnir ar gyfer addysg gynradd, uwchradd a'r
11
fagloriaeth. Ar lefel Cymunedau Annibynnol, mae sylw sylweddol yn cael ei roi i EntreComp mewn polisi ac ymarfer rhanbarthol. Er enghraifft, mae Extremadura yn cynnig cyfres o ddeunyddiau, o'r lefel gynradd i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, y mae EntreComp yn sail iddi. Tabl 2 Cyfeiriadau at EntreComp mewn gwledydd gwahanol yn Ewrop
Myfyrio Gan ddefnyddio'r Cardiau Athrawon EntreComp a lawrlwythwyd yn yr ymarfer blaenorol, dewiswch un o'r 15 o gymwyseddau yn EntreComp, a meddyliwch am yr hyn y mae'r cymhwysedd yn ei olygu i chi'n bersonol. Trafodwch eich cymhwysedd EntreComp dewisol â chyd-weithiwr addysg. A ydych yn arddel yr un safbwyntiau o ran yr hyn y mae'r cymhwysedd hwn yn ei olygu i ddysgwyr? A yw hyn yr un fath â'r disgrifiad o'r cymhwysedd yn y ddogfen EntreComp Ar Waith, neu'n wahanol? Rhannwch eich myfyrdodau â'ch hyfforddwr yn LoopMe. https://bantani.com/wp-content/uploads/2020/10/EntreCompTeacher-Cards-CYM.pdf
12
Tasg 1.2 Rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd i bawb 1.2.1 Rhoi gwerth ar gymwyseddau entrepreneuraidd yn eich myfyrwyr Pa fath o addysg ydych chi'n rhoi gwerth arni ac yn ei hystyried yn bwysig? Beth yr ydych am i'ch myfyrwyr ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud pan fyddant yn gadael eich ysgol neu goleg? A yw eich ateb yn cynnwys unrhyw un o'r canlynol: ‘yn dda am gyfathrebu’, ‘bod yn greadigol’, ‘llawn dychymyg’, ‘cyd-dynnu ag eraill’, ‘llawn cymhelliant’, ‘hunanymwybodol’, ‘yn ddigon hyderus i ymdopi â rhwystrau’, ‘dyfalbarhad’, ‘moesegol’ a ‘gweithredu mewn modd cynaliadwy’? Os felly, rydych eisoes yn rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd. Mae sefydliadau tebyg i'r Comisiwn Ewropeaidd, ynghyd â nifer cynyddol o lywodraethau, yn gwybod bod addysg entrepreneuraidd yn bwysig mewn byd sy'n newid yn gyflym. Maent am weld hyn yn cael ei addysgu yn fwy aml yn yr ysgol. Y rheswm dros hyn yw bod yr agwedd hon at ddysgu yn gallu gwneud y canlynol: 1. eich helpu i adeiladu ar chwilfrydedd a chreadigrwydd naturiol y dysgwyr, e.e. trwy roi lle, amser ac adnoddau iddynt archwilio eu cynefin 2. eich helpu i ennyn diddordeb y dysgwyr ym mhroblemau heriol y byd go iawn, gan eu galluogi i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, e.e. trwy brosiectau cymunedol 3. eich helpu i arfogi'r dysgwyr â'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau y mae arnynt eu hangen ar gyfer y dyfodol, ac y mae galw mawr amdanynt, e.e. datrys problemau, meddwl mewn modd hyblyg a chreadigrwydd. 4. eich helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion a'r byd y tu allan, gan yn aml wella rhagolygon y myfyrwyr o ran cyflogadwyedd, e.e. cysylltu'r gymuned a busnes â'r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth, galluogi
13
cyflogwyr
posibl
i
gymryd
rhan
mewn
asesiadau
ffurfiannol,
trwy
brentisiaethau, defnyddio cynlluniau entrepreneuriaid preswyl, neu ymweliad â dinasyddion entrepreneuraidd i siarad am eu bywydau a'u gwaith. 5. eich helpu i gefnogi'r dysgwyr i gyfrannu at gymdeithas fwy cynhwysol, e.e. trwy rannu modelau rôl cadarnhaol o grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, e.e. menywod, mudwyr, unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac unigolion ag anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, mae yna heriau i'w goresgyn. Mae'r rhain yn cynnwys athrawon nad oes ganddynt amser yn y cwricwlwm, galwadau anhyblyg y cwricwlwm, gwybodaeth
a
hyfforddiant
proffesiynol
annigonol,
neu
gysylltiadau
entrepreneuraidd cyfyngedig â'r byd y tu allan i'r ysgol. Mae EntreCompEdu a'r modiwlau Datblygiad Proffesiynol Parhaus hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i oresgyn yr heriau hyn.
14
1.2.2 Rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd yn eich dull addysgu I ddangos eich bod yn rhoi gwerth ar addysg entrepreneuraidd, mae yna bedwar peth y gallwch eu gwneud, ac mae pob un ohonynt yn egwyddorion allweddol ar gyfer cyfranogi yn yr hyfforddiant hwn. 1. Meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg entrepreneuraidd ar gyfer eich dull addysgu Trwy'r modiwlau hyn, byddwn yn darparu amrywiaeth o dasgau i ehangu eich gwybodaeth. A bydd y tasgau hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer pethau i'w darllen, trafodaethau, arsylwadau a myfyrdodau. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y deunyddiau, bydd angen i chi gymryd rhan yn yr ymarferion hyn! Y ddwy ddogfen hyn yw'r testun sylfaenol ar gyfer dechrau gwella eich dealltwriaeth o addysg entrepreneuraidd – ewch ati i'w darllen!
15
Deunyddiau darllen Yr hyn y maent yn eu cynnig ... penodedig ... EntreComp Ar Waith [y man cychwyn a argymhellir]1
Mae'r ddogfen hon yn canolbwyntio ar fframwaith EntreComp lefel yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n ganllaw ymarferol ar sut i ddeall a defnyddio EntreComp. Mae'n dangos i chi sut y caiff pob cymhwysedd EntreComp ei rannu ymhellach yn llinynnau dysgu, gan ddarparu pont glir rhwng y cymwyseddau a dysgu. Gall hyn lywio'r broses o ddylunio cwricwlwm, gosod nodau dysgu a nodi deilliannau dysgu o ran dysgu entrepreneuraidd. http://publications.jrc.ec.europa.eu/repository/bitstream /JRC109128/jrc109128_entrecomp_into_action__final.pdf
EntreCompEdu:
Mae
hwn
yn
darparu
esboniad
manylach
o'r
Fframwaith
cymwyseddau sydd yn y Fframwaith EntreCompEdu.
Cymwyseddau
Mae'n eich galluogi i weld pam a sut y maent wedi cael
Proffesiynol ar gyfer
eu cynnwys, a hynny mewn fframwaith cymwyseddau
Athrawon a
proffesiynol sy'n cefnogi athrawon a hyfforddwyr i
Hyfforddwyr2
gyflwyno cymwyseddau EntreComp trwy eu haddysgu. https://issuu.com/home/published/entrecompedu_fra mework_cym
Tabl 3 Cyfeiriadau allweddol i ehangu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth entrepreneuraidd
1
Ar gael yn: http://publications.jrc.ec.europa.eu/repository/bitstream/JRC109128/jrc109128_entrecomp_into _action_-_final.pdf 2 https://issuu.com/bantaniedu/docs/entrecompedu_framework_cym
16
2. Byddwch yn esiampl o'r ymddygiadau entrepreneuraidd yr ydych yn eu disgwyl gan eich myfyrwyr Wrth i chi ddarllen trwy'r cymwyseddau a grybwyllir yn EntreComp, dylai fod yn amlwg bod nifer o'r rhain yn cyd-fynd ag addysgu da, e.e. bod yn greadigol (1.2), cymell myfyrwyr (2.2) a sgiliau o ran cynllunio a rheoli (3.2). Dylai un o nodweddion bod yn entrepreneuraidd – creu gwerth – fod â chyswllt agos â'ch uchelgais o ran yr hyn yr ydych am ei wneud. Mae eich dulliau addysgu da yn anelu at ychwanegu gwerth at ddysgu'r myfyrwyr. Felly, mewn rhai achosion, gallech ganfod bod dim ond mireinio'r hyn yr ydych yn ei ddweud ac yn ei wneud yn gallu ysbrydoli'r dysgwyr i ymddwyn mewn ffordd entrepreneuraidd. Er enghraifft, os byddwch yn addysgu hanes, gallech ddefnyddio enghreifftiau o ymddygiad entrepreneuraidd ymhlith pobl yn y gorffennol. Neu, mewn Mathemateg, gallech ganolbwyntio ar y modd y mae masnachwyr mewn marchnadoedd stryd yn cymhwyso sgiliau rhifedd yn y byd go iawn. Mewn achosion eraill, mae'n bosibl y bydd angen i chi ailfeddwl am eich dull mewn modd mwy radical fel bod arwahanrwydd entrepreneuriaeth yn dod i'r amlwg. Er enghraifft, trwy newid eich addysgeg i roi rhagor o gyfleoedd i'r myfyrwyr gydweithredu, i ofyn cwestiynau ‘Beth pe bai …?’, ac i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
3. Defnyddio ymarfer bwriadol i feithrin eich cymwyseddau Mae'r cysyniad o ymarfer bwriadol yn sail i'r broses o gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi athrawon hon, ac yn allweddol iddi, gan ofyn i chi ymarfer yr hyn yr ydych yn ei ddysgu yn y modiwlau yn fwriadol yn eich gwaith addysgu (yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi) a gyda'ch dysgwyr.
17
Cyflwynwyd y ddamcaniaeth gan Anders Ericsson, a aeth ati i archwilio'r modd y daeth pobl o bob cefndir i fod y mwyaf llwyddiannus yn eu meysydd, er enghraifft chwaraeon, busnes a cherddoriaeth. 3 Un peth sy'n gyffredin rhwng Ronaldo, Bill Gates a'r Beatles yw eu hymrwymiad i wella eu perfformiad trwy ymarfer mewn ffordd fwriadol, benodol a systematig. Nid ymarfer ailadroddus yn unig yw hyn (Ffigur ). Yn hytrach, mae iddo ffocws bwriadol ar y dewis o sgiliau i'w gwella. Mae'n golygu adborth manwl gan hyfforddwyr gwybodus, yn ogystal â mireinio'r sgiliau hyn dros gyfnod hir trwy brofi a methu.
Ffigur 4 Y gwahaniaeth rhwng ymarfer rheolaidd a bwriadol
Trwy gymryd camau bach a gweithredu yn unol ag adborth, gall pawb wella eu perfformiad ym mhob agwedd ar fywyd, gan eich cynnwys chi, yr athro, wrth i chi archwilio ffyrdd newydd o hwyluso'r broses o ddysgu ac asesu.
3
Ericsson, A. (2008) ‘Deliberate Practice and Acquisition of Expert Performance: A General Overview’ ar gael yn: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1111/j.1553-2712.2008.00227.x I weld crynodeb defnyddiol o ymarfer bwriadol, ewch i https://jamesclear.com/deliberatepractice-theory
18
Tasg hyfforddi LoopMe 1.2. Gwylio fideo am y Cwmpawd Dysgu 2030 Er mwyn cael syniad ynghylch lle y mae dysgu entrepreneuraidd yn ffitio yn y darlun addysgiadol mwy, gwyliwch y fideo byr hwn ar y Cwmpawd Dysgu 2030, a gynhyrchwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yna ystyriwch y ddau gwestiwn canlynol: 1. Pa bwys a roddir ar greu gwerth, sydd wrth wraidd dysgu entrepreneuraidd? 2. Pa negeseuon allweddol yr ydych wedi eu dysgu gan y fideo ac sy'n peri i chi feddwl mewn ffordd wahanol am eich ymarfer? (Gallech ystyried yr effaith ar eich ymarfer o safbwyntiau gwahanol, megis chi eich hun, eich addysgu, eich myfyrwyr, eich pwnc, eich cyd-weithwyr, eich profiadau, eich dulliau gweithio.) Rhannwch eich myfyrdodau yn Nhasg 1.2 Modiwl 1 ENTRECOMPEDU
Link: https://youtu.be/M3u1AL_aZjI
19
Tasg 1.3
Deall sut y mae myfyrwyr yn meithrin cymwyseddau entrepreneuraidd
1.3.1 Egwyddorion arweiniol addysgeg entrepreneuraidd effeithiol A chithau'n athro, mae'r hyn yr ydych yn ei ddweud, yn ei feddwl ac yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth yn wirioneddol bwysig. Addysgu yw'r ffactor pwysicaf un yn yr ysgol o ran gwella dysgu'r myfyrwyr.
4
Mae natur cymwyseddau
entrepreneuraidd (e.e. creadigrwydd, cymryd risgiau a gweithio gydag eraill) yn cynyddu pwysigrwydd rôl yr athro hyd yn oed yn fwy, a hynny oherwydd bod yna fwy o ffocws ar y broses o ddysgu. Y rheswm dros hyn yw bod y cymwyseddau sy'n anodd eu cyrraedd ac a welir yn EntreComp yn cael eu hysgogi trwy gael profiadau dysgu, ymateb i'r profiadau hynny, a dysgu trwy'r broses honno. Mae'r datblygiad proffesiynol hwn wedi nod chwe egwyddor arweiniol y gall athrawon eu defnyddio i wella'r cyfle i'ch myfyrwyr feithrin cymwyseddau entrepreneuraidd trwy brofiadau dysgu, a hynny yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt. Rydych yn siŵr o adnabod nifer o'r rhain, neu bob un ohonynt. Ond y pwnt allweddol i fyfyrio arno yw’r graddau y mae eich addysgeg yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn bob dydd. Yma, rydym yn cyflwyno'r egwyddorion arweiniol hyn, a bydd y cwrs yn adeiladu rhagor arnynt yn y modiwlau eraill.
4
Ymddiriedolaeth Sutton (2011) Improving the impact of teachers on pupil achievement in the UK – interim findings.
20
1. Mae'n hwyluso meddwl creadigol trwy gydol y broses ddysgu Dros chwe deg mlynedd yn ôl, awgrymwyd mai cyfrifoldeb addysgwyr yw ‘adnabod talent greadigol, a darparu'r math o amgylchedd perffaith a fydd yn hwyluso'r broses o ddatblygu a mynegi'r dalent hon’.5 Gwyddom ’nawr nad yw ‘talent’ o’r fath wedi’i chyfyngu i nifer bach o unigolion artistig. Mae gan bawb y potensial i fod yn greadigol, a hynny mewn ffyrdd sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r celfyddydau. Yn hanesyddol, nid yw meithrin creadigrwydd wedi bod yn flaenoriaeth gan systemau addysgol. O ganlyniad, mynegwyd pryderon fod creadigrwydd myfyrwyr yn dirywio, a bod eu haddysg gyffredinol yn dioddef6 (gweler modiwl 4, Mynd yn Ddyfnach 4.1). Yn fwy diweddar, fodd bynnag, mae yna arwyddion mwy addawol i'w gweld. Mae gwneuthurwyr polisïau, dylunwyr cwricwla ac ymarferwyr yn darganfod ffyrdd o feithrin meddwl creadigol ar draws pynciau ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau, a hynny heb golli golwg ar yr angen i sicrhau safonau uchel mewn meysydd megis llythrennedd a Mathemateg. Mae hwyluso meddwl creadigol trwy gydol y broses ddysgu yn golygu helpu'r myfyrwyr i archwilio a gwerthuso nifer o syniadau er mwyn creu gwerth. Mae'n golygu annog y myfyrwyr i ystyried posibiliadau a bod yn barod i newid yn unol â syniadau ac atebion gwahanol. Mae'n eu galluogi i brofi syniadau, i wneud cymariaethau, ac i fyfyrio'n barhaus ar ddefnyddioldeb eu hatebion arfaethedig i broblemau (a'u haddasu). Mae cynhyrchu syniadau sydd o werth i chi eich hun ac yna i eraill wrth galon yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn entrepreneuraidd; mae creadigrwydd yn llywio'r syniadau hyn a'r modd y cânt eu cynllunio a'u gweithredu.
5
Hahn, M. (1968) Review of Research on Creativity, Prifysgol Minnesota, t.1. Kyung Hee Kim (2011) ‘The Creativity Crisis: The Decrease in Creative Thinking Scores on the Torrance Tests of Creative Thinking’, Creativity Research Journal, 23:4, 285-295. 6
21
2. Mae'n hyrwyddo dysgu entrepreneuraidd gweithredol trwy gyd-destunau yn y byd go iawn Mae dysgu entrepreneuraidd gweithredol yn digwydd pan fo'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dilys sy'n ysgogi meddwl creadigol. I'r gwrthwyneb, mae dysgu goddefol yn gysylltiedig â'r myfyrwyr yn eistedd gyda'u dosbarth ac yn gwrando ar yr athro'n defnyddio dull ‘siarad a sialc’, neu'n gweithio trwy ymarferiadau mewn gwerslyfrau; nid yw'r un o'r dulliau hyn yn gofyn am lawer o feddwl. Mae hyn yn wawdlun i raddau, ac nid yw'r gwahaniaeth mor amlwg bob amser. Er enghraifft, gall myfyrwyr wrando’n astud ar ddarlith a roddir gan siaradwr bywiog sy'n eu hannog i feddwl yn ddwfn am faterion ac i fyfyrio ar yr hyn y mae'n ei olygu iddynt. Yn yr un modd, gall unigolion gael tasgau ymarferol a chyfleoedd i gydweithredu ag eraill, ond nid ydynt yn gwneud llawr o gynnydd o ran eu dysgu oherwydd bod y tasgau'n rhy arwynebol. Ar y cyfan, fodd bynnag, caiff dysgu entrepreneuraidd ei hyrwyddo orau pan fydd y myfyrwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd i ryngweithio â'r byd y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phroblemau a materion y byd go iawn yn y gymuned a thu hwnt. Mae hyn yn golygu mwy na threfnu ymweliadau lle mae'r myfyrwyr yn cael yr wybodaeth mewn modd goddefol, a symud tuag at weithgareddau megis prosiectau cymunedol sy'n cael eu cynllunio, eu datblygu a'u gwerthuso gan y myfyrwyr mewn cydweithrediad ag eraill. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys gweithio gyda myfyrwyr mewn ysgolion neu golegau eraill, rhieni, arweinwyr cymunedol a dinesig, neu gynrychiolwyr o'r byd busnes neu ddiwydiant. Gallai'r ysgogiad ar gyfer prosiectau o'r fath gynnwys cwestiwn syml y mae'r myfyrwyr yn ei ofyn am eu cymuned, arsylw ar eu hamgylchedd, stori gyfredol yn y newyddion, senario sy'n seiliedig ar broblem a gyflwynir gan yr athro ond sydd heb ateb clir iddi, neu broblem sy'n esblygu wrth i ymchwiliad newyddion/mater cyhoeddus ddatblygu.
22
3. Mae'n meithrin cydweithrediad pwrpasol yn yr ysgol a thu hwnt Mae hen ddihareb o Affrica yn awgrymu: ‘os ydych am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych am fynd ymhell, ewch gyda'ch gilydd’. 7 Un o ganfyddiadau allweddol ymchwil sy'n seiliedig ar yr ymennydd yw ein bod wedi ein gwifrio i gysylltu ag eraill. Mae niwrowyddonwyr wedi darganfod bod cynllun ein hymennydd yn gynhenid gymdeithasol.8 Pan fo pobl yn cwrdd â'i gilydd, mae dolen adborth yn dechrau wrth i'r ymennydd anfon a derbyn llif o signalau. Mae pobl ifanc hefyd yn cael pleser o fod yn aelod o grŵp cyfoedion ac o siarad â'i gilydd. Mae arnynt angen bod gyda'i gilydd. Yn un o sgiliau bywyd, mae angen i fyfyrwyr ddysgu sut i gyd-dynnu â phobl eraill. Mae angen iddynt feithrin sgiliau cymdeithasol a chymhwysedd emosiynol fel eu bod yn ffitio yn y gweithle, yn sefydlu perthnasoedd parhaol, ac yn rhannu diddordebau ag eraill. Mae'r Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF, 2018) yn diffinio dysgu cydweithredol fel ‘dull sy'n golygu bod y disgyblion yn cydweithio ar weithgareddau a thasgau dysgu, a hynny mewn grwpiau digon bach fel bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y dasg ar y cyd a glustnodwyd. Gall y disgyblion weithio ar dasgau ar wahân sy'n cyfrannu at ganlyniad cyffredinol, neu gydweithio ar dasg a rennir.’9 Mae'r EEF yn dadlau bod effaith dysgu cydweithredol yn gyson gadarnhaol, ond mae'n cyfaddef bod maint y grŵp a chynllunio gwael yn gallu effeithio ar hyn. Mae'r dysgu sy'n cael yr effaith fwyaf yn digwydd pan fo'r tasgau wedi'u cynllunio'n dda ac mae yna amser i'r myfyrwyr siarad a rhyngweithio.
4. Mae'n annog y myfyrwyr i greu gwerth ar gyfer eraill trwy eu dysgu Ystyr addysgeg sy'n creu gwerth yw pan fo athrawon yn cefnogi dysgu eu myfyrwyr trwy gymhwyso eu cymwyseddau (yn y dyfodol neu gyfredol) i greu 7
Dyfynnwyd gan Hemming, H. (2011) Together, John Murray, t.63. Goleman. D. (2007) Social Intelligence, Arrow Books. 9 EEF (2018) Teaching and Learning Toolkit – collaborative learning. Mae'r prosiect Dysgu Cydweithredol (2018) yn rhwydwaith o athrawon sy'n rhannu adnoddau i gefnogi gwaith grŵp effeithiol a ‘siarad ar gyfer dysgu,’ www.collaborativelearning.org 8
23
rhywbeth sydd o werth i o leiaf un rhanddeiliad allanol. Gallai hwn fod yn rhanddeiliad y tu allan i'r grŵp, y dosbarth neu'r ysgol eu hun. Gall y gwerth y mae myfyriwr yn ei greu ar gyfer rhywun arall fod yn economaidd, yn gymdeithasol neu'n ddiwylliannol. Mae EntreComp yn cydnabod yn groyw werth dysgu sy'n creu gwerth ar gyfer eraill (gweler y diffiniad mewn tasgau cynharach) fel modd o feithrin cymwyseddau entrepreneuraidd. Mae'n ymwneud â myfyrwyr yn cymryd rhan ar lefel nad oeddent wedi'i phrofi'n faenorol, a hynny gyda'r wybodaeth benodol bod eu dysgu yn dwyn gwerth y tu hwnt i'w hystafell ddosbarth, ynghyd â gwybodaeth am y gwerth hwnnw. O safbwynt yr addysgwr, diben y drefn hon yw dysgu dyfnach, a gwneir hyn trwy eu grymuso i greu gwerth ar gyfer eraill. Gall y dull hwn effeithio ar ymgysylltiad y dysgwyr gan fod y dysgwyr yn dod yn fwy brwdfrydig wrth iddynt greu gwerth ar gyfer rhywun arall.
5. Mae'n ysgogi myfyrio, meddwl yn hyblyg a dysgu trwy brofiad Mae ymarfer myfyriol wedi cael ei gymeradwyo'n helaeth ers nifer o flynyddoedd fel dull pwysig o gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon.10 Un o'r nodau yw cynyddu ymwybyddiaeth o'ch addysgu a'ch effeithiolrwydd eich hun o safbwyntiau gwahanol. Felly, er enghraifft, mae Brookfield yn awgrymu ein bod yn gweld gwersi trwy bedair lens: yr athro, y myfyriwr, a syniadau cyd-weithwyr a llenyddiaeth arbenigol ehangach (gweler Modiwl 5). Mae cymharu a myfyrio ar y syniadau hyn yn galluogi athrawon i sefydlu barn gyflawn ar effaith eu haddysgu ar ddysgu'r myfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod angen i athrawon feddu ar feddwl agored a mynd ati i feddwl mewn modd hyblyg am y ffordd y maent yn cynllunio, addysgu ac asesu. 10
Kolb, D. A. (1984). Experiential Learning: Experience as the Source of Learning and Development. Englewood Cliffs, N.J., Prentice Hall; Schön, D. A. (1987). Educating the Reflective Practitioner: Toward a New Design for Teaching and Learning in the Professions. San Francisco, Jossey-Bass; Dewey, J. (1910). How we Think. Boston, D.C. Heath & Co.
24
Weithiau, mae'n bosibl y byddant yn cynllunio gwersi ar hyd trywydd amcanion dysgu penodedig, ond bryd arall gallant fod yn cynllunio mewn modd mwy agored, lle bydd y myfyrwyr yn gosod eu nodau eu hunain y maent yn gobeithio eu cyflawni mewn prosiect entrepreneuraidd. Mae hyn yn gofyn am barodrwydd i ddysgu trwy brofiad, croesawu camgymeriadau yn rhan o ddysgu o'r fath, a chymryd risgiau wrth addysgu a dysgu. Trwy fodelu ymddygiad o'r fath, gall athrawon greu'r math o hinsawdd sy'n gydnaws â dysgu entrepreneuraidd. Trwy ganiatáu i'r myfyrwyr ymarfer yr ymddygiadau hyn, anogir y broses o feithrin cymwyseddau entrepreneuraidd.
6. Mae'n sicrhau bod cymwyseddau entrepreneuraidd yn rhan amlwg o ddysgu ac asesu Yn ddiweddar, rhoddwyd pwyslais cynyddol ar sicrhau bod y broses o ddysgu yn weladwy i'r myfyrwyr a'r athrawon. Yn fwyaf enwog, mae John Hattie yn amlygu'r angen i athrawon fod yn glir ynghylch eu hymarferion a'r effaith y maent yn ei chael ar ddysgu'r myfyrwyr. Yn ôl Hattie, llwyddiant yw pan fo myfyrwyr yn eu haddysgu eu hunain. 11 Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Harvard hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod y dulliau meddwl (sydd ynghudd yn ein pennau) yn weladwy fel y gall y broses o feddwl gael ei gwella. 12 Maent yn awgrymu y dylid defnyddio gwahanol drefnau meddwl, sy'n strwythurau syml wedi'u cysylltu â mathau gwahanol o feddwl. Er enghraifft, er mwyn annog y myfyrwyr i fyfyrio ar sut a pham y mae eu ffordd o feddwl wedi newid, maent yn defnyddio'r strwythur: ‘Roeddwn yn arfer meddwl … 'nawr rwy'n meddwl …’ Mae nifer o ysgolion yn defnyddio'r strwythur ‘Meddwl-Paru-Rhannu’ i hwyluso'r broses o resymu ac egluro trwy drafodaeth pâr.
11 12
Hattie, J. (2013) Visible Learning for Teachers: Maximizing Impact on Learning, Routledge.
http://www.visiblethinkingpz.org/VisibleThinking_html_files/01_VisibleThinkingInAction/01b_W hyMake.html
25
Yn yr un modd, er mwyn gwella ansawdd dysgu entrepreneuraidd, mae angen i ni egluro'r hyn a ddisgwylir gan y myfyrwyr. Mewn gwersi, mae hyn yn golygu sicrhau eu bod yn glir ynghylch y nodau dysgu entrepreneuraidd, ynghyd â'r meini prawf i'w cyflawni. Mae gofyn i athrawon gydweddu eu hasesiadau â'r amcanion, a sicrhau bod y myfyrwyr yn cael digon o gyfleoedd i arddangos cymwyseddau entrepreneuraidd. Mae angen i'r addysgu yn ystod gwersi, ynghyd â'r adborth a ddarperir (gan athrawon, myfyrwyr ac eraill) ffocysu'n benodol ar gymwyseddau entrepreneuraidd a chanolbwyntio ar ba mor dda y mae'r myfyrwyr yn cydweithredu ac yn troi eu syniadau yn weithredoedd. Yn syml, creu gwerth ar gyfer eraill. Mae hwn yn angen brys oherwydd, yn rhy aml, nid yw cymwyseddau entrepreneuraidd yn cael eu hamlygu mewn prosesau dysgu ac asesu cyfredol.13
13
Eurydice (2016) Entrepreneurship Education at School in Europe, Y Comisiwn Ewropeaidd.
26
1.3.2 Y modd y mae damcaniaethau dysgu yn cysylltu ag addysg entrepreneuraidd Mae damcaniaethau dysgu yn esboniadau o beth yn union sy'n digwydd wrth i ni ddysgu. Ac mae dealltwriaeth sylfaenol o'r modd y mae dysgu yn digwydd yn hanfodol i addysgu cymwyseddau entrepreneuraidd. Pam
y
mae'n
ddefnyddiol
gwybod
hyn?
Mae'n
dangos
perthnasedd
cymwyseddau entrepreneuraidd ledled y sbectrwm addysg a hyfforddiant. Mae pob un o'r damcaniaethau hyn yn dylanwadu ar ymarferion entrepreneuraidd, ac yn berthnasol i'r broses o ddatblygu rhai, neu bob un, o gymwyseddau EntreComp. Mae lluniadaeth gymdeithasol yn ystyried dysgu yn broses weithredol o lunio ystyr trwy ryngweithio ag eraill gan ddefnyddio ‘offer’ diwylliannol, er enghraifft iaith, llyfrau, y cyfryngau cymdeithasol a symbolau. Yn hynny o beth, y ffordd orau o'i hystyried yw fel damcaniaeth ‘ymbarél’, y caiff nifer o ddulliau eu hargymell oddi tani, e.e. dysgu seiliedig ar ymholiadau, dysgu seiliedig ar brosiectau, dysgu seiliedig ar broblemau [trafodir y rhain ym modiwl 3]. Mae ymddygiadaeth yn egluro dysgu fel ymateb i symbyliad, er enghraifft yn atebion y myfyrwyr i gwestiynau gan athrawon, neu wrth gynnal cystadlaethau ar gyfer arloeswyr ifanc. Ar y lefel symlaf, mae'n adlewyrchu safbwynt bod dysgu yn ymateb i addysgu trwy ddweud. Gellir ei gweld hefyd mewn rhaglenni sy'n seiliedig ar gymhwysedd, lle yr arsylwir ar y myfyrwyr yn cyflawni sgiliau, er enghraifft mewn lleoliadau addysgu galwedigaethol a thechnegol. Er nad yw ymddygiadaeth yn ddamcaniaeth ddysgu boblogaidd – yn enwedig ar gyfer meithrin cymwyseddau entrepreneuraidd, mae'n un o'r damcaniaethau dysgu sy'n llunio addysg entrepreneuraidd. Er enghraifft, os bydd athro yn cynnal cystadleuaeth sy'n gymhelliad i ddysgu, yna mae hynny'n enghraifft o ddamcaniaeth ymddygiadol ar waith.
27
Mae'r ddamcaniaeth wybyddol yn ystyried dysgu fel newid mewn prosesau meddyliol, megis arsylwi a dosbarthu. Mae'n honni bod ymddygiadaeth yn rhoi gormod o bwyslais ar ymddygiad amlwg i egluro dysgu. Yn hytrach, mae seicolegwyr gwybyddol yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yn y meddwl, ynghyd â phwysigrwydd cof ac adeiladu ar wybodaeth flaenorol. Rhoddir pwyslais ar feithrin sgiliau cynllunio a hunanreoli trwy ddefnyddio offer gweledol, mapiau meddwl a siartiau llif. Mae'r ddamcaniaeth ddyneiddiol yn pwysleisio'r daioni cynhenid mewn pobl, ynghyd â'u gallu i ddysgu o ran twf a hunangyfeirio. Mae'n ystyried dysgu yn gyflawniad personol, hunangyfeiriedig, ac yn awgrymu bod damcaniaeth wybyddol yn bychanu rôl emosiwn. Er enghraifft, mae dysgu sut i reoli rhwystrau yn un o sgiliau bywyd. Ac mae pobl greadigol iawn yn dweud bod yr ymdeimlad o gyflawniad y maent yn ei gael o'u gwaith yn golygu llawer iawn iddynt. Gellir gweld y ddamcaniaeth hon ar waith pa fydd myfyrwyr yn cyfrannu at brosiectau cymunedol er mwyn ‘rhoi rhywbeth yn ôl’, gan ychwanegu gwerth cymdeithasol. Mae'r ddamcaniaeth dysgu cymdeithasol (a ailenwyd yn ddamcaniaeth wybyddol
gymdeithasol
yn
ddiweddarach)
yn
defnyddio
safbwyntiau
ymddygiadol a gwybyddol. Mae'n gweld dysgu yn digwydd wrth i unigolion ryngweithio ag eraill a'u hamgylchedd. Dyma pryd y mae unigolion yn dysgu sut y maent yn ‘cyd-dynnu’ ag eraill, a pha ymddygiad sy'n briodol mewn cyddestunau penodol. Mae rhaglenni mentora a chymryd rhan mewn rhwydweithiau entrepreneuraidd yn enghreifftiau o'r ddamcaniaeth hon ar waith. Mae cysylltiaeth yn ddamcaniaeth ddiweddar sy'n awgrymu ein bod, mewn byd o dechnolegau, yn dysgu'n gynyddol trwy ffurfio cysylltiadau (nodau) mewn rhwydweithiau digidol. Gall y nodau hyn fod yn bobl neu'n adnoddau megis y cyfryngau cymdeithasol. Cysylltiaeth sydd y tu ôl i ddatblygiadau megis cyrsiau ar-lein agored a phwysigrwydd rhwydweithiau entrepreneuraidd (gweler modiwl 5).
28
Mae cymhlethdodau dysgu entrepreneuraidd yn golygu nad oes yr un ddamcaniaeth yn gwbl wir ym mhob cyd-destun. Dros amser, mae'r damcaniaethau ymddygiadol, gwybyddol, dyneiddiol, cymdeithasol a lluniadol oll wedi cael rhywfaint o ddylanwad o ran egluro sut y mae dysgu entrepreneuraidd yn digwydd.
14
Fodd bynnag, yn ddiweddar, bu yna symudiad oddi wrth
esboniadau sy'n pwysleisio ‘dysgu trwy gyfarwyddyd penodol ac mewn ffyrdd a ddiffinnir ymlaen llaw’ (y damcaniaethau gwybyddol ac ymddygiadol), tuag at y rheiny sy'n amlygu dysgu entrepreneuraidd fel proses lle mae cysyniadau yn tarddu o brofiad ac yn cael eu haddasu o ganlyniad i'r profiad hwnnw (dysgu cymdeithasol a phrofiadol).15 Mae Robinson et al (2016) yn awgrymu y gall fod yn fanteisiol i addysgwyr ac ymchwilwyr alw ar ddamcaniaethau dysgu gwahanol a'u cyfuno er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth entrepreneuraidd.
16
Mae
damcaniaethau dysgu yn bwysig oherwydd eu bod yn grymuso addysgwyr, fel gweithwyr proffesiynol, i wneud penderfyniadau gwybodus a chyfiawnhau eu penderfyniadau i eraill.
14
Toutain, O. a Byrne, J. (2012) ‘Learning theories in entrepreneurship: new perspectives’, Papur Cynhadledd, cynhadledd yr Academi Rheolwyr. Ar gael yma: https://www.researchgate.net/publication/265087921_Learning_theories_in_entrepreneurship_n ew_perspectives; 15 I gael y drafodaeth lawn, gweler Harrison, R. a Leitch, C.M. (gol.) (2008) Entrepreneurial Learning: Conceptual Frameworks and Applications, Routledge. 16 Robinson, S., Neergaard, H., Tanggaard, L. a Krueger, N. (2016), ‘New horizons in entrepreneurship: from teacher-led to student-centered learning’, Education + Training, Cyfrol 58 Rhif 7/8.
29
Rhannu Ewch ati i drafod egwyddorion arweiniol dysgu entrepreneuraidd effeithiol â chyd-weithiwr: Pa rai o'r egwyddorion arweiniol yr ydych eisoes yn eu cynnwys yn eich addysgu? Rhannwch enghraifft â nhw. Rhannwch eich trafodaethau ag eraill yn y Fforwm Grŵp Dolen i'r fforwm: dolen uniongyrchol Yn seiliedig ar egwyddorion ymarfer bwriadol, sut y gallech fynd ati i wella eich cymhwysedd proffesiynol o ran un o'r egwyddorion arweiniol nad ydych mor gyfarwydd â hi? Pwy a allai fod yn hyfforddwr da neu'n ffynhonnell dda o gyngor proffesiynol? Ble arall y gallech gael adborth medrus? Rhannwch eich myfyrdodau â'ch hyfforddwr yma yn LoopMe
30