Skip to main content

Prosbectws Poced 2027

Page 1


Ym Mhrifysgol Bangor, mae syniadau mawr yn cwrdd â chyfleoedd go iawn.

Rydym yn enwog am ein rhagoriaeth academaidd, ein hymchwil o'r radd flaenaf, a'n cymuned wirioneddol groesawgar a byddwn yn dy helpu troi dy frwdfrydedd yn bwrpas.

Gyda mynyddoedd godidog a thraethau hyfryd ar garreg dy ddrws, ni fydd ysbrydoliaeth byth ymhell oddi wrthyt. Ym Mangor, mae dysgu'n

mynd y tu hwnt i'r dosbarth - mae'n ymarferol, yn ddeinamig ac yn seiliedig ar y syniadau diweddaraf sy'n trawsnewid y byd. Byddi di’n cael dy ddysgu gan academyddion blaenllaw y mae eu darganfyddiadau'n trawsnewid diwydiannau, yn gwella bywydau ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang.

BANGOR?

Agosach nag y byddet yn ei feddwl

Gyda ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth gwych i drefi a dinasoedd eraill, gan gynnwys Caer, Lerpwl, Manceinion

ac Aberystwyth, ynghyd â threnau uniongyrchol i brifddinas Cymru, mae Bangor mewn lleoliad cyfleus os wyt ti eisiau teithio.

Cymuned ddwyieithog

Ymuna â chymdeithasau fel côr 'Aelwyd JMJ', neu glybiau

chwaraeon y Cymric a mwynhau bywyd a diwylliant yn un o'r cymunedau mwyaf Cymreigaidd yn y wlad.

Wedi ymrwymo i gynaliadwyedd

Rydym yn yr 11% uchaf o brifysgolion mwyaf cynaliadwy'r byd (QS World University Rankings: Sustainability, 2025)gan fod llunio'r dyfodol yn dechrau gyda'i ddiogelu.

Y ddinas sy’n cynnig y gwerth gorau i fyfyrwyr

Mae Bangor wedi ei enwi fel y lle mwyaf fforddiadwy

i astudio yn y Deyrnas Unedig (NoDepositFriend.com, 2024) felly gelli wneud yn fawr o fywyd prifysgol heb wario ffortiwn.

Astudio yn Gymraeg

Gelli ddewis astudio dy radd gyfan neu ran ohoni trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cymorth ariannol ar gael os wyt ti’n cofrestru i astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg.

Ymchwil chwyldroadol

Tyrd i astudio lle mae pethau’n digwydd - cei dy ddysgu gan arbenigwyr y mae eu gwaith yn mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Mae 85% o'n hymchwil wedi ei raddio fel ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (REF, 2021).

Dy yrfa di, dy ddyfodol di

Breuddwydia freuddwydion mawr, a byddwn yn dy helpu eu gwireddu. Mae ein tîm Llwyddiant Myfyrwyr: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i dy helpu di gynllunio dy gamau nesaf a sefyll allan mewn byd cystadleuol. Mae hyfforddwyr gyrfaoedd, yn staff a myfyrwyr, yn y Stiwdio Gyrfaoedd newydd yn cynnig cefnogaeth gyda chynllunio gyrfa a gwneud cais am swyddi, ochr yn ochr â gweithdai a chyfleoedd i dy helpu sefyll allan.

Byddi’n teimlo dy fod yn cael dy gefnogi yma bob amser

Mae dechrau yn y brifysgol yn gyffrous, ond mae'n newid mawr. Mae ein harweinwyr cyfoed cyfeillgar a'n tiwtoriaid personol cefnogol yn sicrhau bod gennyt rywun i droi ato bob amser, gan dy helpu i ddod o hyd i dy le, meithrin cysylltiadau a thyfu gyda hyder. Bydd gennyt rywun i droi ato bob amser, bob cam o'r ffordd.

Pam Bangor?

YMA CAWN NEWID Y BYD

Ym Mangor, mae'r byd naturiol yn ein sbarduno ni i feddwl ar raddfa fawr a gweithredu mewn ffordd fwy beiddgar — o ran ein hymchwil rydym yn ei ddefnyddio yn y dosbarth, o ran ein gwerthoedd ac o ran ein hymrwymiad ni i'r dyfodol.

Mae Bangor ar garreg drws Parc

Cenedlaethol Eryri, ac wedi ei amgylchynu gan rai o dirweddau naturiol harddaf y Deyrnas Unedig.

Ar ôl taith fer mewn car neu ar fws, gelli ymlacio ar draethau euraidd Ynys Môn, ymweld â chestyll hanesyddol, padlo mewn llynnoedd tawel, neu gerdded i gopa un o fynyddoedd godidog Eryri.

AMSER TEITHIO

PERTHYN YM MANGOR

Hawdd mynd o gwmpas

Mae Bangor yn ddinas fach, hawdd cerdded o’i hamgylch ac mae popeth sydd ei angen arnat yn agos. P'un a wyt ti’n mynd o dy lety i ddarlith, neu'n crwydro i ganol y ddinas am goffi gyda ffrindiau, dim ond cerdded neu feicio ychydig sy’n rhaid i ti ei wneud.

Llawer i'w weld

O swyn Pier y Garth gyda'i giosgau

Fictoraidd lliwgar, i harddwch

hanesyddol Eglwys Gadeiriol Sant

Deiniol a Phont y Borth eiconig

Thomas Telford dros y Fenai, mae

Bangor yn llawn tirnodau sy'n disgwyl i ti eu darganfod.

Dinas a’i llond o hanes

Bangor yw dinas hynaf Cymru, ac agorodd y brifysgol ei drysau am y tro cyntaf ym 1884. Dros ganrif yn

ddiweddarach, mae'r byd o'n cwmpas wedi newid, ond nid yw ein hymdrechion parhaus i symud ymlaen wedi newid.

Dinas Bangor

WELCOMING CULTURE DIVERSITY HISTORY

Cymuned myfyrwyr groesawgar

Mae Bangor wir yn ddinas i fyfyrwyr, gydag un o'r cymarebau uchaf rhwng myfyrwyr a thrigolion parhaol yn y Deyrnas

Unedig. Mae tua un o bob pump o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg, a gall llawer o’r aelodau staff dy helpu a'th gefnogi yn y ddwy iaith.

Popeth sydd ei angen arnat

O archfarchnadoedd a siopau i gaffis, bwytai a thafarndai clyd - mae popeth o fewn cyrraedd hawdd. Mae yna hefyd ddigon o siopau

annibynnol a bwytai lleol, gan ychwanegu blas ychwanegol at fywyd myfyrwyr.

Llawn diwylliant

Mae Bangor yn byrlymu â chreadigrwydd.

Yng nghanol y campws, mae Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi'r brifysgol, yn dod â phobl ynghyd i weld ffilmiau, dramâu, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau creadigol - dyma'r lle perffaith i ymlacio a chael dy ysbrydoli.

Dathlu amrywiaeth

Gyda myfyrwyr o dros 120 o wledydd, mae Bangor yn gymuned wirioneddol fyd-eang. Yma mae gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd a safbwyntiau'n dod at ei gilydd - ac mae pawb yn perthyn.

WELCOMING CULTURE DIVERSITY HISTORY

MAP CAMPWS BANGOR

Pontio Neuadd

CAMPWS WRECSAM

Mae campws Wrecsam yn gartref i'n cyrsiau Radiograffeg. Mae'r campws hwn yn cynnig cymuned ddysgu glos lle byddi di'n dod i adnabod dy ddarlithwyr a dy gyd-fyfyrwyr yn iawn. Gyda chymhareb myfyrwyr-i-staff wych, byddi di’n elwa o gefnogaeth bersonol a digon o brofiadau ymarferol i dy helpu ffynnu, bob cam o'r ffordd.

Dim ond 10 munud o waith cerdded o ganol y ddinas, mae Wrecsam yn un o ddinasoedd mwyaf newydd Cymru, ar ôl cael statws dinas yn 2022 – mae'n lle bywiog sy'n gefndir perffaith i dy astudiaethau.

COSTAU BYW

Bangor: Y lle rhataf i astudio yn y Deyrnas Unedig

(NoDepositFriend.com, 2024)

Mae cost cyfleustodau, megis trydan, nwy a dŵr, ynghyd â WiFi wedi eu cynnwys os byddi di'n byw yn neuaddau’r brifysgol.

Gelli wylio’r ffilmiau diweddaraf yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, a dim ond £6.50 ydy pris tocyn myfyriwr.

Mae bron pob un o’r prif archfarchnadoedd i’w cael ym Mangor gan olygu bod rhywbeth at bob angen a phob cyllideb.

Gelli fwynhau digwyddiadau cymdeithasol sydd (gan fwyaf) yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal gan Campws Byw, ynghyd ag aelodaeth am ddim o’r gampfa yng Nghanolfan Brailsford os wyt ti'n byw mewn neuadd.

Gelli arbedu ar gostau cludiant - mae modd cerdded i bobman ym Mangor bron!

Gelli fwynhau prydau poeth fforddiadwy o ddydd Llun i ddydd Gwener yng Nghaffi Teras a Bar Uno y Brifysgol.

Mae mynediad i fannau dysgu cynnes 24/7, felly mae rhywle i fynd bob amser i gadw’n gynnes a gwefru batris.

Gall Uned Cefnogaeth Ariannol y brifysgol dy helpu i gyllidebu.

Mae mynediad at Gronfa Caledi i gefnogi myfyrwyr gyda chostau hanfodol na ellir eu rhagweld.

LLETY

Mae ein neuaddau preswyl fforddiadwy, cyfforddus a diogel yn lle perffaith i ddechrau dy daith yn y brifysgol. Byddi di'n teimlo'n gartrefol o'r eiliad y byddi di'n cyrraedd; wedi dy amgylchynu gan ffrindiau ac yng nghanol cymuned myfyrwyr fywiog Bangor, mae'n hawdd ymgartrefu a chreu atgofion gydol oes.

Gydag ychydig dros 2,600 o ystafelloedd, mae sicrwydd o lety* i bob ymgeisydd israddedig newydd yn un o’n pentrefi myfyrwyr, sef Pentref y Santes Fair neu Bentref Ffriddoedd.

*I gael manylion llawn am ein gwarant llety ewch i bangor.ac.uk/llety

OPSIYNAU

• Ystafelloedd gwely en-suite (gan rannu cegin)

• Ystafelloedd gwely fforddiadwy (gan rannu cegin ac mae rhai yn rhannu ystafelloedd ymolchi)

• Stiwdios (gydag ystafell wely en-suite a chegin fach breifat)

• Tai tref (gan rannu cegin / ystafelloedd ymolchi)

• Ystafelloedd hygyrch, gan gynnwys rhai â mynediad i gadeiriau olwyn

• Darpariaethau i fyfyrwyr ag amhariad ar y clyw

• Neuaddau i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith

• Neuaddau i fyfyrwyr gofal iechyd

• Neuaddau tawel

• Fflatiau i ferched yn unig

• Fflatiau di-alcohol

BETH SYDD WEDI EI

GYNNWYS YNG

NGHOSTAU NEUADDAU:

FFIOEDD LLETY

(yn seiliedig ar brisiau 2026/27)

Pob bil (dŵr, gwres, trydan) Wi-Fi cyflymder uchel

Atgyweirio a chynnal a chadw amserol

Ceginau ac ardaloedd a rennir

sy’n cael eu glanhau bob pythefnos Yswiriant cynnwys Aelodaeth o’r gampfa ac aelodaeth Campws Byw

Yn dechrau o £105 yr wythnos ystafell gydag ystafell ymolchi a rennir

Yn dechrau o £125 yr wythnos ystafell en-suite

Yn dechrau o £130 yr wythnos

tŷ tref gydag ystafell ymolchi a rennir

Yn dechrau o £220 yr wythnos stiwdio gydag en-suite a chegin fach breifat

PENTREF FFRIDDOEDD

Ym Mangor Uchaf mae ein pentref myfyrwyr mwyaf, a dim ond 5 munud o waith cerdded o'r orsaf drenau a 10 munud o brif adeiladau'r brifysgol mae’r safle. Mae

Pentref Ffriddoedd mewn lleoliad perffaith i fyfyrwyrmae’n agos at dy ddarlithoedd, dy ffrindiau a phopeth sydd gan y ddinas i'w gynnig.

BETH SYDD AR Y SAFLE?

• Tua 1900 o ystafelloedd - gydag ystafelloedd ymolchi en-suite

• Golchdai

• Ystafelloedd cyffredin gyda mannau astudio, mannau ymlacio ac ystafelloedd cyfrifiaduron

• Bar caffi Bar Uno

• Canolfan Chwaraeon Brailsford

Neuadd John Morris-Jones yw’r neuadd benodedig i fyfyrwyr israddedig sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dysgu Cymraeg. Gelli wneud cais i fyw yma os hoffet fyw gyda Chymry Cymraeg eraill.

PENTREF Y SANTES FAIR

Mae Pentref y Santes Fair yn bentref myfyrwyr llai ar lethrau bryn gyda golygfeydd prydferth dros y ddinas - mae’n le cyfeillgar, hamddenol a llawn cymeriad. Dim ond 5 munud o waith cerdded sydd i ganol y ddinas a thua chwarter awr i'r orsaf drenau a phrif adeiladau’r brifysgol, sy’n rhoi'r cydbwysedd perffaith i ti rhwng tawelwch a chyfleustra.

BETH SYDD AR Y SAFLE?

• Mae tua 690 o ystafelloedd ar y safle, gan gynnwys ystafelloedd gwely en-suite, ystafelloedd fforddiadwy, fflatiau stiwdio a thai tref.

• Siop

• Golchdy

• Ystafelloedd cyffredin gyda mannau astudio, mannau ymlacio ac ystafelloedd cyfrifiaduron

• Ceginau cymunedol ac ystafell gyfarfod

• Ystafell ffitrwydd (gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio canolfan chwaraeon Brailsford)

• Caffi Barlows

• Gofod adloniant Acapela

UNDEB Y MYFYRWYR

Mae dechrau yn y brifysgol yn gam mawr. Undeb Bangor yw eich Undeb Myfyrwyr chi, ac rydym yma i lunio dy brofiad myfyrwyr a'th helpu i wneud yn fawr ohono o'r diwrnod cyntaf.

Rydym yn cefnogi dros 10,000 o fyfyrwyr trwy gynrychiolaeth, digwyddiadau, cymdeithasau, chwaraeon, gwirfoddoli a chyngor academaidd. O gynnal ymgyrchoedd a chynrychioli dy ddiddordebau academaidd, i ddarparu cefnogaeth a chreu cyfleoedd i gysylltu, dysgu a chael hwyl, mae Undeb Bangor yn ganolog i fywyd myfyrwyr.

Undeb Myfyrwyr Cymraeg

Bangor (UMCB)

Rydym yn falch o fod yn ddwyieithog ac yn gynhwysol. Mae

UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn rhan o Undeb Bangor ac yn gweithio i hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a'r gymuned Gymreig ar y campws. P'un a wyt ti’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr, neu gyda diddordeb mewn diwylliant Cymru, gelli di gymryd rhan.

Mae UMCB yn cefnogi amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau, yn ogystal ag ymgyrchoedd, i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywyd ym Mangor. Nid oes rhaid i ti fod yn rhugl i gymryd rhan, mae bod yn frwdfrydig yn ddigon!

CYMRYD RHAN

Ym Mangor, mae yna lwythi o weithgareddau a chwaraeon - mae'n ffordd berffaith o wneud ffrindiau, cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar rywbeth hollol newydd.

Mae ein digwyddiad croeso mwyaf yn y flwyddyn, Serendipedd, yn digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso. Bydd yna dros 150 o stondinau a redir gan grwpiau myfyrwyr, gwasanaethau prifysgol a busnesau lleol, pob un yn barod i dy helpu di i fanteisio i’r eithaf ar dy amser ym Mangor. Gelli di ddisgwyl cael digonedd o bethau am ddim, cyfleoedd cyffrous a llawer o wybodaeth am sut i gymryd rhan.

CLYBIAU CHWARAEON

Beth bynnag dy ddiddordeb, bydd yna ffordd i ti fod yn egnïol ym

Mangor. Mae yna dros 68 o glybiau

chwaraeon, ac rwyt yn siŵr o ddod

o hyd i rywbeth fydd yn dy siwtio

di! Gelli hefyd ymuno â chlybiau

chwaraeon y Cymric, sef clybiau

cyfrwng Cymraeg y brifysgol.

Mae sesiynau hyfforddi’r holl

glybiau’n cael eu cynnal yng

nghyfleusterau chwaraeon o'r radd

flaenaf yn y brifysgol. Gyda thocyn

aelodaeth yr Undeb Athletau, gelli ddewis rhwng tocyn arian neu docyn aur (tocyn cystadlu

Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau

Prydain), am gyn lleied â £50. Mae'r taliad untro hwn yn rhoi mynediad

i ti i bob clwb chwaraeon, felly gelli roi cynnig ar gynifer ag wyt ti’n dymuno.

CYMDEITHASAU

Mae cymdeithasau Bangor yn

dod â phobl ynghyd, ac mae dros

100 i ddewis o’u plith, felly mae yna rywbeth i bawb. Boed yn

grwpiau academaidd a grwpiau sy'n gysylltiedig â chyrsiau, cymdeithasau diwylliannol a rhyngwladol, clybiau sy'n seiliedig ar hobïau neu gymdeithasau Cymreig

fel côr Aelwyd JMJ, mae yna bob amser le croesawgar i gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau dy ddiddordebau.

Am £10, cei aelodaeth cymdeithas, sy’n rhoi mynediad diderfyn i ti i bob cymdeithas am y flwyddyn.

DROS 150

O GLYBIAU, CYMDEITHASAU A PHROJECTAU GWIRFODDOLI

GWNEUD GWAHANIAETH

TRWY WIRFODDOLI

Yn dy amser rhydd, gelli gymryd rhan mewn projectau gyda Gwirfoddoli

Myfyrwyr Bangor, sy'n cyfrannu

2,600 awr bob blwyddyn at brojectau cymunedol.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl, cwrdd â ffrindiau newydd ac ennill profiad gwerthfawr a all roi hwb i dy yrfa yn y dyfodol.

Gyda dros 30 o brojectau gwahanol i ddewis o’u plith, mae yna ddigon o ffyrdd i gymryd rhan mewn rhywbeth sy'n dy ysbrydoli - pob un wedi ei drefnu dan amrywiaeth o gategorïau i gyd-fynd â dy ddiddordebau a'th sgiliau.

CYNRYCHIOLAETH A CHEFNOGAETH ACADEMAIDD

Yn Undeb Bangor, rydym wedi ymrwymo i dy helpu i lwyddo’n academaidd a gwneud i dy lais gyfrif. Mae ein Gwasanaeth

Cyngor Academaidd yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol gydag unrhyw faterion academaidd, tra bod ein tîm o gynrychiolwyr ysgol gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio profiad dysgu myfyrwyr ym Mangor.

Gelli hyd yn oed ddewis bod yn gynrychiolydd ysgol dy hun!

Lles Amgylcheddol Yr Henoed Canolbwyntio ar y gymuned Plant Ymgyrchoedd a digwyddiadau codi arian

BLWYDDYN AR LEOLIAD

Mae blwyddyn ar leoliad yn gyfle anhygoel i ennill profiad yn y byd go iawn, datblygu sgiliau newydd a rhoi hwb i dy gyflogadwyedd. Ym

Mangor, mae modd gwneud blwyddyn ar leoliad fel rhan o bron pob gradd israddedig yr ydym yn eu cynnig.

Bydd gennyt amser i ystyried a yw'n iawn i ti a gelli wneud cais ar ôl dechrau dy radd, gan roi'r cyfle i ti wneud dewis gwybodus.

PAM GWNEUD BLWYDDYN AR LEOLIAD?

• Ehangu dy orwelion

• Dysgu sgiliau newydd

• Cael profiad ymarferol yn dy bwnc

• Adeiladu cysylltiadau proffesiynol gwerthfawr

• Cryfhau dy ragolygon gyrfa

ASTUDIO NEU WEITHIO DRAMOR

Mae astudio neu weithio dramor yn ffordd wych o gael profiad o ddiwylliant newydd, gweld y byd o safbwynt gwahanol a pharhau i ennill credydau tuag at dy radd. Mae'n gyfle i ehangu dy orwelion tra’n dysgu mwy am dy bwnc.

Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau israddedig ym Mangor yn cynnig blwyddyn o brofiad rhyngwladol, a bydd gennyt amser i ystyried y dewis hwn yn llawn wrth astudio, gan dy helpu i wneud y dewis sy'n iawn i ti.

BLWYDDYN SYLFAEN

Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnig blwyddyn sylfaen, gan ddarparu llwybr gyda gofynion mynediad is.

Mae blwyddyn sylfaen yn ddelfrydol os nad oes gennyt y cymwysterau i ddechrau ar gwrs lefel gradd eto neu os wyt ti'n dod yn ôl i addysg ar ôl cyfnod hir.

I fyfyrwyr rhyngwladol, mae ganddynt hefyd y dewis o wneud 'blwyddyn sero' yng Ngholeg Rhyngwladol Prifysgol Bangor, gan roi'r sgiliau a'r hyder i ti lwyddo ar lefel gradd.

BYWYD MYFYRWYR

Ym Mangor, dy lesiant di yw ein prif flaenoriaeth. O reoli arian i baratoi at dy swydd gyntaf ar ôl graddio, mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd yno i dy helpu i wneud yn fawr o dy amser yn y brifysgol.

MAE’R GWASANAETHAU

CEFNOGI MYFYRWYR YN

CYNNWYS:

• Cefnogaeth ariannol

• Cefnogaeth gydag anabledd a gwahaniaethau dysgu penodol

• Cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl, gan gynnwys cwnsela gyda rhaglen cymorth i fyfyrwyr 24/7 gan Health Assured

• Tîm y Gaplaniaeth

• Cefnogaeth Addysgu a Dysgu

P’un a oes angen arweiniad ymarferol, cyngor a chefnogaeth, neu gymorth academaidd arnat, mae rhywun yma bob amser i dy helpu di.

P'un a wyt ti'n ystyried dewisiadau gyrfa, yn ennill profiad gwaith, neu'n dechrau dy fusnes dy hun, mae Llwyddiant Myfyrwyr: Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i dy helpu meithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau ar gyfer y dyfodol.

MAE EIN CEFNOGAETH YN

CYNNWYS:

• Stiwdio Gyrfaoedd newydd sbon, sy'n cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb gyda sesiynau cynllunio gyrfa a gweithdai trwy gydol y semester

• Hyb cyflogadwyedd ar-lein gyda llond gwlad o adnoddau

• Arweiniad ar ddod o hyd i waith rhan amser, interniaethau, lleoliadau a phrofiad gwaith

Jemima Letts

Coedwigaeth (BSc), 2019

Rheolwr

Coedwigaeth yn

Ystâd Chatsworth

• Cymorth i baratoi at swyddi sy’n addas i raddedigion ac ymgeisio amdanynt

• Cyfle i gymryd rhan mewn interniaethau â thâl yn y brifysgol

• Llwybrau sgiliau yn CyswlltGyrfa - cyrsiau ar-lein wedi eu cynllunio i dy helpu i gael dy swydd ddelfrydol

BWRSARIAETHAU AC YSGOLORIAETHAU

Mae gennym nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau sydd wedi eu cynllunio i dy helpu trwy gydol dy astudiaethau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar ein gwefan.

YSGOLORIAETHAU’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

MAE YSGOLORIAETHAU AR

GAEL I FYFYRWYR SY’N

ASTUDIO NAILL AI:

• 80 credyd y flwyddyn (Prif Ysgoloriaeth, £1000 y flwyddyn) trwy gyfrwng y Gymraeg

• 40 credyd y flwyddyn (Ysgoloriaeth Cymhelliant, £500 y flwyddyn) trwy gyfrwng y Gymraeg

Rhaid sefyll arholiad mynediad Bangor er mwyn ymgeisio am y Brif Ysgoloriaeth.

DY DAITH, DY IAITH

ASTUDIO YN GYMRAEG

Ym Mangor, mae gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith y dewis i astudio eu gradd gyfan neu ran o’u gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae galw mawr am weithwyr proffesiynol

dwyieithog ledled Cymru, ac mae astudio yn y Gymraeg yn rhoi cyfle i

ti gryfhau dy sgiliau iaith wrth adeiladu sylfaen gref ar gyfer dy yrfa yn y dyfodol. Yma, nid oes rhaid i ti ddewis rhwng dy iaith a dy uchelgais, rydym yn galluogi'r ddau.

Byddi di'n ymuno â

chymuned Gymraeg ffyniannus sy'n dathlu'r iaith, y diwylliant, a'r cyfleoedd mae'n eu creu.

Meddygaeth:

Fferylliaeth:

YSGOL FEDDYGOL GOGLEDD CYMRU

Mae rhaglen feddygaeth Prifysgol Bangor yn galluogi myfyrwyr i gwblhau eu gradd feddygaeth gyfan yng ngogledd Cymru, gan weithio’n agos â Bwrdd Iechyd

Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gofal cychwynnol ar draws yr ardal.

Yn 2025, lansiodd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru radd fferylliaeth newydd sbon, gan roi cyfle i fyfyrwyr astudio fferylliaeth yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed.

Mae ein cyrsiau'n cynnig profiad dysgu cyfoethog ac ymarferol, gyda phwyslais cryf ar ddysgu yn y gymuned - sy’n cyd-fynd yn llawn â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymru Iachach'.

CYRSIAU

34 Addysg, Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

34-35 Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

35 Bioleg a Biotechnoleg

35-36 Busnes, Marchnata a Rheolaeth

36 Cadwraeth, Daearyddiaeth a’r Amgylchedd

37 Cerddoriaeth a Drama

37-38 Cyfrifiadureg

38 Cymraeg

39 Ffilm a'r Cyfryngau

39 Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

40 Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

41 Gwyddorau'r Eigion

42 Hanes ac Archaeoleg

42 Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

43 Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Sbaeneg)

43 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

44 Meddygaeth

44 Peirianneg a Dylunio Cynnyrch

45 Seicoleg 45-46 Swoleg

46 Troseddeg, Plismona a Gwyddorau Cymdeithas

47 Y Gyfraith

Edrychwch ar dudalennau

34-47 i weld cyrsiau unigol

BLWYDDYN SYLFAEN

Mae opsiynau i astudio Blwyddyn Sylfaen ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’n graddau.

Edrycha ar y tudalennau cyrsiau ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

OPSIYNAU CYFRWNG CYMRAEG

Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

I gael gwybod faint o’ch cwrs sydd ar gael yn Gymraeg, ewch i: colegcymraeg.ac.uk

Cod

Teitl y Rhaglen

Cymhwyster

Addysg, Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

X131 Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cwrs cyfrwng Saesneg)

X130 Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X313 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cwrs cyfrwng Saesneg)

X314 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X315 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cwrs cyfrwng Saesneg)

X316 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X321 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg (cwrs cyfrwng Cymraeg)

X319 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg

Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

N391 Bancio a Chyllid

N39F Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N312 Bancio gyda Thechnoleg Ariannol

N32F Bancio gyda Thechnoleg Ariannol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 3 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

Tariff
Blwyddyn

Cod Teitl y Rhaglen

Bancio, Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg

NN4H Cyfrifeg a Chyllid

NN4F Cyfrifeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N4N2 Cyfrifeg a Rheolaeth

N4NF Cyfrifeg a Rheolaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L110 Economeg

L10F Economeg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L1N3 Economeg a Chyllid

L1NF Economeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Bioleg a Biotechnoleg

C100 Bioleg

Cymhwyster

Blwyddyn

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 64-104 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 64-104 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 64-104 4 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C101 Bioleg MBiol (Anrh) 128-144 4 blynedd

C10F Bioleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

C511 Bioleg gyda Biotechnoleg

BSc (Anrh) 48-104 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C510 Bioleg gyda Biotechnoleg MBiol (Anrh) 128-144 4 blynedd

Busnes, Marchnata a Rheolaeth

N313 Dadansoddeg Data Busnes

N31F Dadansoddeg Data Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N501 Marchnata

N50F Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

Cod

Teitl y Rhaglen

Busnes, Marchnata a Rheolaeth

Cymhwyster

Blwyddyn

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

N111 Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

N200 Rheoli Busnes

N20F Rheoli Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen)

N832 Rheoli Twristiaeth

N833 Rheoli Twristiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Cadwraeth, Daearyddiaeth a'r Amgylchedd

D447 Cadwraeth Amgylcheddol

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

BSc (Anrh) 96-120 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-80 4 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

D515 Cadwraeth a Rheoli Coetiroedd BSc (Anrh) 88-120 3 blynedd

C347 Cadwraeth ac Ecoleg Bywyd Gwyllt BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

5DKD Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

D500 Coedwigaeth BSc (Anrh) 88-120 3 blynedd

L700 Daearyddiaeth BA (Anrh) 104-136 3 blynedd

F800 Daearyddiaeth

BSc (Anrh) 104-136 3 blynedd

F801 Daearyddiaeth MGeog (Anrh) 112-144 4 blynedd

F900 Gwyddorau'r Amgylchedd BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

F850 Gwyddorau'r Amgylchedd MEnvSci (Anrh) 120-136 4 blynedd

F90F Gwyddorau'r Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

Cod Teitl y Rhaglen

Cerddoriaeth a Drama

W300 Cerddoriaeth

W302 Cerddoriaeth

W30F Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

W32F Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

WW38 Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol

W3R8 Cerddoriaeth ac Ieithoedd Modern

W311 Cerddoriaeth a Ffilm

WW43 Cerddoriaeth a Drama

P34W Ffilm a Drama

QW34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama

P31W Y Cyfryngau a Drama

Cyfrifiadureg

G400 Cyfrifiadureg

H117 Cyfrifiadureg

G40F Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

I103 Cyfrifiadureg a Dylunio Gemau

H118 Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial

H114 Gwyddor Data a Delweddu

Cymhwyster

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BMUS (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 48-96 4 blynedd

BMUS (Anrh) 48-96 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 96-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 96-128 3 blynedd

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

MComp (Anrh) 128-144 4 blynedd

BSc (Anrh) 48-112 4 blynedd

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

Cod Teitl y Rhaglen

Cyfrifiadureg

I110 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol

IN00 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol i Fusnesau

GW49 Technolegau Creadigol

Cymraeg

Q565 Cymraeg i Ddechreuwyr

Q562 Cymraeg1

QW53 Cymraeg a Cherddoriaeth

LQ35 Cymraeg a Chymdeithaseg

QV51 Cymraeg a Hanes

QMV2 Cymraeg a Hanes Cymru

3Q5Q Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg

Q5VV Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

QQ15 Cymraeg ac Ieithyddiaeth

Q5WK Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol

Q563 Cymraeg Proffesiynol

QWM5 Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau

Cymhwyster

Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 96-120 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

Tariff
Blwyddyn

Cod Teitl y Rhaglen

Ffilm a'r Cyfryngau

Cymhwyster

Blwyddyn

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

WPQ3 Celfyddydau Creadigol BA (Anrh) 96-128 3 blynedd

33PQ Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

P318 Y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth BA (Anrh) 96-128 3 blynedd

P320 Y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

BA (Anrh) 48-88 4 blynedd

P302 Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

P323 Y Cyfryngau a Cherddoriaeth BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

WP38 Y Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

Gwyddorau Chwaraen ac Ymarfer

C611 Gwyddorau Chwaraeon Antur BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

C616 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer

C61F Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer (gyda Blwyddyn Sylfaen)

C617 Gwyddorau Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Hyfforddi

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-96 4 blynedd

BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

C680 Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer BSc (Anrh) 104-128 3 blynedd

Cod Teitl y Rhaglen

Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

B720 Bydwreigiaeth

B200 Ffarmacoleg

B20F Ffarmacoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

B230 Fferylliaeth

B231 Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoadol

B102 Gwyddor Biofeddygol

B112 Gwyddor Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

B100 Gwyddorau Meddygol

B110 Gwyddorau Meddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Cymhwyster

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

BMid (Anrh) 112-120 3 blynedd

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 48-104 4 blynedd

MPharm Gweler y wefan 4 blynedd

MPharm Gweler y wefan 5 mlynedd

BSc (Anrh) 120-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 64-112 4 blynedd

BMedSci (Anrh) 120-136 3 blynedd

BMedSci (Anrh) 64-112 4 blynedd

B751 Hylendid Deintyddol DipHE 80 2 flynedd

L510 Iechyd a Gofal Cymdeithasol BA (Anrh) 96-112 3 blynedd

B763 Nyrsio Anableddau Dysgu 2

B762 Nyrsio Iechyd Meddwl 2

B741 Nyrsio Oedolion 2

B732 Nyrsio Plant 2

B821 Radiograffeg Diagnostig 3

BN (Anrh) 96-120 3 blynedd

BN (Anrh) 96-120 3 blynedd

BN (Anrh) 96-120 3 blynedd

BN (Anrh) 96-120 3 blynedd

BSc (Anrh) 120 3 blynedd

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Gwyddorau'r Eigion

C160 Bioleg Môr

C167 Bioleg Môr

C16F Bioleg Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen)

CF17 Bioleg Môr ac Eigioneg

F712 Bioleg Môr ac Eigioneg

CC13 Bioleg Môr a Swoleg

C169 Bioleg Môr a Swoleg

Cymhwyster

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

BSc (Anrh) 120-144 3 blynedd

MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

BSc (Anrh) 48-112 4 blynedd

BSc (Anrh) 120-144 3 blynedd

MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

BSc (Anrh) 120-144 3 blynedd

MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

C355 Cadwraeth Fertebratau’r Môr BSc (Anrh) 112-128 3 blynedd

C356 Cadwraeth Fertebratau’r Môr MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

F840 Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg BSc (Anrh) 112-128 3 blynedd

F650 Eigioneg Ddaearegol

F652 Eigioneg Ddaearegol

F62F Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen)

F734 Eigioneg Ffisegol

F700 Gwyddorau'r Eigion

BSc (Anrh) 120-144 3 blynedd

MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

BSc (Anrh) 48-112 4 blynedd

MSci (Anrh) 128-152 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-128 3 blynedd

F715 Gwyddor Morol a Chadwraeth BSc (Anrh) 112-128 3 blynedd

F7F6 Yr Eigion a Geoffiseg

BSc (Anrh) 120-144 3 blynedd

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Hanes ac Archaeoleg

V100 Hanes

V10F Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen)

V103 Hanes ac Archaeoleg

VW13 Hanes a Cherddoriaeth

3QV1 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg

V140 Hanes Modern a Chyfoes

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

QQC3 Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg

QQCF Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

Q3WL Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol

Q1C8 Ieithyddiaeth a Seicoleg

Q140 Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Q3R8 Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern

Cymhwyster

Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 48-96 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 48-96 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

Tariff
Blwyddyn

Cod

Teitl y Rhaglen

Ieithoedd Modern 4

R817 Astudiaethau Ieithoedd Modern

R800 Ieithoedd Modern

R808 Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen)

R805 Ieithoedd Modern a Chymraeg

R818 Ieithoedd Modern a Ffilm

R804 Ieithoedd Modern a Hanes

R801 Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

R807 Ieithoedd Modern a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

R820 Ieithoedd Modern a'r Cyfryngau

R806 Ieithoedd Modern ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Cymhwyster

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 48-96 5 mlynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

8H25 Llenyddiaeth Saesneg

2P17 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

32N6 Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth

W801 Ysgrifennu Creadigol

W8R8 Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 4 blynedd

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)
Blwyddyn

Cod Teitl y Rhaglen

Meddygaeth

A100 Meddygaeth (BMBS)

A101 Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion (BMBS)

A103 Porth i Feddygaeth

Cymhwyster

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

MBBCh Gweler y wefan 5 mlynedd

MBBCh Gweler y wefan 4 blynedd

MBBCh Gweler y wefan 6 blynedd

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad

Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Peirianneg a Dylunio Cynnyrch

H607 Peirianneg BEng (Anrh) 120-136 3 blynedd

H608 Peirianneg MEng (Anrh) 128-144 4 blynedd

H60F Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BEng (Anrh) 48-112 4 blynedd

H611 Peirianneg Electronig BSc (Anrh) 104-120 3 blynedd

H610 Peirianneg Electronig BEng (Anrh) 120-136 3 blynedd

H601 Peirianneg Electronig MEng (Anrh) 128-144 4 blynedd

H61F Peirianneg Electronig (gyda Blwyddyn Sylfaen) BEng (Anrh) 48-112 4 blynedd

H661 Peirianneg Rheolaeth ac Offeryniaeth MEng (Anrh) 128-144 4 blynedd

H612 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol BEng (Anrh) 120-136 3 blynedd

H617 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol MEng (Anrh) 128-144 4 blynedd

W240 Dylunio Cynnyrch (cwrs cyfrwng Saesneg) BSc (Anrh) 96-128 3 blynedd

W241 Dylunio Cynnyrch (cwrs cyfrwng Cymraeg) BSc (Anrh) 96-128 3 blynedd

Cod Teitl y Rhaglen

Seicoleg

C800 Seicoleg

C80F Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

C801 Seicoleg gyda Niwroseicoleg

C880 Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd

C813 Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig

Swoleg

C300 Swoleg

Cymhwyster

Blwyddyn

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 64-104 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C301 Swoleg MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C30F Swoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

C330 Swoleg gydag Adareg

BSc (Anrh) 64-112 4 blynedd

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C334 Swoleg gydag Adareg MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C3L2 Swoleg gyda Chadwraeth

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

CD34 Swoleg gyda Chadwraeth MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C304 Swoleg gyda Herpetoleg

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C303 Swoleg gyda Herpetoleg MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C329 Swoleg gyda Phrimatoleg

BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C333 Swoleg gyda Phrimatoleg MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C335 Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

Cod Teitl y Rhaglen

Swoleg

Cymhwyster

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

C336 Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C350 Swoleg gyda Swoleg Môr BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C353 Swoleg gyda Swoleg Môr MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

C3D3 Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid BSc (Anrh) 112-136 3 blynedd

C302 Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid MZool (Anrh) 128-144 4 blynedd

Troseddeg, Plismona a Gwyddorau Cymdeithas

V5V6 Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

L300 Cymdeithaseg

LL3N Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L30F Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

LM39 Gwleidyddiaeth

L200 Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen)

L20F Gwyddor Cymdeithas (cwrs cyfrwng Cymraeg)

L436 Plismona Proffesiynol

M930 Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

L3C8 Troseddeg a Seicoleg

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 48-96 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 48-96 4 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BSc (Anrh) 96-112 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

BA (Anrh) 104-128 3 blynedd

Blwyddyn

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

Cod Teitl y Rhaglen

Y Gyfraith

M212 Cyfraith Droseddol

Cymhwyster

Blwyddyn

Tariff Dangosol (2027) Hyd y cwrs (Bl)

Lleoliad / Profiad Rhyngwladol ychwanegol (dewisol)

LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M100 Y Gyfraith LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M101 Y Gyfraith (Rhaglen Garlam 2 flynedd)

LLB (Anrh) Gradd baglor 2.ii (neu gyfwerth) mewn pwnc arall 2 flynedd

M10F Y Gyfraith (gyda Blwyddyn Sylfaen) LLB (Hons) 64-104 4 blynedd

M1Q5 Y Gyfraith gyda Chymraeg LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M1L2 Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M1R8 Y Gyfraith gydag Ieithoedd Modern LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M1C8 Y Gyfraith gyda Seicoleg

LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

M1M9 Y Gyfraith gyda Throseddeg LLB (Anrh) 112-136 3 blynedd

1 Cwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yw hwn - gweler y wefan am fanylion pellach.

2 Llawn-amser, ar y campws. Mae’n bosib y bydd dulliau eraill o gyflwyno, gan gynnwys hyblygrwydd o ran sut a ble rwyt ti’n astudio, dysgu rhan-amser a dysgu o bell ar gael ar gyfer y cwrs hwn - gweler y wefan am fanylion.

3 Lleoliad: Campws Wrecsam.

4 Llwybr iaith i ddechreuwyr ar gael - gweler y wefan am y dewis llawn.

YMAGYDA THI YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY

YM MHRIFYSGOL BANGOR

Cenhadaeth Ysgol Fusnes Albert Gubay yw grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ac entrepreneuriaid, fel ti, i greu dyfodol mwy disglair a chyfrifol.

Byddwn yn dy gefnogi i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnat i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

BETH ALLET EI DDISGWYL:

• Addysgu ysbrydoledig sy’n seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf a dealltwriaeth am fusnes yn y byd go iawn

• Cyfleoedd i weithio gyda chyflogwyr, gan gynnwys partneriaethau diwydiant, lleoliadau a phrojectau busnes byw

• Meddylfryd strategol, wedi ei ddatblygu trwy ddysgu dan arweiniad heriau a rhaglenni sy'n canolbwyntio ar arloesi

• Cyfleusterau dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys ystafell fasnachu ariannol o'r radd flaenaf, lle byddi di'n gweithio gyda data marchnad go iawn

• Cyfleoedd i weithio ar brojectau ymgynghoriaeth ledled y Deyrnas Unedig, gan roi eich gwybodaeth yn nwylo'r unigolion hynny sy'n gyrru'r economi

TELERAU AC AMODAU

Mae Prifysgol Bangor yn

gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir

yn yr arweinlyfr cyrsiau hwn yn gywir ar adeg ei argraffuChwefror 2025. I weld y telerau a’r amodau llawn, cer i:

bangor.ac.uk/cy/prosbectws/ telerauacamodau

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Prosbectws Poced 2027 by Bangor University - Issuu