Skip to main content

Plentyndod Addysg Uwch yng Nghymru sy'n Wybodus am Drawma ac ACEs Papur Gweledigaeth

Page 1

Canolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Addysg Uwch yng Nghymru sy'n Wybodus am Drawma ac ACEs Pwrpas

Papur Gweledigaeth

I amlinellu'r weledigaeth ar gyfer ein gwaith o ddatblygu Lleoliadau Addysg Uwch Gwybodus am Drawma i Bwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc Senedd Cymru. Mae'r papur hwn yn amlinellu'r angen am y dull hwn, a rhai canlyniadau cyffredinol disgwyliedig o'r cynllun peilot rydym ar fin cychwyn arno gyda Phrifysgol Glyndŵr. Cyflwyniad Canolfan Gymorth ACE Mae'r Ganolfan Gymorth ACE yn cael ei chyllido'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd ar gyfer trawsnewid system gyfan ar raddfa fawr. Ein gorchwyl yw galluogi a chynorthwyo sefydliadau a chymunedau mewn gwneud newidiadau sy'n gwneud Cymru yn arweinydd byd mewn atal, lliniaru a mynd i'r afael ag ACEs a'u heffaith arwyddocaol. Rydym yn anelu at herio a thrawsnewid ffyrdd o weithio a chreu symudiad mewn cymdeithas er mwyn torri'r cylch tymor hir o ACEs, gofid a thrawma. Rydym ar y daith yn barod i wireddu un o'n huchelgeisiau i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn gryf, cynhwysol ac yn wybodus am drawma, gan helpu plant i ffynnu a chael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym yn cefnogi hyn trwy ddarparu hyfforddiant i wneud amgylchedd yr ysgol yn ymwybodol o ACE, ac yna'n gallu ymateb yn hyderus i drawma, yn unol â nod Llywodraeth Cymru o sicrhau cynhwysiant, lles, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion, gan gefnogi datblygiad yr ymagwedd ysgol gyfan. Rydym yn cydnabod bod Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) yn rhannau hanfodol o'r system addysg gyfan a'u bod yn dechrau cydgynhyrchu a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) a Cholegau Addysg bellach i ddatblygu ymagwedd system gyfan sy'n gweithio ar draws sectorau ac yn cyflawni ar brif flaenoriaethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid penodol, ychwanegol ar gyfer eleni i symud yr ymagwedd Addysg Bellach ymlaen. Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu ar y cyfoeth o waith ac ymarfer presennol a gweithio ar y cyd i gydnabod beth sydd wedi cael ei gyflawni a ble y gall fod ymdrech fanylach. Mewn Addysg Bellach, mae nifer o sgyrsiau allweddol wedi bod gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid Addysg Bellach a Cholegau Addysg Bellach unigol i ddatblygu cynnig ar gyfer y gwaith hwn yn y lleoliad hwnnw, ac mae gwaith yn parhau i adnabod maes peilot. Mewn Addysg Uwch, gwahoddodd y Ganolfan bob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru i fod yn rhan o'n hymagwedd. Mae trafodaethau penodol gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Glyndŵr, Llywodraeth Cymru (LlC), CCAUC a Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi llunio datblygiad adnoddau tuag at ymagwedd wybodus, sefydliedig am ACE ar draws y sector. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys:


• •

• •

Egwyddorion ar gyfer Lleoliadau Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB) sy'n Wybodus am ACE/Trawma - gweler atodiad 1 Sefydliadau Gwybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Pecyn Offer Gweithredu Sefydlu Ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac Ymarfer Gwybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cyflwyniad i e-ddysgu am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Fframwaith ar gyfer darparu cynaliadwy, ar gyfer ymgynghori, sy'n cynnwys Nod Ansawdd posibl

Mae'r cyd-destun digynsail y cawn ein hunain oll yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd wedi arwain at ganolbwyntio o'r newydd ar effaith trawma a gofid a'r angen i allu ymateb yn effeithiol i hynny, yn ogystal ag i anghenion penodol unigolion. Mae gan bawb ohonom yn awr brofiad o ofid oherwydd COVID19, a rhywfaint o brofiad gwirioneddol o drawma fel profedigaeth, bod yn ynysig neu bryder sy'n cymell adwaith normal i ymdopi. Ond yn ogystal â hynny mae'r gofid parhaus roedd rhai pobl yn ei brofi'n barod fel camdriniaeth yn y cartref, neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol a allai fod wedi cael eu gwaethygu gan fesurau cadw pellter cymdeithasol, diweithdra ac anghydraddoldeb, ac nid ydym eto'n gwybod am effaith lawn hyn yn seicolegol ar blant a phobl ifanc. Mae'r pandemig presennol wedi atal plant a phobl ifanc rhag profi symud i Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn ffordd y byddent yn ei gwneud fel arall, ac o ganlyniad roeddem yn teimlo bod angen i ni symud yn gyflymach at dreialu ymagwedd eleni sy'n ystyried yr amgylchiadau hyn ac yn ein galluogi i ganolbwyntio ymdrech lle mae ei hangen fwyaf. Rydym wrth ein boddau fod Prifysgol Glyndŵr wedi cytuno i fod yn brifysgol sy'n arwain ac yn gweithio gyda ni, i brofi a mesur ein cysyniad fydd wedyn yn gallu cael ei uwchraddio fel y bo'n berthnasol, gyda'r nod o ymagwedd Cymru Gyfan ond wedi'i weithredu yn unol ag anghenion a blaenoriaethau lleol. Cefndir a Chyd-destun Beth mae'n ei olygu i fod yn wybodus am ACEs-/Trawma? Mae ymarfer gwybodus am drawma yn gydnabyddiaeth fod profiadau trawma yn bosibilrwydd i bawb ac ystyriaeth i hyn trwy bolisïau, gweithdrefnau ac ymagweddau. Gweithgareddau sy'n blaenoriaethu diogelwch corfforol ac emosiynol ac yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer lles, gwella ac adferiad - gyda rôl gan bawb. Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rhai sy'n digwydd yn ystod plentyndod cynnar sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru e.e. byw ar aelwyd lle mae camdriniaeth yn y cartref, camddefnydd sylweddau neu broblemau iechyd meddwl rhieni. Mae ymchwil i fynychder ac effaith ACEs yng Nghymru yn arddangos effeithiau cronnol ACEs a'r risg gynyddol o ymddygiadau sy'n niweidio iechyd, llesiant meddyliol gwael a risg gynyddol o salwch corfforol a meddyliol.


Mae'r Ganolfan Gymorth ACE yn cydnabod effaith bosibl trawma a gofid o'r ymchwil yn ogystal â'r cysylltiadau â thlodi, amddifadedd ac anghydraddoldebau dilynol. Rydym yn gweithredu ymagwedd seiliedig ar gryfderau i ymateb, trwy adnabod pwysigrwydd diogelwch (diogelwch diwylliannol, emosiynol, a chorfforol) a chymorth i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio yn ogystal â ffactorau diogelu a chydnerthedd (e.e. perthnasoedd cadarnhaol, teimlo mewn cysylltiad ac ymdeimlad o berthyn) yn gyffredinol fel ffactorau lliniaru. Mae Plant ac Oedolion yn gallu dod i gysylltiad â ffynonellau cydnerthedd neu ffactorau diogelu ar sawl adeg yn eu bywydau, ac nid yw'n syndod fod addysg yn chwarae rôl arwyddocaol a hanfodol. Cymhwyso o fewn lleoliadau Addysg - Pwyntiau Trawsnewid Pwyntiau trawsnewid yw lle mae plant ac oedolion ifanc yn gallu profi risg uwch o ffactorau diogelu yn cael eu cymryd i ffwrdd. Mae'r trawsnewidiadau hyn yn newidiadau arwyddocaol yn eu bywydau wrth iddynt symud trwy newidiadau datblygiadol corfforol a meddyliol o laslencyndod plentyn at ‘fod yn oedolyn’, ond hefyd o amgylcheddau lle roedd cymorth i rai lle nad oes. Y rheiny mewn ysgol gynradd sy'n derbyn y cymorth mwyaf mewn meithrin amgylcheddau trwy athro dosbarth unigol sy'n hyrwyddo mynediad at berthnasoedd sefydlog a dibynadwy ag oedolion. Mae ysgolion uwchradd yn cyflwyno amgylchedd mwy heriol, maen nhw'n aros yn hafan ddiogel i'r plant hynny sydd mewn perygl neu'n prof ACEs gartref ond mae'n fan o'r system lle mae plant yn syrthio i lwybrau gwahanol. Er bod ffynonellau cydnerthedd o hyd, trwy ddarparu cyfleoedd i gysylltu ac am strwythur a chymorth, os yw'r ffactorau diogelu hynny yn cael eu lleihau neu ddileu maen nhw mewn mwy o berygl o gael eu heffeithio gan y trawma maen nhw wedi'i brofi. Mae'r rheiny sy'n dewis mynd i mewn i Addysg Bellach (AB) neu Addysg Uwch (AU) fel arfer yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn dymuno aros mewn addysg. Mae hon yn adeg trawsnewid allweddol o blentyndod i fod yn oedolyn (trwy ddiffiniad oedran), ond i mewn i amgylchedd lle mae disgwyl i blant fod yn oedolion yn sydyn. Nid yw llawer ohonynt yn 18 hyd yn oed ar yr adeg hon ac erioed wedi byw oddi cartref. Mae hon yn adeg trawsnewid hollbwysig i'r rheiny sy'n parhau mewn addysg, ac yn adeg lle gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i ymdopi ag effaith profiadau plentyndod. Mae hyn yn gymwys yn yr un modd i fyfyrwyr aeddfed, yn dychwelyd i addysg ac a fydd yn cydbwyso pwysau ariannol a rhai eraill â chymathu ag amgylchedd newydd. Addysg Uwch yng Nghymru sy'n wybodus am ACE-/Trawma Mewn Addysg Uwch, mae ymagwedd sefydliad cyfan yn wybodus am drawma gymaint ynglŷn â lles staff â lles myfyrwyr ac mae am gynnwys y cyrsiau/cymwysterau a gynigir. Mae'n rhaid i ymagwedd wybodus am drawma gynnwys y staff a myfyrwyr eu hunain i'w lunio a deall beth sy'n gweithio i'r brifysgol ei hun i sefydlu a chynnal yr ymagwedd hon dros dymor hir. Nid yw'r ymagwedd hon erioed wedi bod yn bwysicach o ystyried y pandemig COVID 19 byd eang ar hyn o bryd. Mae lefelau ACEs, trawma a bod yn agored i niwed ymhlith darpar fyfyrwyr a gweithlu Addysg Uwch wedi cael eu lluosogi mewn nifer o ffyrdd.


Mae sefydliadau addysgol wedi cau sy'n golygu bod cyfleoedd i adeiladu a chynnal ffactorau cydnerthedd yn gyfyngedig, yn enwedig lle mae'r cartref yn ffynhonnell gofid a thrawma. Yn ogystal â hyn, mae arholiadau wedi cael eu diddymu gan greu llawer o ansicrwydd am ddyfodol unigolion a llwybrau gyrfaoedd a ddewisir. O ganlyniad bydd unrhyw drawsnewidiadau i addysg uwch yn fwy anodd gyda'r tebygolrwydd cryf o bryder cymdeithasol cynyddol, bod yn ynysig, lles/iechyd meddwl gwael a/neu faterion eraill oedd o dan reolaeth o'r blaen. Mae sefydliadau Addysg Uwch yn lleoedd lle mae pobl ifanc yn ffynnu'n aml; ond hefyd lle gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt trwy'r trawsnewidiadau amlhaenog a amlinellir uchod, ac a amlygir fel ardal risg gan waith Papyrus yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar effaith COVID19 ar blant a phobl ifanc. Mae hyn oll yn gofyn am newid mewn cymdeithas ac mae prifysgolion yn rhan o hyn trwy'r myfyrwyr maen nhw'n eu cynorthwyo, y staff maen nhw'n eu cyflogi a'u haddysgu. Rydym yn cydnabod bod Prifysgolion yn gweithio'n galed i gynnal a datblygu eu cynigion presennol i fyfyrwyr a staff a bod llawer o brosesau yn eu lle yn barod i ymateb i ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru, ac o gyrff fel CCAUC a Iechyd Cyhoeddus, sydd wedi datblygu fframweithiau a chyfarwyddyd ynglŷn â iechyd meddwl, neu gamdriniaeth yn y cartref. Ond beth y teimlwn y gallwn ei gynnig yw ffordd o gymryd yr holl gydrannau hynny a gweithredu ymagwedd system gyfan sy'n wybodus am drawma, sy'n cydnabod y ffaith y gallai'r holl fyfyrwyr a staff fod wedi profi trawma, a bod ganddynt ymatebion gwahanol iddo. Bydd sail y ddealltwriaeth honno yn helpu i lunio a chynorthwyo'r nod cyffredinol o atal aildrawmateiddio ac adeiladu amgylchedd sy'n ymatebol i drawma i bawb, i gynorthwyo'r ymateb penodol, wedi'i dargedu ar gyfer y rheiny sydd â'i angen arnynt fel yr amlinellir yn y fframweithiau presennol. Pam bod hyn yn bwysig a beth fyddai'n ei olygu yn ymarferol? Mae'r prif bileri mae prifysgolion yn cael eu mesur arnynt yn cynnwys: ‘denu myfyrwyr i ymgeisio, denu'r staff addysgu gorau, gan gadw myfyrywr pan gyrhaeddant, a'u cynorthwyo i gwblhau eu hastudiaethau tra'n cael profiad boddhaol yn y brifysgol, a chyflawni'r canlyniadau academaidd gorau sy'n cyrraedd eu potensial ac yn eu galluogi i ennill cyflogaeth, a chynnal safonau academaidd a staff. Mae Colegau Addysg bellach hefyd yn wynebu'r un heriau, er y gallent gael eu mesur ychydig yn wahanol. Mae ymagwedd wybodus am drawma i Addysg Uwch yn dilyn yr egwyddorion hyn yn ymarferol; sylweddoli mynychder trawma, cydnabod sut mae'n cael effaith ar fyfyrwyr a'r gweithlu, gwrthweithio aildrawmateiddio ac ymateb wrth roi gwybodaeth ar waith. Felly, mae unrhyw brifysgol sy'n adnabod a deall demograffeg ei phoblogaeth, ac sydd â gwasanaeth cynorthwyo myfyrwyr eisoes sy'n gweithio tuag at nodau a safonau lles a osodir gan e.e. CCAUC a Phrifysgolion Cymru ayb, yn gweithio'n barod tuag at gydnabod mynychder materion fel salwch meddwl, camddefnydd sylweddau, camdriniaeth yn y cartref ayb. Beth fyddai o fudd ac yn gwella'r gwaith hwn yw datblygu'r sefydliad cyfan hwnnw, ymagwedd system gyfan sy'n newid yr amgylchedd i bawb ac yn sicrhau bod ffactorau diogelu yn gynwysedig ac yn hygyrch. Byddai gweithio mewn dull gwybodus am drawma yn cyflawni hyn. Mae'r ymagwedd gyffredinol, seiliedig ar gryfderau a gynigir i ddatblygu model gwybodus am drawma i Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru yn cefnogi elfennau a amlygir yn natganiad polisi Llywodraeth Cymru ar Addysg uwch ar


coronafeirws sy'n cydnabod pwysigrwydd, yn awr mwy nac erioed, iechyd a lles staff a myfyrwyr yn enwedig gyda'r pryder a gofid ychwanegol a achosir gan y pandemig a'r ymrwymiad mewn Addysg Uwch i Ddatganiad Polisi Lles a Iechyd CCAUC a chyflawni disgwyliadau polisi lles Llywodraeth Cymru. Mae'n cwblhau'r gofyn i Sefydliadau Addysg Uwch gael gweithgareddau a mesurau yn eu lle i gynorthwyo iechyd a lles staff a myfyrwyr gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr a allai fod yn teimlo'n ynysig yn ystod y Pandemig a'r brifysgol yn brif breswylfan / man diogelwch / ffactor pwysig ar gyfer cydnerthedd iddynt. Yn gryno, mae cymryd y math hwn o ymagwedd yn adeiladu ar waith presennol a bydd yn fuddiol i brif nodau'r brifysgol neu goleg Addysg Bellach, yn ogystal â sicrhau bod yr holl fyfyrwyr a staff yn cael eu cynorthwyo a'u grymuso i wneud eu gorau a chyflawni eu potensial. Camau nesaf: Rydym eisoes wedi datblygu set o egwyddorion ar gyfer symud y gwaith hwn ymlaen yn y lleoliad Addysg Uwch/Addysg Bellach. Yn awr rydym wedi newid ymagwedd at ymateb i'r angen presennol ac yn datblygu trefniant peilot mwy penodol yn y ddau leoliad i archwilio dichonoldeb y gwaith hwn, byddwn yn bwriadu rhoi rhai camau cytunedig yn eu lle i symud hyn ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Glyndŵr yn y lle cyntaf i gynnal hunanasesiad ac adolygiad o beth sydd yn ei le yn barod, datblygu cynhyrchion i gynorthwyo unrhyw feysydd angen a adnabyddir a chynllun clir ar gyfer gwerthuso unrhyw ran o'r ymagwedd gyffredinol. Byddem yn hapus iawn i ddarparu diweddariadau ychwanegol i'r pwyllgor hwn wrth i'r gwaith fynd rhagddo, yn enwedig wedi i ni wneud trefniadau cadarnach gydag Addysg Bellach i adnabod coleg peilot. A byddwn wrth gwrs yn hapus i rannu unrhyw un o'r adnoddau a grybwyllir uchod, neu rai newydd wrth iddynt ddatblygu, a allai fod o ddefnydd ehangach i gynorthwyo gwaith gyda phlant a phobl ifanc.


Atodiad 1 Lleoliadau AU ac AB sy'n Wybodus am Drawma Mae lleoliadau AU ac AB yn deall, adnabod ac ymateb i effeithiau pob math o drawma ac yn blaenoriaethu diogelwch corfforol ac emosiynol mewn dysgu. Mae ganddynt ddealltwriaeth o sut mae trawma yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac ymateb i hyn trwy weithredoedd yn ogystal â thrwy gyfrwng y cwricwlwm. Mae'n ystyried arddulliau addysgu dan arweiniad myfyrwyr, creu arferion adferol a meithrin cydnerthedd wrth hwyluso dysgu. Mae lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach sy'n ystyriol o drawma: Yn sylweddoli:

   

y y y y

gall myfyrwyr (a staff) fod â hanes o drawma megis ACEs gall ymddygiadau negyddol ddigwydd fel ymgais i ymdopi â thrawma dylid atal risgiau aildrawmateiddio a thrawma eilaidd gall adnoddau cydnerthedd leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â thrawma.

Yn adnabod:

  

y gwahanol fathau o drawma y gellir eu profi arwyddion a symptomau trawma bod cymorth i staff a'u llesiant yn bwysig

Yn ymateb:

    

trwy uchafu'r dewis i fyfyrwyr trwy addysgu ac ymgorffori dulliau a gwybodaeth i gynorthwyo â'r gwaith o iacháu a grymuso gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar anghenion unigolion sy'n BERTHNASOL yn ddiwylliannol ac yn bersonol mewn modd sy'n ATAL aildrawmateiddio i ddatblygu CYDNERTHEDD ymhlith myfyrwyr fel y gallant dyfu a ffynnu


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Plentyndod Addysg Uwch yng Nghymru sy'n Wybodus am Drawma ac ACEs Papur Gweledigaeth by ACESupportHub - Issuu