Gwerthusiad o'r Dull Ysgol sy'n seiliedig ar ACE mewn tair ysgolion uwchradd yng Nghymru

Page 13

Heb amheuaeth, bydd arweinyddiaeth a pharodrwydd ar gyfer newid hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni hyn ar draws sectorau proffesiynol22, a dadleuwyd mai hwn yw’r prif ysgogwr dros ddiwygio mewn ysgolion23,24. Canfuwyd bod ymrwymiad uwch arweinwyr, cefnogaeth a dosbarthiad adnoddau yn hanfodol ar gyfer ymgysylltiad effeithiol mewn rhaglen ymlyniad-ymwybodol mewn ysgolion ac iddo gael effaith ar yr ysgol24. Mae absenoldeb arweiniad cryf i yrru newid yn dilyn hyfforddiant gwybodus am ACE yn un o’r ysgolion peilot yn amlygu ei bwysigrwydd ar y daith i fod yn wybodus am ACE a chryfhau canlyniadau i blant.

Cyfyngiadau’r Gwerthusiad Roedd gweithredu’r gwerthusiad yn wynebu nifer o heriau allweddol, sydd wedi effeithio ar ansawdd y data a gasglwyd, ac sy’n cynyddu tuedd bosibl. Felly dylid trin y ddirnadaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn gyda gofal ynghylch y perthnasedd o fewn lleoliadau ysgol uwchradd a threiglo ehangach ar gyfer ysgolion yn y sector hwn. Roedd y dair ysgol a gynhwyswyd yn y rhaglen wedi hunan-ddewis ac yn ymddiddori mewn mynd i’r afael ag ACEs; nid ydynt yn cynrychioli’r holl ysgolion yng Nghymru, felly ni ellir cyffredinoli’r canfyddiadau a adroddir fan hyn.

Gwerthusiad o Ymagwedd Ysgol Wybodus am Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) mewn tair ysgol uwchradd yng Nghymru | 13


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gwerthusiad o'r Dull Ysgol sy'n seiliedig ar ACE mewn tair ysgolion uwchradd yng Nghymru by ACESupportHub - Issuu